Gwnaed
8 Mehefin 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Mehefin 2009
Yn dod i rym
1 Gorffennaf 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1),fel y darllenir yr adrannau hynny ynghyd â pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at yr offeryn Cymunedol y cyfeirir ato yn rheoliad 2(3) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o dro i dro.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau parthed materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod y cyfnod y cafodd y Rheoliadau hyn eu llunio a'u gwerthuso.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru ac y maent yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2009.
2.–(1) Yn y Rheoliadau hyn –
nid yw "awdurdod bwyd" ("food authority") yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;
ystyr "awdurdod iechyd porthladd" ("port health authority"), o ran unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(4), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr "Rheoliad y Comisiwn" ("the Commission Regulation" ) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1881/2006 sy'n gosod y lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd(5);
ystyr "Rheoliad y Comisiwn 629/2008" ("Commission Regulation 629/2008") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 629/2008 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1881/2006 sy'n gosod y lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd(6);
ystyr "Rheoliad y Comisiwn 124/2009" ("Commission Regulation 124/2009") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif XXX/2008 sy'n gosod y lefelau uchaf ar gyfer presenoldeb cocsidiostatau neu histomonostatau mewn bwyd sy'n ganlyniad i drosglwyddiad anochel y sylweddau hyn mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer rhywogaethau nad ydynt yn darged(7);
ystyr "swyddog awdurdodedig" ("authorised officer") yw unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi yn ysgrifenedig, naill ai yn gyffredinol neu yn benodol, gan awdurdod bwyd neu, yn ôl y digwydd, awdurdod iechyd porthladd i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y mae'r ymadrodd Saesneg sy'n cyfateb iddo yn cael ei ddefnyddio yn Rheoliad y Comisiwn neu yn Rheoliad y Comisiwn 124/2009, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Comisiwn.
(3) Oni nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â Rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad at yr Atodiad yn gyfeiriad at yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn fel y gellir diwygio'r Atodiad hwnnw o bryd i gilydd, ac mae unrhyw gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn i'w ddehongli'n unol â hynny.
3.–(1) Yn ddarostyngedig i'r trefniadau trosiannol a gynhwysir yn Erthygl 11 ac yn Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn 629/2008, mae person sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol a bennir ym mharagraff (2), neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt, yn euog o dramgwydd.
(2) Y darpariaethau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yw –
(a) Erthygl 1(1), (gwaharddiad rhag dodi ar y farchnad ddeunyddiau bwyd sy'n cynnwys halogion uwchlaw'r terfynau rhagnodedig sydd wedi'u cynnwys yn yr Atodiad), fel y'i darllenir gyda'r Atodiad ac, yn achos cnau daear, cnau, ffrwythau sych ac indrawn, gydag Erthygl 4;
(b) Erthygl 3 (gwaharddiadau rhag defnyddio, cymysgu a dadwenwyno);
(c) Erthygl 1(1) o Reoliad y Comisiwn 124/2009 (gwaharddiadau ar farchnata neu gymysgu bwydydd sy'n cynnwys cocsidiostatau neu histomonostatau ar lefelau uwchlaw'r terfynau rhagnodedig).
(3) Mae unrhyw un a gaiff ei gollfarnu o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
4.–(1) Mae'n ddyletswydd ar bob awdurdod bwyd o fewn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn a Rheoliad y Comisiwn a Rheoliad y Comisiwn 124/2009.
(2) Yr awdurdod cymwys at ddibenion –
(a) Erthygl 2(2) (cyfiawnhad gweithredwyr busnes bwyd dros ffactorau crynodi neu wanedu), a
(b) Erthygl 1(1) o Reoliad y Comisiwn 124/2009 (ynghylch y ddyletswydd i ymchwilio i'r rhesymau dros yr halogiad)
yw'r awdurdod y mae dyletswydd arno i orfodi o dan baragraff (1).
5.–(1) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn –
(a) adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);
(b) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(c) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;
(ch) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(d) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(dd) adran 33(2), gyda'r addasiad bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" i'w ystyried yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);
(e) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);
(f) adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd);
(ff) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(g) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd); ac
(ng) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae adran 9 o'r Ddeddf (arolygu a chymryd bwyd amheus i feddiant) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai'n darllen fel a ganlyn –
"9.–(1) An authorised officer of a food authority may at all reasonable times inspect any food intended for human consumption which has been placed on the market and subsections (2) to (7) below will apply where, on such an inspection, it appears to the authorised officer that the placing on the market of any food fails to comply with the requirements specified in regulation 3(2)(a) and (c) of the Contaminants in Food (Wales) Regulations 2009, ("the Community requirements").
(2) The authorised officer may either –
(a) give notice to the person in charge of the food that, until the notice is withdrawn, the food or any specified portion of it –
(i) is not to be used for human consumption, and
(ii) either is not to be removed or is to be removed to a place at which there are facilities to carry out sampling in the manner required by law; or
(b) seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.
(3) Where the authorised officer exercises the power conferred by subsection (2)(a) above, that officer will, as soon as is reasonably practicable and in any event within 21 days, determine whether or not the food complies with the Community requirements and –
(a) if satisfied that it does comply, will forthwith withdraw the notice;
(b) if not so satisfied, will seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.
(4) Where an authorised officer exercises the powers conferred by subsection (2)(b) or (3)(b) above, that officer will inform the person in charge of the food of his or her intention to have it dealt with by a justice of the peace and –
(a) any person who in connection with regulation 3(2)(a) or (c) of the above Regulations might be liable to a prosecution in respect of the food will, if he or she attends before the justice of the peace by whom the food falls to be dealt with, be entitled to be heard and to call witnesses; and
(b) that justice of the peace may, but need not, be a member of the court before which any person is proceeded against for an offence in connection with regulation 3(2)(a) or (c) of the above Regulations in relation to that food.
(5) If it appears to a justice of the peace, on the basis of such evidence as the justice of the peace considers appropriate in the circumstances, that any food falling to be dealt with under this section fails to comply with the Community requirements the justice must condemn the food and order –
(a) the food to be destroyed or to be so disposed of as to prevent it from being used for human consumption; and
(b) any expenses reasonably incurred in connection with the destruction or disposal to be defrayed by the owner of the food.
(6) If a notice under subsection (2)(a) above is withdrawn, or the justice of the peace by whom any food falls to be dealt with under this section refuses to condemn it, the food authority must compensate the owner of the food for any depreciation in its value resulting from the action taken by the authorised officer.
(7) Any disputed question as to the right to or the amount of any compensation payable under subsection (6) above will be determined by arbitration.
(8) Any person who knowingly contravenes the requirements of a notice under subsection (2)(a) above will be guilty of an offence and liable on summary conviction to a fine not exceeding level 5 on the standard scale.".
(3) Bydd yr ymadroddion "swyddog awdurdodedig" ("authorised officer") a "awdurdod bwyd" ("food authority") sy'n cael eu defnyddio yn adran 9 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yn rhinwedd paragraff (2) yn dwyn, at y dibenion hynny, yr ystyron sy'n cael eu dwyn gan yr ymadroddion hynny yn ôl eu trefn yn y Rheoliadau hyn.
6. Yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny'n gymwys iddynt) i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(8) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, yn lle'r cofnod sy'n ymwneud â Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2007, rhodder y cofnod a ganlyn –
"The Contaminants in Food S.I. 2009/1386 (W.142)
(Wales) Regulations 2009
(to the extent that a sample
falls to be prepared and
analysed in accordance with
Commission Regulation as
that expression is defined
in those Regulations).".
7. Mae'r offerynnau canlynol wedi'u dirymu –
(a) Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2007(9)
(b) Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2007 2007(10).
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Mehefin 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau Reoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2007 (O.S. 2007/840 (Cy.73), fel y'i diwygiwyd) ("Rheoliadau 2007"). Maent yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1881/2006 sy'n gosod y lefelau uchaf ar gyfer halogion mewn deunyddiau bwyd (OJ Rhif L364, 20.12.2006, t.5) ("Rheoliad y Comisiwn").
2. Cafodd Rheoliad y Comisiwn, a gydgrynhodd y darpariaethau a oedd wedi'u cynnwys gynt yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 ac a wnaeth ddiwygiadau pellach iddynt, ei ddiwygio'n ddiweddar gan –
(a) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 565/2008 (OJ Rhif L160, 19.6.2008, t.20), ynglŷn â'r lefelau uchaf ar gyfer deuocsinau a biffenylau polyclorinedig (PCBs) mewn iau pysgod; a
(b) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 629/2008 (OJ Rhif L173, 3.7.2008, t.6), ynglŷn â'r lefelau uchaf a ganiateir ar gyfer metelau trwm penodol.
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu hefyd ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 124/2009 (OJ Rhif L40, 11.2.2009, t.7) ("Rheoliad 124/2009"), sy'n ymwneud â'r lefelau uchaf a ganiateir ar gyfer ychwanegion penodol at fwyd anifeiliaid y gellir eu cael o dan amgylchiadau penodedig mewn bwyd.
4. Mae'r Rheoliadau hyn–
(a) yn darparu bod y canlynol yn dramgwydd, (ac eithrio mewn achosion penodol sy'n ymwneud â bwyd a ddodwyd ar y farchnad cyn dyddiad a roddwyd mewn deddfwriaeth Gymunedol benodedig)–
(i) dodi ar y farchnad fwydydd penodol os ydynt yn cynnwys halogion o unrhyw fath a bennir yn Rheoliad y Comisiwn neu yn Rheoliad 124/2009 ar lefelau sy'n uwch na'r rhai a bennir,
(ii) defnyddio bwyd sy'n cynnwys halogion ar lefelau sy'n uwch na'r rhai a ganiateir gan Reoliad y Comisiwn fel cynwysyddion wrth gynhyrchu bwydydd penodol,
(iii) cymysgu bwydydd nad ydynt yn cydymffurfio â'r lefelau uchaf a ragnodir gan Reoliad y Comisiwn neu Reoliad 124/2009 â bwydydd sy'n cydymffurfio,
(iv) cymysgu bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â hwy ac sydd wedi'u bwriadu i'w bwyta'n uniongyrchol neu fel cynwysyddion bwyd gyda bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â hwy ac sydd wedi'u bwriadu i gael eu didoli neu i'w trin fel arall cyn cael eu bwyta, neu
(v) dadwenwyno drwy ei drin yn gemegol fwyd sy'n cynnwys mycotocsinau sy'n uwch na'r terfynau a bennir yn Rheoliad y Comisiwn (rheoliad 3);
(b) yn pennu'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 4);
(c) yn darparu ar gyfer cymhwyso darpariaethau penodedig Deddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 5);
(ch) yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru (rheoliad 6), ac effaith y diwygiad hwnnw yw datgymhwyso'r ddarpariaeth yn y Rheoliadau hynny ynghylch samplu a dadansoddi ddim ond i'r graddau y mae'r materion hynny'n cael eu rheoleiddio gan offerynnau Cymunedol a grybwyllir ym mharagraff 5 (a) i (dd) isod.
5. Mae Rheoliad y Comisiwn yn pennu'r dulliau Cymunedol o samplu a dadansoddi y mae'n ofynnol eu defnyddio i reoli'n swyddogol lefelau'r sylweddau y mae'n eu cwmpasu. Mae'r dulliau hynny wedi'u nodi yn y ganlynol–
(a) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/22/EC sy'n gosod y dulliau samplu a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r plwm, cadmiwm, mercwri a 3-MCPD sydd mewn deunyddiau bwyd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.14), fel y'i cywiriwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2001/873/EC (OJ Rhif L325, 8.12.2001, t.34), ac fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/4/EC (OJ Rhif L19, 21.1.2005, t.50);
(b) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/16/EC sy'n gosod y dulliau samplu a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r tun sydd mewn bwydydd tun (OJ Rhif L42, 13.2.2004, t.16);
(c) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2005/10/EC sy'n gosod y dulliau samplu a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r benso(a)pyren sydd mewn deunyddiau bwyd (OJ Rhif L34, 8.2.2005, t.15);
(ch) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 401/2006 sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol fycotocsinau mewn deunyddiau bwyd (OJ Rhif L70, 9.3.2006, t.12);
(d) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1882/2006 sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol nitradau mewn deunyddiau bwyd penodol (OJ Rhif L364, 20.12.2006, t.25);
(dd) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1883/2006 sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau deuocsinau a biffenylau polyclorinedig tebyg i ddeuocsinau sydd mewn deunyddiau bwyd penodol (OJ Rhif L364, 20.12.2006, t.32).
6. Mae arfarniad rheoliadol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes wedi ei baratoi a'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
1990 p. 16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o "food" ) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28), ("Deddf 1999"). Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990.
Trosglwyddwyd swyddogaethau, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/1972) fel y'i darllenir y af adran 40(3) of Ddeddf 1999. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llwyodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). Back [1]
1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006 p.51). Back [2]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2002/2008 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch nifer ac enwau Paneli Gwyddonol parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L60, 5.3.2008, t.17). Back [3]
1984 p.22. Back [4]
OJ Rhif L364, 20.12.2006, t.5. Mae'r Rheoliad hwn wedi'i ddiwygio gan Reoliadau'r Comisiwn (EC) Rhif au 1126/2007 (OJ Rhif L255, 29.9.2007, t.14), 565/2008 (OJ Rhif L160, 19.6.2008, t.20) a 629/2008 (OJ Rhif L173, 3.7.2008, t.6). Back [5]
OJ Rhif L173, 3.7.2008, t.6. Back [6]
OJ Rhif L40, 11.2.2009, t.7. Back [7]
O.S. 1990/2463; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1999/1603, O.S. 2007/840 (Cy.73), ac O.S. 2007/3368 (Cy.297). Back [8]
O.S. 2007/840 (Cy.73). Back [9]
O.S. 2007/3368 (Cy.297). Back [10]