Gwnaed
8 Mehefin 2009
Yn dod i rym
9 Mehefin 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 21 a 203(10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 1 o Atodlen 4 2006 iddi(1) a chyda chydsyniad y Trysorlys yn unol â pharagraff 1(7) o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) (Diwygio) 2009 a daw i rym ar 9 Mehefin 2009.
2.–(1) Mae Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2009(2) wedi ei diwygio fel a ganlyn;
(2) Yn lle'r Atodlen i Orchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2009, rhodder yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
8 Mehefin 2009
Erthygl 2
Erthygl 2
Ymddiriedolaeth GIG | Cyfalaf Cychwynnol |
---|---|
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg(3) | £484,807,000 |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf(4) | £277,694,000 |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda(5) | £205,722,000 |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru(6) | £306,609,000 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn yn diwygio swm y cyfalaf cychwynnol a ddarparwyd ar gyfer Ymddiriedolaethau penodol o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Ngorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaethau Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2009.