Gwnaed
27 Ebrill 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
28 Ebrill 2009
Yn dod i rym
20 Mai 2009
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 20 Mai 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau am grantiau sydd i'w cymeradwyo ar 20 Mai 2009 neu ar ôl hynny gan awdurdodau tai lleol yng Nghymru.
2. Mae Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996(3) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.
3.–(1) Mae Atodlen 3 wedi ei diwygio fel a ganlyn–
(a) ar ôl paragraff 4A mewnosoder–
"4B Any amount of working tax credit or child tax credit paid to a relevant person.";
(b) ar ôl paragraff 50 mewnosoder–
"50A Where a member of the armed forces is–
(a) in receipt of retired pay or a pension under the Naval, Military and Air Forces etc. (Disablement and Death) Service Pensions Order 2006(4) and the retired pay or pension is in respect of disablement the degree of which is not less than eighty per cent(5); and
(b) in receipt of constant attendance allowance payable under article 8 of that Order,
any such retired pay, pension or constant attendance allowance paid to that member pursuant to that Order.
50B Any guaranteed income payment payable under the Armed Forces and Reserve Forces (Compensation Scheme) Order 2005(6) where the guaranteed income payment relates to an injury that falls within any of levels 1 to 6 of the tariff set out in any of Tables 1 to 9 in Schedule 4 to that Order.".
(2) Mae Atodlen 4 wedi ei diwygio fel a ganlyn–
(a) ym mharagraff 9, yn lle is-baragraff (f), rhodder–
"(f) any working tax credit or child tax credit.";
(b) ar ôl paragraff 66 mewnosoder–
"67. Any lump sum, additional multiple injury lump sum or additional lump sum paid pursuant to the Armed Forces and Reserve Forces (Compensation Scheme) Order 2005 where the payment relates to an injury that falls within any of levels 1 to 6 of the tariff set out in any of Tables 1 to 9 in Schedule 4 to that Order.".
Jocelyn Davies
Y Dirprwy Weinidog dros Dai o dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
27 Ebrill 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach (o ran Cymru) Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890) ("Rheoliadau 1996"), a osododd y prawf modd i benderfynu swm y grant y caniateir ei dalu gan awdurdodau tai lleol o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.
Mae Atodlen 3 i Reoliadau 1996 yn rhestru'r symiau sydd i'w diystyru wrth benderfynu incwm ac eithrio enillion, ac mae Atodlen 4 yn rhestru'r cyfalaf sydd i'w ddiystyru wrth benderfynu cyfalaf.
Mae Atodlenni 3 a 4 i Reoliadau 1996 wedi'u diwygio gan reoliadau 2 a 3(1)(a) a 3(2)(a) o'r Rheoliadau hyn fel bod unrhyw daliadau credyd treth gwaith neu daliadau credyd treth plant i'w diystyru wrth benderfynu incwm ac eithrio enillion neu gyfalaf.
Mae rheoliadau 2 a 3(1)(b) yn diwygio Atodlen 3 i Reoliadau 1996 drwy fewnosod paragraff 50A newydd, a'i effaith, pan fo aelod o'r lluoedd arfog yn cael tâl ymddeol penodedig neu bensiwn o dan Orchymyn Pensiynau Lluoedd Arfog y Llynges, y Fyddin a'r Llu Awyr etc. (Anabledd a Marwolaeth) 2006 a lwfans gweini cyson, yw bod y symiau a geir felly yn cael eu diystyru wrth benderfynu incwm ac eithrio enillion. Mae rheoliad 3(1)(b) hefyd yn mewnosod paragraff 50B newydd yn Atodlen 3, a'i effaith yw bod unrhyw daliad incwm gwarantedig o dan Orchymyn y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd wrth Gefn (Cynllun Iawndal) 2005, sy'n ymwneud ag anaf sy'n dod o fewn unrhyw un o lefelau 1 i 6 o'r tariff a nodir yn unrhyw un o Dablau 1 i 9 yn Atodlen 4 i'r Gorchymyn hwnnw, i'w ddiystyru wrth benderfynu incwm ac eithrio enillion.
Mae rheoliadau 2 a 3(2)(b) yn diwygio Atodlen 4 i Reoliadau 1996 fel bod unrhyw gyfandaliad, unrhyw gyfandaliad ychwanegol ar gyfer anafiadau niferus neu unrhyw gyfandaliad ychwanegol a delir o dan Orchymyn y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd wrth Gefn (Cynllun Iawndal) 2005, y gellir ei briodoli i anaf sy'n dod o fewn unrhyw un o lefelau 1 i 6 o'r tariff a nodir yn unrhyw un o Dablau 1 i 9 yn Atodlen 4 i'r Gorchymyn hwnnw, i'w ddiystyru wrth benderfynu cyfalaf.
1996 p.53. Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 30 a 146 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672; gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996). Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) mae'r swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru. Back [2]
O.S. 1996/2890. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2004/253 (Cy.28), O.S. 2006/2801 (Cy.240) ac O.S. 2008/2377 (Cy.206). Back [3]
O.S. 2006/606, a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/1455, O.S. 2007/909 ac O.S. 2008/679. Back [4]
Mae erthygl 42 o Orchymyn Pensiynau Lluoedd Arfog y Llynges, y Fyddin a'r Llu Awyr etc. (Anabledd a Marwolaeth) 2006, a Rhan 5 o Atodlen 1 a pharagraff 6 o Ran 1 o Atodlen 4 iddi, yn diffinio graddau'r anabledd drwy gyfeirio at yr anaf neu'r anabledd a gafwyd. Back [5]
O.S. 2005/439. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2006/1438, O.S. 2008/39, O.S. 2008/2160 ac O.S. 2008/2942. Back [6]