Gwnaed
2 Mehefin 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Mehefin 2009
Yn dod i rym
12 Hydref 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 6, 14(3) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) a pharagraff 1(1) a (4) o Atodlen 2 iddi ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 12 Hydref 2009.
2. Caiff Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001(3) eu diwygio fel a ganlyn–
(a) yn lle rheoliad 9(1)(b) rhodder y canlynol–
"(b) bod y Bwrdd Gwahardd Annibynnol, a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(4), wedi cynnwys athro cofrestredig neu athrawes gofrestredig, neu'n ystyried p'un ai i'w gynnwys neu i'w chynnwys, yn y naill restr neu'r llall o bersonau wedi eu gwahardd a gedwir o dan adran 2 o'r Ddeddf honno.";
(b) mewnosoder ar ôl rheoliad 18 –
"18A. Pan ofynnir i'r Cyngor wneud hynny, rhaid iddo hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol a yw gorchymyn gwahardd wedi ei wneud mewn perthynas â pherson penodol ar sail ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu am fod y person wedi ei gollfarnu (ar unrhyw adeg) am dramgwydd perthnasol.".
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
2 Mehefin 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001 ("Rheoliadau 2001") o ganlyniad i ddwyn i rym ddarpariaethau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.
Mae Rheoliadau 2001 yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau disgyblu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.
Caiff rheoliad 9 o Reoliadau 2001 ei ddiwygio fel bod swyddogaethau Pwyllgor Ymchwilio sy'n perthyn i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn cael eu heithrio os bydd y Bwrdd Gwahardd Annibynnol wedi cynnwys yr athro neu'r athrawes, neu'n dymuno ystyried ei gynnwys neu ei chynnwys, yn y rhestr o bersonau wedi eu gwahardd a gedwir o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.
Mewnosodir rheoliad 18A newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor, os gofynnir iddo wneud hynny, roi gwybod i'r Ysgrifennydd Gwladol pan fydd y Cyngor yn gwneud gorchymyn gwahardd yn erbyn athro neu athrawes ar sail ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu ar sail ei gollfarnu neu ei chollfarnu am dramgwydd perthnasol. Efallai y bydd angen yr wybodaeth hon mewn cysylltiad â swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â phensiynau athrawon.
1998 p.30. Mae adran 6 ac Atodlenni 1 a 2 yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911). Diwygiwyd paragraff 1(4) o Atodlen 2 gan baragraff 86(2) o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32) ac fe'i diwygiwyd ymhellach gan baragraffau 2 a 7 o Atodlen 9 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47). I ganfod ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 43(1). Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002, ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
O.S. 2001/1424 (Cy.99) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/503 (Cy.71). Back [3]
2006 p.47. Back [4]