Gwnaed
16 Mawrth 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
16 Mawrth 2009
Yn dod i rym
6 Ebrill 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 130, 131, 132 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2009.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(2).
2. Yn rheoliad 5 o'r prif Reoliadau (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn) ym mharagraff (1), yn lle "£15,050" rhodder "£15,276".
3. Yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (Addasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987), yng ngholofn 2 o Dabl A, yn y cofnod ynghylch rheoliad 53, yn lle "£19,000" rhodder "£20,750".
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
16 Mawrth 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl 2007 ("y prif Reoliadau").
Mae'r prif Reoliadau yn gwneud darpariaeth fel bod pobl sydd naill ai'n cael budd-daliadau penodol oddi wrth y wladwriaeth neu sydd ar incwm isel yn cael peidio â thalu taliadau penodol neu gael ad-daliad ohonynt, a'r taliadau hynny fel arall yn daladwy o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ("taliadau GIG") a chael taliad am dreuliau teithio a dynnwyd wrth gael gwasanaethau GIG penodol ("treuliau teithio GIG").
Wrth gyfrifo adnoddau a gofynion person o dan y prif Reoliadau er mwyn canfod a oes gan berson hawl i beidio â thalu taliadau GIG a chael taliad am dreuliau teithio GIG, defnyddir fersiwn addasedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.
Mae rheoliad 2 yn cynyddu swm yr incwm y caiff person sy'n derbyn credydau treth ei dderbyn tra bydd yn parhau i fod â hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn o dan reoliad 5 o'r prif Reoliadau.
Mae rheoliad 3 yn gwneud newidiadau i'r terfynau cyfalaf a ddefnyddir i gyfrifo hawl i beidio â thalu ac i gael taliad drwy gynyddu'r terfyn cyfalaf isaf o £19,000 i £20,750 ar gyfer pobl sy'n byw'n barhaol mewn cartrefi gofal.