Gwnaed
2 Mehefin 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Mehefin 2009
Yn dod i rym
12 Hydref 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 6, 15, 15A a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac Atodlen 2 iddi(1), ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru(2), ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru'n unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf.
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 12 Hydref 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo'n ofynnol i gyflogwr perthnasol neu asiant ddarparu gwybodaeth i'r Bwrdd Gwahardd Annibynnol o dan adran 35, 36 neu 39 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(3) mewn perthynas ag achos athro cofrestredig neu athrawes gofrestredig, y byddai fel arall yn ofynnol iddynt gyflwyno adroddiad ynghylch y ffeithiau amdanynt o dan reoliad 4(1) neu 5(1) o'r Rheoliadau hyn.
2. Mae Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003(4) wedi'u dirymu.
3. Ac eithrio pan fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn–
mae i "asiant" yr ystyr a roddir i "agent" gan adran 15A(1) o Ddeddf 1998;
ystyr "athro cofrestredig neu athrawes gofrestredig" ("registered teacher ") yw –
person sydd am y tro wedi'i gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998;
person a oedd wedi'i gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998 adeg unrhyw ymddygiad neu dramgwydd honedig ar ei ran; neu
person sydd wedi gwneud cais am gael ei gofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998;
mae i "cyflogwr perthnasol" yr ystyr a roddir i "relevant employer" gan adran 15(5) o Ddeddf 1998;
ystyr "y Cyngor" ("the Council") yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;
ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
ystyr "gwasanaethau" ("services") yw gwasanaethau a ddarperir i gyflogwr perthnasol yng Nghymru ac mae'n cynnwys gwasanaethau proffesiynol a gwirfoddol;
ystyr "Pwyllgor" ("Committee") yw Pwyllgor Ymchwilio, Pwyllgor Cymhwysedd Proffesiynol neu Bwyllgor Ymddygiad Proffesiynol a sefydlwyd o dan Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001(5);
ystyr "Pwyllgor Ymchwilio" ("Investigating Committee") yw pwyllgor a sefydlwyd o dan reoliad 3(1) o Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001; ac
ystyr "trefniadau" ("arrangements") yw trefniadau o'r math y cyfeirir atynt yn adran 15A(1) o Ddeddf 1998 i weithiwr sy'n athro cofrestredig neu athrawes gofrestredig wneud gwaith yng Nghymru.
4.–(1) O ran cyflogwr perthnasol–
(a) pan fo wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau athro cofrestredig neu athrawes gofrestredig ar sail –
(i) camymddygiad;
(ii) anghymhwysedd proffesiynol; neu
(iii) collfarniad am dramgwydd perthnasol o fewn ystyr "relevant offence" ym mharagraff 8 o Atodlen 2 i Ddeddf 1998; neu
(b) pan allai fod wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau athro cofrestredig neu athrawes gofrestredig ar sail o'r fath pe na bai'r athro neu'r athrawes wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny,
rhaid i'r cyflogwr gyflwyno i'r Cyngor adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrir yn Rhan 1 o'r Atodlen ac sydd ar gael i'r cyflogwr mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes.
(2) Rhaid i'r Cyngor drefnu bod yr holl wybodaeth a ddarperir iddynt o dan y rheoliad hwn ar gael i Bwyllgor Ymchwilio.
5.–(1) O ran asiant–
(a) pan fo wedi terfynu trefniadau ar sail–
(i) camymddygiad;
(ii) anghymhwysedd proffesiynol; neu
(iii) collfarniad am dramgwydd perthnasol o fewn ystyr "relevant offence" ym mharagraff 8 o Atodlen 2 i Ddeddf 1998;
(b) pan allai fod wedi terfynu trefniadau ar sail o'r fath pe na bai'r athro neu'r athrawes wedi'u terfynu; neu
(c) pan allai fod wedi ymatal rhag gwneud trefniadau newydd ar gyfer athro cofrestredig neu athrawes gofrestredig ar sail o'r fath pe na bai'r athro neu'r athrawes wedi rhoi'r gorau i ofalu bod ar gael i weithio,
rhaid i'r asiant gyflwyno i'r Cyngor adroddiad am ffeithiau'r achos a darparu'r holl wybodaeth a restrir yn Rhan 2 o'r Atodlen ac sydd ar gael i'r asiant mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes.
(2) Rhaid i'r Cyngor drefnu bod yr holl wybodaeth a ddarperir iddynt o dan y rheoliad hwn ar gael i Bwyllgor Ymchwilio.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
2 Mehefin 2009
Rheoliadau 4 a 5
1. Datganiad o'r rhesymau dros roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person.
2. Cofnodion y cyflogwr ynglŷn â rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu ag unrhyw bryd yr ystyriwyd rhoi'r gorau i wneud hynny, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyf-weld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a sicrhawyd gan y cyflogwr.
3. Cofnodion y cyflogwr ynglŷn â'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu a allai, oni bai bod y person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny, fod wedi arwain y cyflogwr i roi'r gorau i ddefnyddio ei wasanaethau, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyf-weld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a sicrhawyd gan y cyflogwr.
4. Llythyrau, rhybuddion neu hysbysiadau gan y cyflogwr a ddyroddwyd i berson mewn perthynas â rhoi'r gorau i ddefnyddio ei wasanaethau neu ag unrhyw bryd yr ystyriwyd rhoi'r gorau i wneud hynny, neu'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu a allai, oni bai bod y person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny, fod wedi arwain y cyflogwr i roi'r gorau i ddefnyddio'i wasanaethau, ac atebion neu gynrychioliadau'r person mewn perthynas â hynny.
5. Unrhyw ddatganiadau eraill, cynrychioliadau eraill a thystiolaeth arall a gyflwynwyd gan berson i'r cyflogwr mewn perthynas â rhoi'r gorau i ddefnyddio ei wasanaethau neu ag unrhyw bryd yr ystyriwyd rhoi'r gorau i wneud hynny, neu'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at roi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau'r person neu a allai, oni bai bod y person wedi rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau hynny, fod wedi arwain y cyflogwr i roi'r gorau i ddefnyddio'i wasanaethau.
6. Llythyr yn hysbysu o fwriad person i roi'r gorau i ddarparu gwasanaethau.
7. Unrhyw ddogfen arall neu wybodaeth arall y mae'r cyflogwr yn ystyried yn berthnasol i unrhyw ymchwiliad a allai gael ei gynnal gan Bwyllgor Ymchwilio neu unrhyw achos a allai gael ei ddwyn gan Bwyllgor yn erbyn athro cofrestredig neu athrawes gofrestredig.
1. Datganiad o'r rhesymau dros derfynu'r trefniadau.
2. Unrhyw gofnodion ynglŷn â therfynu'r trefniadau neu ag unrhyw adeg yr ystyriwyd eu terfynu, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyf-weld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a sicrhawyd gan yr asiant.
3. Unrhyw gofnodion ynglŷn â'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at derfynu trefniadau neu a allai, oni bai bod y gweithiwr wedi terfynu trefniadau, fod wedi arwain i'r asiant eu terfynu, neu a allai, oni bai bod y gweithiwr wedi rhoi'r gorau i ofalu bod ar gael i weithio, fod wedi arwain yr asiant i ymatal rhag gwneud trefniadau newydd, gan gynnwys nodiadau a chofnodion cyfarfodydd, nodiadau cyf-weld, a thystiolaeth a gyflenwyd i neu a sicrhawyd gan yr asiant
4. Llythyrau, rhybuddion neu hysbysiadau gan asiant a ddyroddwyd i berson mewn perthynas â therfynu trefniadau, neu'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at derfynu trefniadau, neu a allai, oni bai bod y gweithiwr wedi terfynu trefniadau, fod wedi arwain yr asiant i'w terfynu, neu a allai, oni bai bod y gweithiwr wedi rhoi'r gorau i ofalu bod ar gael i weithio, fod wedi arwain yr asiant i ymatal rhag gwneud trefniadau newydd, ac atebion neu gynrychioliadau'r gweithiwr mewn perthynas â hynny.
5. Unrhyw ddatganiadau eraill, cynrychioliadau eraill a thystiolaeth arall a gyflwynwyd gan berson i'r asiant mewn perthynas â therfynu trefniadau, neu'r ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at derfynu trefniadau neu a allai, oni bai bod y gweithiwr wedi terfynu'r trefniadau, fod wedi arwain yr asiant i'w terfynu, neu a allai, oni bai bod y gweithiwr wedi rhoi'r gorau i ofalu bod ar gael i weithio, fod wedi arwain yr asiant i ymatal rhag gwneud trefniadau newydd.
6. Llythyr gan y gweithiwr yn terfynu'r trefniadau neu'n rhoi'r gorau i ofalu bod ar gael i weithio.
7. Unrhyw ddogfen arall neu wybodaeth arall y mae'r asiant yn ystyried yn berthnasol i unrhyw ymchwiliad a allai gael ei gynnal gan Bwyllgor Ymchwilio neu unrhyw achos a allai gael ei ddwyn gan Bwyllgor yn erbyn athro cofrestredig neu athrawes gofrestredig.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr athrawon sydd wedi'u cofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ("y Cyngor") ac i asiantaethau cyflenwi gyflwyno adroddiad i'r Cyngor am achosion camymddwyn ac achosion anghymhwysedd ac eithrio'r achosion hynny y mae'n ofynnol iddynt ddarparu gwybodaeth amdanynt i'r Bwrdd Gwahardd Annibynnol o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006. Maent yn dirymu Rheoliadau Addysg (Cyflenwi Gwybodaeth) (Cymru) 2003 a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiadau am achosion camymddwyn gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru ac i adroddiadau am achosion anghymhwysedd gael eu cyflwyno i'r Cyngor. O dan y Rheoliadau newydd hyn mae adroddiad am bob achos i'w gyflwyno i'r Cyngor.
Rhaid i gyflogwyr gyflwyno adroddiad i'r Cyngor os ydynt yn rhoi'r gorau i ddefnyddio gwasanaethau athro cofrestredig neu athrawes gofrestredig ar sail benodol neu os gallent fod wedi gwneud hynny pe na bai'r unigolyn hwnnw eisoes wedi rhoi'r gorau i ddarparu ei wasanaethau. Rhaid i asiantau gyflwyno adroddiad i'r Cyngor os ydynt wedi trefnu i athro cofrestredig neu athrawes gofrestredig wneud gwaith ar ran awdurdod addysg lleol, corff llywodraethu neu berchennog ysgol annibynnol a'u bod wedi terfynu'r trefniadau hynny ar sail benodol, neu os gallent fod wedi gwneud hynny pe na bai'r athro neu'r athrawes eisoes wedi terfynu'r trefniadau neu wedi rhoi'r gorau i fod ar gael i weithio. Y seiliau penodedig yw camymddygiad, anghymhwysedd proffesiynol a chollfarniad am dramgwydd perthnasol. Mae tramgwydd perthnasol yn dramgwydd ac eithrio un nad oes ganddo berthnasedd o bwys i ffitrwydd person i fod yn athro cofrestredig neu'n athrawes gofrestredig.
Mae'r Atodlen yn nodi'r wybodaeth sydd i'w darparu yn yr adroddiadau.
1998 p.30. Mae Atodlen 2 yn gymwys o ran y Cyngor yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1998. Disodlwyd adran 15 ac mewnosodwyd adran 15A gan baragraff 83 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32) a diwygiwyd y ddwy adran wedi hynny gan baragraffau 5 a 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47). I gael ystyr "prescribed" gweler adran 43(1) o Ddeddf 1998. Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd adran 211 o Ddeddf Addysg 2002 a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
2006 p.47. Back [3]
O.S. 2003/542 (Cy.76). Back [4]
O.S. 2001/1424 (Cy.99). Back [5]