Gwnaed
27 Ebrill 2009
Yn dod i rym
1 Mai 2009
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn –
ystyr "Deddf 2004" ("the 2004 Act") yw Deddf Rheoli Traffig 2004.
2. 1 Mai 2009 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol Deddf 2004–
(a) Adrannau 1 i 12;
(b) Adran 13 (i'r graddau y mae'n ymwneud â chaffael tir yng Nghymru gan Weinidogion Cymru)(3);
(c) Adrannau 14 a 15.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
27 Ebrill 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, o ran Cymru, ddarpariaethau Rhan 1 (Swyddogion Traffig) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 ("Deddf 2004").
Mae Rhan 1 o Ddeddf 2004 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, yn eu swyddogaeth fel awdurdod priffyrdd a thraffig ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd strategol yng Nghymru, (h.y. y rhan fwyaf o draffyrdd a phob cefnffordd arall), i sefydlu gwasanaeth swyddogion traffig mewn lifrai ar y ffordd i reoli canlyniadau i draffig ar ôl digwyddiadau ar hap (megis damweiniau, rhwystrau, malurion a cherbydau yn torri i lawr) a rheoli digwyddiadau wedi'u rhaglennu ar briffyrdd megis llwythi annormal yn teithio ar y ffyrdd. Yn ymarferol, mae Gweinidogion Cymru yn cyflawni eu swyddogaethau fel awdurdod priffyrdd a thraffig drwy asiantau cefnffyrdd, a fydd yn gweithredu Rhan 1 ar eu rhan.
2004 p.18. Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). Back [2]
Trosglwyddwyd pwerau o dan adran 245A o Ddeddf Priffyrdd 1980 (1980 p.66) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). Back [3]