Gwnaed
5 Ebrill 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Ebrill 2009
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1
Gan fod y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1), dyddiedig Gorffennaf 2008 ar adolygiad o ran o'r ffin rhwng Sir Powys a Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ynghyd â'r cynigion a luniwyd gan y Comisiwn ar y mater hwnnw;
A bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hynny heb addasiadau;
A bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru;
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) a (4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Merthyr Tudful a Phowys (Ardaloedd) 2009.
(2) At unrhyw ddiben a osodir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mai 2009.
(3) At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mehefin 2009, sef y dyddiad penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn.
2. Yn y Gorchymyn hwn–
ystyr "y map ffiniau" ("the boundary map") yw'r map sydd wedi'i farcio "Map o Orchymyn Merthyr Tudful a Phowys (Ardaloedd) 2009", a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr "y Rheoliadau" ("the Regulations") yw Rheoliadau Newid Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (3).
3. Mae'r rhan honno o sir Powys sy'n dod o fewn cymuned Tal-y-bont ar Wysg ac a ddangosir gyda chroeslinellau fel ardal "A" ar y map ffiniau–
(a) yn cael ei throsglwyddo i fwrdeistref sirol Merthyr Tudful;
(b) yn ffurfio rhan o gymuned y Faenor; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol y Faenor.
4. Mae'r rhan honno o gymuned Tal-y-bont ar Wysg yn sir Powys a ddangosir gyda chroeslinellau fel ardal "B" ar y map ffiniau–
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Llangynidr; a
(b) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llangynidr.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
5 Ebrill 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, a wneir yn unol ag adran 58(2) a (4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi eu heffaith i gynigion y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru ("y Comisiwn") a roddodd adroddiad yng Ngorffennaf 2008 ar ei adolygiad o ran o'r ffin rhwng sir Powys a bwrdeistref sirol Merthyr Tudful yn ardal Pontsticill. Argymhellodd adroddiad y Comisiwn newid i ran o'r ffin bresennol ac argymell hefyd newid i'r ffin rhwng cymunedau Tal-y-bont ar Wysg a Llangynidr. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi eu heffaith i argymhellion y Comisiwn heb addasiadau.
Mae print o'r map yn dangos y ffiniau wedi'i adneuo yn y mannau a ganlyn, a gellir ei weld yno yn ystod oriau swyddfa arferol – swyddfeydd Cyngor Sir Powys, Llandrindod, Powys, swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Merthyr Tudful a swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol).
Mae Rheoliadau Newid Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 y cyfeirir atynt yn erthyglau 1 a 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynglŷn ag effaith a gweithredu gorchmynion megis y rhain.
1972 p.70. Back [1]
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
O.S. 1976/246 (fel y'i diwygiwyd gan amryfal offerynnau statudol ond nad yw'r diwygiadau hynny'n berthnasol i'r offeryn statudol hwn). Back [3]