Gwnaed
27 Ebrill 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
28 Ebrill 2009
Yn dod i rym
28 Mai 2009
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 28 Mai 2009.
2. Mae Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007(3) wedi eu diwygio drwy roi'r paragraff a ganlyn yn lle paragraffau (7) ac (8) o reoliad 4–
"(7) Nid yw Rhan 3 (ac eithrio rheoliad 25) na Rhannau 4 i 9 yn gymwys o ran cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a bennir yn Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 206/2009 ar gyflwyno llwythi personol o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'r Gymuned(4).".
3. Mae Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006(5) wedi eu dirymu.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
27 Ebrill 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Cymru) 2007 er mwyn cymryd i ystyriaeth y newidiadau mewn mewnforion personol a ganiateir o drydydd gwledydd a achoswyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 206/2009 ar gyflwyno llwythi personol o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'r Gymuned.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006.
Nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar fusnesau, elusennau na chyrff gwirfoddol.
O.S. 2005/2766, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/3329. Yn rhinwedd adran 162 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [1]
1972 p.68. Back [2]
O.S. 2007/376 (Cy.36) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2009/392 (Cy.41). Back [3]
OJ Rhif L 77, 24.3.2009, t. 1. Back [4]
O.S. 2006/1349 (Cy.135). Back [5]