Gwnaed
9 Gorffennaf 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Gorffennaf 2009
Yn dod i rym
1 Awst 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1) ("y Ddeddf") i'r Ysgrifennydd Gwladol ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.(2)
Yn unol ag adran 27(7)(a) o'r Ddeddf, maent wedi ymgynghori â'r gorfforaeth addysg bellach o'r enw Coleg Garddwriaeth Cymru(3) ("CGC"). Yn unol ag adran 27(2), gwneir y Gorchymyn gyda chydsyniad y gorfforaeth addysg bellach o'r enw Coleg Glannau Dyfrdwy(4) a'r gorfforaeth addysg uwch o'r enw Prifysgol Glyndŵr(5).
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg Garddwriaeth Cymru (Diddymu) 2009 a daw i rym ar 1 Awst 2009.
2. Ar 1 Awst 2009 diddymir CGC a bydd–
(a) pob eiddo, hawl a rhwymedigaeth CGC a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn cael ei drosglwyddo neu ei throsglwyddo i Brifysgol Glyndŵr, sef corff corfforaethol a sefydlwyd at ddibenion sy'n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol;
(b) pob eiddo, hawl a rhwymedigaeth CGC a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen yn cael ei drosglwyddo neu ei throsglwyddo i Brifysgol Glyndŵr a Choleg Glannau Dyfrdwy i'w dal ar ymddiried iddynt eu hunain fel tenantiaid ar y cyd mewn cyfrannau cyfartal ac ar ymddiried i'w defnyddio at ddibenion elusennol sydd at ddibenion addysgol yn unig;
(c) pob eiddo, hawl a rhwymedigaeth arall CGC sydd heb ei gynnwys neu ei chynnwys ym mharagraffau (a) a (b) o'r Erthygl hon yn cael ei drosglwyddo neu ei throsglwyddo i Goleg Glannau Dyfrdwy.
3. Bydd adran 26(2), (3) a (4) o'r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson sy'n gyflogedig gan CGC yn union cyn 1 Awst 2009 fel petai'r cyfeiriadau yn yr adran honno–
(a) at berson y mae'r adran honno yn gymwys iddo yn gyfeiriad at berson sy'n gyflogedig fel hynny;
(b) at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 1 Awst 2009;
(c) at y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at CGC;
(ch) at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Goleg Glannau Dyfrdwy, ac eithrio mewn perthynas â'r cyflogeion hynny a ddynodir yn Rhan 3 o'r Atodlen ("Cyflogeion Rhan 3");
(d) at y gorfforaeth mewn perthynas â'r Cyflogeion Rhan 3 yn gyfeiriadau at Brifysgol Glyndŵr.
J Griffiths
Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
9 Gorffennaf 2009
Erthyglau 2 a 3
1. Y buddiant sy'n codi, yn ddarostyngedig i'r baich, a phob hawl a rhwymedigaeth sy'n deillio o gytundeb a wnaed rhwng (1) Coleg Garddwriaeth Cymru a (2) Prifysgol Morgannwg neu mewn cysylltiad â'r cytundeb hwnnw, dyddiedig 6 Chwefror 2007.
2. Pob buddiant a phob hawl a rhwymedigaeth cysylltiedig CGC yn laneurgain Sir y Fflint a ddangosir yn fanylach ag ymyl du a chroeslinellau ar y plan sydd ynghlwm wrth y Gorchymyn hwn, sef rhan o'r tir a gynhwyswyd mewn cytundeb dyddiedig 1 Hydref 2000 a wnaed rhwng (1) Cyngor Sir y Fflint (2) Y Cyngor Trosglwyddo Addysg a (3) Coleg Garddwriaeth Cymru, ynghyd â'r adeiladau sydd ar y tir hwnnw.
3. Pob eiddo, hawl a rhwymedigaeth arall CGC a ddefnyddir, a fwynheir ac yr eir iddo neu iddi'n unig i ddarparu addysg uwch a gwasanaethau cysylltiedig o'r tir a'r fangre a ddisgrifiwyd uchod neu sy'n deillio ohonynt [neu fel arall].
4. Pob buddiant a phob hawl a rhwymedigaeth cysylltiedig CGC mewn tir yn laneurgain Sir y Fflint a ddangosir yn fanylach ag ymyl du a chroeslinellau ar y plan sydd ynghlwm wrth y Gorchymyn hwn, sef rhan o'r tir a gynhwyswyd mewn cytundeb dyddiedig 31 Hydref 2000 a wnaed rhwng (1) Cyngor Sir y Fflint (2) Y Cyngor Trosglwyddo Addysg a (3) Coleg Garddwriaeth Cymru gan gynnwys y cyfan o'r tir a gofrestrwyd yn y Gofrestrfa Tir, Swyddfa Cymru o dan rif teitl CYM12524 a'r cyfan o'r tir a gofrestrwyd yn y Gofrestrfa Tir, Swyddfa Cymru o dan deitl Rhif WA613240.
5. Pob eiddo, hawl a rhwymedigaeth arall CGC a ddefnyddir, a fwynheir neu yr eir iddo neu iddi i ddarparu addysg bellach ac uwch a gwasanaethau cysylltiedig o'r tir a ddisgrifiwyd uchod neu sy'n deillio ohono.
Richard Martin Lewis
Mark Birtles Simkin
David Skidmore
Peter Edward Styles
Nicola Sweeting
Angela Winstanley
Tamsin Jane Young
View a larger version of this image
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu gydag effaith o 1 Awst 2009 y gorfforaeth addysg bellach a sefydlwyd i redeg Coleg Garddwriaeth Cymru. Mae'n darparu ar gyfer trosglwyddo ei eiddo, ei hawliau a'i rwymedigaethau i Goleg Glannau Dyfrdwy a Phrifysgol Glyndŵr ac eiddo, hawliau a rhwymedigaethau penodol eraill a fydd yn cael eu trosglwyddo i Goleg Glannau Dyfrdwy a Phrifysgol Glyndŵr i'w dal at ddibenion addysgol. Mae'r Gorchymyn yn sicrhau hawliau cyflogeion y gorfforaeth drwy gymhwyso adran 26(2) i (4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
Nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i baratoi ar gyfer yr offeryn hwn, gan nad oes ganddo unrhyw effaith ar gostau busnes.
1992 p.13. Diwygiwyd adran 27 gan baragraff 16 o Atodlen 1 i Orchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005 (O.S. 2005/3238) a chan baragraff 8 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 2007 (p.25). Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf lywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
Fe'i sefydlwyd gan Orchymyn Addysg (Corfforaethau Addysg Bellach) 1992 (O.S. 1992/2097). Back [3]
Fe'i sefydlwyd gan Orchymyn Addysg (Corfforaethau Addysg Bellach) 1993(O.S. 1993/97). Back [4]
Cafodd ei sefydlu gan Orchymyn Addysg (Corfforaethau Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 3) 1993 (O.S. 1993/56) o dan yr enw 'North East Wales Institute of Higher Education' (Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru) a'i hailenwi'n Brifysgol Glyndŵr ar 3 Gorffennaf 2008. Back [5]