Gwnaed
1 Gorffennaf 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3 Gorffennaf 2009
Yn dod i rym
3 Awst 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 512ZB(4)(a)(iv) a 568 o Ddeddf Addysg 1996(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol am Ddim) (Credyd Treth Gwaith) (Cymru) 2009. Daw i rym ar 3 Awst 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn–
mae i "Credyd Treth Gwaith" yr un ystyr â "Working Tax Credit" yn Neddf 2002; ac
ystyr "Deddf 2002" ("the 2002 Act") yw Deddf Credydau Treth 2002(2).
2. Mae Credyd Treth Gwaith wedi'i ragnodi at ddibenion adran 512ZB(4)(a)(iv) o Ddeddf Addysg 1996 o dan amgylchiadau pan fo rhiant sydd â hawl i'w gael yn cael ei drin fel un sy'n gwneud gwaith cymwys sy'n talu (o fewn ystyr Deddf 2002) yn rhinwedd rheoliad 7D o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i'w Gael a'r Gyfradd Uchaf) 2002(3).
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
1 Gorffennaf 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi, at ddibenion adran 512ZB o Ddeddf Addysg 1996, Gredyd Treth Gwaith pan fo gan riant hawl i gael y Credyd hwnnw o dan yr amgylchiadau a ddiffinnir yn rheoliad 7D o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i'w Gael a'r Gyfradd Uchaf) 2002.
Effaith y Gorchymyn, pan fo gan riant hawl i gael Credyd Treth Gwaith yn ystod y cyfnod o bedair wythnos yn union ar ôl i'w waith cyflogedig beidio, neu ar ôl i'r rhiant ddechrau gweithio am lai na 16 o oriau yr wythnos, yw bod gan ei blentyn hawl i gael ciniawau ysgol am ddim.
1996 p.56. Mewnosodwyd adran 512ZB gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 512ZB (gweler y diffiniad o "prescribed" yn adran 512 o Ddeddf 1996) ac adran 568 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 211 o Ddeddf Addysg 2002 a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) yn ôl eu trefn. Trosglwyddwyd y swyddogaethau wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [1]
2002 p.21. Back [2]
O.S. 2002/2005 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i'w Gael a'r Gyfradd Uchaf) (Diwygio) 2007/968. Back [3]