Gwnaed
2 Mehefin 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Mehefin 2009
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3 (3D), 4(2), 14(3) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2009.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2009 ac eithrio rheoliad 2(6)(b) a ddaw i rym ar 12 Hydref 2009 a rheoliad 2(5)(b) a (6)(ch) a ddaw i rym ar 26 Gorffennaf 2010.
2.–(1) Caiff Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000(3) eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 mewnosoder yn y man priodol y diffiniad canlynol –
"ystyr "An Chomhairle Mhúinteoireachta neu'r Cyngor Addysgu" yw'r Cyngor Addysgu a sefydlwyd o dan adran 5 o Ddeddf Cyngor Addysgu 2001(4) (corff y mae ganddo swyddogaethau sy'n cyfateb â rhai'r Cyngor mewn perthynas â Gweriniaeth Iwerddon);".
(3) Hepgorer rheoliad 4A.
(4) Ar ôl rheoliad 18, mewnosoder y rheoliad canlynol –
18A.–(1) Pan ofynnir iddo wneud hynny, rhaid i'r Cyngor roi'r wybodaeth a geir yn Atodlen 2 mewn perthynas ag –
(a) athro cofrestredig neu athrawes gofrestredig; neu
(b) person anghofrestredig y mae'n cadw cofnodion amdano yn unol â gorchymyn o dan adran 7(1) a (4) o Ddeddf 1998,
i An Chomhairle Mhúinteoireachta neu'r Cyngor Addysgu(5).
(2) Pan roddir gwybodaeth o dan baragraff (1), rhaid gosod amod yn ei gwneud yn ofynnol i An Chomhairle Mhúinteoireachta neu'r Cyngor Addysgu beidio â datgelu'r wybodaeth honno i unrhyw berson ac eithrio'r athro neu'r athrawes neu berson arall y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef neu â hi.".
(5) Yn Atodlen 1 –
(a) ar ôl paragraff 22B mewnosoder y canlynol –
"22C. Telerau unrhyw gyfyngiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad i unrhyw gamau disgyblu a gymerwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon.
22D. Telerau unrhyw gyfyngiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad i unrhyw gamau disgyblu a gymerwyd gan An Chomhairle Mhúinteoireachta neu'r Cyngor Addysgu.";
(b) ar ôl paragraff 24 ychwaneger y canlynol –
"25. P'un a yw'r athro neu'r athrawes yn ddarostyngedig i gael ei fonitro neu ei monitro yn unol ag adran 24 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(6), ac os nad yw, p'un a yw'r Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi'r gorau i'w fonitro neu i'w monitro yn unol ag adran 26 o'r Ddeddf honno.".
(6) Yn Atodlen 2 –
(a) ym mharagraff 11A ar ôl "yr Alban" mewnosoder ", An Chomhairle Mhúinteoireachta neu'r Cyngor Addysgu,";
(b) ar ôl paragraff 12 mewnosoder y canlynol –
"12A. Os yw'r person wedi ei wahardd o weithgaredd a reoleiddir ac sy'n ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006), datganiad i'r perwyl hwnnw.";
(c) ar ôl paragraff 13B mewnosoder y canlynol –
"13C. Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad i unrhyw gamau disgyblu a gymerwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon.
13D. Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad i unrhyw gamau disgyblu a gymerwyd gan An Chomhairle Mhúinteoireachta neu'r Cyngor Addysgu.";
(ch) ar ôl paragraff 14 ychwaneger y canlynol –
"15. P'un a yw'r person yn ddarostyngedig i gael ei fonitro yn unol ag adran 24 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, ac os nad yw, p'un a yw'r Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi'r gorau i'w fonitro yn unol ag adran 26 o'r Ddeddf honno.".
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
2 Mehefin 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 ("Rheoliadau 2000") fel a ganlyn.
Caiff rheoliad 4A o Reoliadau 2000 ei hepgor. Roedd y rheoliad hwnnw'n darparu bod penderfyniadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr, o ran addasrwydd athro neu athrawes, i rwymo Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ("y Cyngor"). Bydd yn rhaid i bob Cyngor Addysgu Cyffredinol bellach benderfynu o'r newydd ar fater addasrwydd.
Mewnosodir rheoliad 18A newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor roi i An Chomhairle Mhúinteoireachta neu Gyngor Addysgu Gweriniaeth Iwerddon wybodaeth a geir yn Atodlen 2 i Reoliadau 2000. Gwneir diwygiad canlyniadol i baragraff 11A o Atodlen 2 i Reoliadau 2000 fel ei bod yn rhaid i'r Cyngor, pan fydd yn penderfynu nad yw person yn addas i fod yn athro neu'n athrawes, roi i An Chomhairle Mhúinteoireachta neu Gyngor Addysgu Gweriniaeth Iwerddon, os gofynnir iddo wneud hynny, fanylion am y sail y gwnaed y penderfyniad arni.
Mae'r Rheoliadau hyn yn ychwanegu'r canlynol at y materion (a geir yn Atodlen 1 i Reoliadau 2000) i'w cofnodi yn y gofrestr athrawon cymwysedig a gedwir gan y Cyngor,–
p'un a yw'r person yn ddarostyngedig i gael ei fonitro o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu, os nad yw, p'un a yw'r Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi'r gorau i'w fonitro;
manylion am unrhyw gyfyngiadau a osodwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon;
manylion am unrhyw gyfyngiad a osodwyd gan An Chomhairle Mhúinteoireachta neu Gyngor Addysgu Gweriniaeth Iwerddon.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn ychwanegu'r canlynol at yr wybodaeth a geir yn Atodlen 2 i Reoliadau 2000 (ac y mae'n rhaid i'r Cyngor ei rhoi i gyflogwyr ac eraill)–
p'un a yw person wedi ei wahardd o weithgaredd a reoleiddir ac sy'n ymwneud â phlant o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006;
p'un a yw person yn ddarostyngedig i gael ei fonitro o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, neu os nad yw, p'un a yw'r Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi'r gorau i'w fonitro;
manylion am unrhyw gyfyngiad neu waharddiad a osodwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon;
manylion am unrhyw gyfyngiad neu waharddiad a osodwyd gan An Chomhairle Mhúinteoireachta neu Gyngor Addysgu Gweriniaeth Iwerddon.
1998 p.30. Mae adrannau 2 i 7 yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adran 9. Mewnosodwyd adran 3(3D) gan baragraff 3(5) o Atodlen 12 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32). I ganfod ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 43(1). Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
O.S. 2000/1979 (Cy.140) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/2496 (Cy.200), O.S. 2004/1741 (Cy.180), O.S. 2005/69 (Cy.7) ac O.S. 2006/1343 (Cy.133). Back [3]
Rhif 8 dyddiedig 2001. Back [4]
Mae An Chomhairle Mhúinteoireachta neu'r Cyngor Addysgu wedi ei sefydlu o dan adran 5 o Ddeddf Cyngor Addysgu 2001, ac mae ganddo swyddogaethau sy'n cyfateb i rai'r Cyngor mewn perthynas â Gweriniaeth Iwerddon. Back [5]
2006 p.47. Back [6]