If you found BAILII useful today, could you please make a contribution?
Your donation will help us maintain and extend our databases of legal information. No contribution is too small. If every visitor this month donates, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
Gwnaed
20 Ebrill 2009
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 3) 2009.
2. Yn y Gorchymyn hwn ystyr -Deddf 2006- (-the 2006 Act-) yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006.
3. Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym ar 1 Medi 2009:
(a) adran 4 (dyletswydd i enwi plant nad ydynt yn derbyn addysg);
(b) adran 164 (gwybodaeth am blant sy'n derbyn addysg a gyllidir y tu allan i ysgol);
(c) adran 184 (diddymu) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r ddarpariaeth a nodir ym mharagraff (ch);
(ch) yn Rhan 6 o Atodlen 18, diddymu yn Neddf Addysg 1996 yn adran 437(8) y diffiniad o -suitable education-.
Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 Ebrill 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn adrannau 4 a 164 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 i rym ar 1 Medi 2009.
Mae adran 4 yn mewnosod adran 436A newydd yn Neddf Addysg 1996 sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol wneud trefniadau i ddarganfod pwy yw'r plant yn eu hardal nad ydynt yn derbyn addysg addas.
Mae adran 164 yn mewnosod adran 537B newydd yn Neddf Addysg 1996. Mae hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei rhoi am blant sy'n derbyn addysg y tu allan i ysgol ac a gyllidir gan awdurdod addysg lleol ac mae'n darparu ynghylch rhannu'r cyfryw wybodaeth.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 1 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 37(1) a (2)(a) | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 38 | 1 Medi 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 39 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 40 | 1 Medi 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adrannau 43-"45 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 47 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 53 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 55 | 9 Chwefror 2009 | 2009/49 (Cy.17) |
Adran 156 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 166 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 175 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 184 yn rhannol | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Adran 184 yn rhannol | 1 Medi 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Atodlen 17 | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Atodlen 18 yn rhannol | 30 Mehefin 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Atodlen 18 yn rhannol | 1 Medi 2008 | 2008/1429 (Cy.148) |
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2006 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2006/2990, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/54, O.S. 2006/3400, O.S. 2007/935 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/1271), O.S. 2007/1271, O.S. 2007/1801, O.S. 2007/3074 ac O.S. 2008/1971.
Gweler hefyd adran 188(1) a (2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 8 Tachwedd 2006 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol) ac 8 Ionawr 2007 (deufis yn ddiweddarach).