Gwnaed
24 Mawrth 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Mawrth 2009
Yn dod i rym
23 Ebrill 2009
At ddibenion adran 26(4)(a) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad1981(1) mae Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw'r Gorchymyn hwn yn effeithio ar unrhyw awdurdod lleol.
Mae Gweinidogion Cymru –
(a) yn unol â'r ddarpariaeth honno, wedi rhoi cyfle i unrhyw berson arall yr effeithir arno gyflwyno gwrthwynebiadau neu sylwadau mewn perthynas â phwnc y Gorchymyn hwn;
(b) yn unol ag adran 26(4)(b) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, wedi ymgynghori â'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur(2), sef y corff cynghori y mae Gweinidogion Cymru o'r farn sy'n gallu cynghori orau a ddylid gwneud y Gorchymyn hwn ai peidio.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 4) (Cymru) 2009, a daw i rym ar 23 Ebrill 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Diwygir Atodlen 4(5) i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (adar y mae'n rhaid eu cofrestru a'u modrwyo os cedwir hwy yn gaeth) fel a ganlyn.
(2) Hepgorir yr adar canlynol–
Common name | Scientific name |
---|---|
Bunting, Cirl | Emberiza cirlus |
Bunting, Lapland | Calcarius lapponicus |
Bunting, Snow | Plectrophenax nivalis |
Eagle, Adalbert's | Aquila adalberti |
Eagle, Great Philippine | Pithecophaga jefferyi |
Eagle. Imperial | Aquila heliaca |
Eagle, New Guinea | Harpyopsis novaeguineae |
Chough | Pyrrhocorax pyrrhocorax |
Crossbills (all species) | Loxia spp |
Falcon, Barbary | Falco pelegrinoides |
Falcon, Gyr | Falco rusticolus |
Fieldfare | Turdus pilaris |
Firecrest | Regulus ignicapillus |
Fish-Eagle, Madagascar | Haliaeetus vociferoides |
Forest-Falcon, Plumbeous | Micrastur plumbeus |
Harrier, Hen | Circus cyaneus |
Hawk, Galapagos | Buteo galapagoensis |
Hawk, Grey-backed | Leucopternis occidentalis |
Hawk, Hawaiian | Buteo solitarius |
Hawk, Ridgway's | Buteo ridgwayi |
Hawk, White-necked | Leucopternis lacernulata |
Hawk-Eagle, Wallace's | Spizaetus nanus |
Hobby | Falco subbuteo |
Honey-Buzzard, Black | Henicopernis infuscatus |
Kestrel, Lesser | Falco naumanni |
Kestrel, Mauritius | Falco punctatus |
Kite, Red | Milvus, milvus |
Oriole, Golden | Oriolus, oriolus |
Redstart, Black | Phoenicurus ochruros |
Redwing | Turdus iliacus |
Sea-Eagle, Pallas' | Haliaeetus leucoryphus |
Sea-Eagle, Steller's | Haliaeetus pelagicus |
Serin | Serinus serinus |
Serpent-Eagle, Andaman | Spilornis elgini |
Serpent-Eagle, Madagascar | Eutriorchis astur |
Serpent-Eagle, Mountain | Spilornis kinabaluensis |
Shorelark | Eremophila alpestris |
Shrike, Red-backed | Lanius collurio |
Sparrowhawk, Gundlach's | Accipiter gundlachi |
Sparrowhawk, Imitator | Accipiter imitator |
Sparrowhawk, New Britain | Accipiter brachyurus |
Sparrowhawk, Small | Accipiter nanus |
Tit, Bearded | Panurus biarmicus |
Tit, Crested | Parus cristatus |
Warbler, Cetti's | Cettia cetti |
Warbler, Dartford | Sylvia undata |
Warbler, Marsh | Acrocephalus palustris |
Warbler, Savi's | Locustella luscinioides |
Woodlark | Lullula arborea |
Wryneck | Jynx torquilla |
(3) Hepgorir y geiriau "Any bird one of whose parents or other lineal ancestor was a bird of a kind specified in the foregoing provisions of this Schedule".
3. Dirymir Erthygl 3 o Orchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(Amrywio Atodlen 4).
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
24 Mawrth 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 7 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ("y Ddeddf"), ynghyd â Rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno, yn darparu at gyfer cofrestru a modrwyo neu farcio adar a gedwir mewn caethiwed ac a restrir yn Atodlen 4 i'r Ddeddf.
Mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn tynnu'r adar a restrir yn yr erthygl honno oddi ar Atodlen 4 i'r Ddeddf. Mae hefyd yn tynnu allan y cyfeiriad at gymysgrywiau fel nad yw Atodlen 4 bellach yn cynnwys cymysgrywiau o'r rhywogaethau o adar ar y rhestr.
O'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, dyma'r adar a gynhwysir yn Atodlen 4 i'r Ddeddf –
Enw cyffredin | Enw gwyddonol |
---|---|
Buzzard, Honey | Pernis apivorus |
Eagle, Golden | Aquila chrysaetos |
Eagle, White-tailed | Haliaeetus albicilla |
Falcon, Peregrine | Falco peregrinus |
Goshawk | Accipiter gentilis |
Harrier, Marsh | Circus aeruginosus |
Harrier, Montagu's | Circus pygargus |
Merlin | Falco columbarius |
Osprey | Pandion haliaetus |
Mae Erthygl 4 yn cynnwys dirymiad canlyniadol o Erthygl 3 o Orchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 4) 1994 (O.S. 1994/1151).
Paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes a'r sector wirfoddol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. Mae copi o'r Asesiad Effaith ar gael gan Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Yr Uned Natur, Mynediad a'r Môr, Adeiladau'r Goron, Stryd y Dollborth, Aberystwyth, neu gellir ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar www.cynulliadcymru.org .
1981 p.69. Back [1]
Gweler y diffiniad o "advisory body" yn adrannau 23(3) a 27(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Sefydlwyd y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur o dan adran 128(4) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) ac mae'n parhau mewn bodolaeth (er ei fod wedi'i ail gyfansoddi) o dan adran 31 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p.16). Back [2]
Diwygiwyd adran 22(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 gan adrannau 47(1) a (5) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006. Back [3]
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p.32). Back [4]
Diwygiwyd Atodlen 4 gan Orchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 4) 1994 (O.S. 1994/1151). Back [5]