Gwnaed
22 Ebrill 2009
Yn dod i rym
23 Ebrill 2009
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 21 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 1 o Atodlen 4 iddi(1) ac yn unol â pharagraff 1(7) o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.-"(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfalaf Cychwynnol) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 23 Ebrill 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr -yr Atodlen- yw'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
2. Cyfalaf cychwynnol ymddiriedolaeth GIG a bennir yng ngholofn 1 yr atodlen yw'r swm a bennir gyferbyn ag ef yng ngholofn 2 yr Atodlen
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
22 Ebrill 2009
Rheoliad 2
Ymddiriedolaeth GIG | Cyfalaf Cychwynnol |
---|---|
Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg(2) | £485,420,000 |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf(3) | £277,694,000 |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda(4) | £165,253,000 |
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru(5) | £306,609,000 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu swm cyfalaf cychwynnol, y darperir ar ei gyfer ym mharagraff 1 o Atodlen 4 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, Ymddiriedolaethau Gwasanaethau Iechyd Gwladol penodol a sefydlwyd o dan y Ddeddf honno.