Gwnaed
23 Mawrth 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 325(3) a (4) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Tai ac Adfywio 2008 ac ystyr "y dyddiad cychwyn" ("the commencement date") yw 30 Mawrth 2009.
2. Daw adran 315 (lluoedd arfog: prawf cysylltiad lleol) i rym ar y dyddiad cychwyn mewn perthynas â cheisiadau–
(i) dyrannu llety tai, y mae adran 166 o Ddeddf Tai 1996(2) yn gymwys iddynt; neu
(ii) y mae Rhan VII (digartrefedd), fel y'i cymhwysir gan adran 183(1) (cais am gymorth) o'r Ddeddf honno, yn gymwys iddynt,
a wnaed ar y dyddiad cychwyn neu ar ei ôl.
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
23 Mawrth 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Dyma'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf a wnaed o dan Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 mewn perthynas â Chymru.
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym adran 315 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 ar 30 Mawrth 2009.