Gwnaed
7 Mai 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Mai 2009
Yn dod i rym
8 Mai 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 121(1), 124 a 203(9) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd) (Diwygiadau Ynghylch Ffliw Pandemig) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 8 Mai 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Diwygier Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007(2) fel a ganlyn.
(2) Mewnosoder ar ôl rheoliad 7 y rheoliad canlynol:
"7.A (Cyflenwi cyffuriau os digwydd pandemig)
"(1) Ni chaniateir codi ffioedd na'u hadennill o dan y Rheoliadau hyn ynglŷn â chyflenwad –
(a) a wneir–
(i) tra bydd clefyd yn bandemig, neu
(ii) wrth rag-weld bod clefyd ar ddigwydd yn bandemig
ac yn risg i iechyd dynol neu gyda'r posibilrwydd o fod yn risg i iechyd dynol; a
(b) sydd yn unol â phrotocol sy'n ymwneud â'r clefyd hwnnw fel y darperir ar ei gyfer yn erthygl 12F o Orchymyn Meddyginiaethau Presgripsiwn yn Unig (Defnydd Dynol) 1997(3) neu erthygl 8 o Orchymyn Meddyginiaethau (Gwerthu gan Fferyllfeydd ac yn Gyffredinol – Esemptiad) 1980(4).".
3. Yn Atodlen 1 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd i Ymwelwyr Tramor 1989(5), yn Rhan IV (clefydau eraill), ar ôl "Severe Acute Respiratory Syndrome" mewnosoder y cofnod canlynol–
"Pandemic influenza (influenza caused by a new virus subtype that has an increased and sustained transmission during a global outbreak of influenza).".
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Mai 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau ynghylch codi ffioedd ac adennill ffioedd ynglŷn â chyflenwi cyffuriau a darparu triniaeth fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, er mwyn galluogi darparu triniaeth ynglŷn â ffliw pandemig heb godi ffi.
Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007, i ddarparu yn ychwanegol at yr amgylchiadau presennol y mae cyffuriau i'w darparu'n ddi-dâl, na chaniateir codi ffi ynghylch cyffuriau pan gyflenwir y cyfryw gyffuriau pan fo clefyd pandemig (megis ffliw pandemig), sy'n ymddangos yn risg difrifol i iechyd dynol neu sy'n ymddangos yn bosibl i fod yn risg difrifol i iechyd dynol (neu pan ragwelir bod clefyd o'r fath ar ddigwydd) a bod cyflenwad o'r cyffuriau yn unol â phrotocol sy'n ymwneud â'r clefyd hwnnw fel y darperir ar ei gyfer yn erthygl 12F o Orchymyn Meddyginiaethau Presgripsiwn yn Unig (Defnydd Dynol) 1997 neu erthygl 8 o Orchymyn Meddyginiaethau (Gwerthiant Fferyllfeydd a Gwerthiant Cyffredinol-Esemptiad) 1980.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd i Ymwelwyr Tramor) 1989 ("Rheoliadau 1989"), sy'n darparu ar gyfer codi ffioedd ynghylch darparu triniaeth benodol gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i bersonau nad ydynt fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig ("ymwelwyr tramor"). Mae rheoliad 3(c) o Reoliadau 1989 yn darparu na cheir codi unrhyw ffi ynglŷn â gwasanaethau sy'n ffurfio rhan o'r gwasanaeth iechyd a ddarperir i ymwelydd tramor ar gyfer triniaeth sy'n ymwneud â chlefyd a restrir yn Atodlen 1 i Reoliadau 1989. Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Atodlen honno i fewnosod cofnod am ffliw pandemig. Yr effaith fydd na chodir ffi ar ymwelydd tramor sy'n cael ei drin mewn ysbyty am ffliw pandemig am unrhyw driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy'n ymwneud â'r cyflwr hwnnw.
Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn gan nad yw'n effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.