Gwnaed
11 Mawrth 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Mawrth 2009
Yn dod i rym
6 Ebrill 2009
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2009.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2009.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992(3).
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Y swm y mae awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(4) yw £22.00 yr wythnos.
3. Mae rheoliadau 2, 3, 4, 5 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2008(5) drwy hyn wedi'u dirymu.
4. Ym mharagraff (2) o reoliad 28A o'r Prif Reoliadau (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf – Cymru) yn lle'r ffigur " £19,000" rhodder y ffigur "£20,750" yn y ddau le y mae'n ymddangos.
5. Ym mharagraff 28H–
(a) yn is-baragraffau (1) a (2) yn lle'r ffigur "£5.45" rhodder y ffigur "£5.65" ym mhob lle y mae'n ymddangos; a
(b) yn is-baragraffau (3) a (4) yn lle'r ffigur "£8.15" rhodder y ffigur "£8.45" ym mhob lle y mae'n ymddangos.
6. Yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (cyfalaf i'w ddiystyru)–
(a) ym mharagraff 2(2) yn lle "whom the resident is liable to maintain by virtue of section 42(1) of the National Assistance Act 1948 (liability to maintain wife or husband and children)." rhodder "of the resident"; a
(b) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder–
"(3) In this paragraph a reference to a child shall be construed in accordance with section 1 of the Family Law Reform Act 1987(6).".
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
11 Mawrth 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r swm wythnosol y mae awdurdodau lleol i ragdybio, yn niffyg amgylchiadau arbennig, y bydd ar breswylwyr, sydd mewn llety a drefnwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ("y Ddeddf"), ei angen at eu hanghenion personol. O 6 Ebrill 2009 ymlaen, rhagdybir y bydd ar bob preswylydd o'r fath angen £22.00 yr wythnos.
Yn ail, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 ("y Prif Reoliadau").
Mae'r Prif Reoliadau'n penderfynu'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn asesu gallu person i dalu am y llety a drefnwyd ar ei gyfer o dan y Ddeddf.
Mae'r diwygiadau yn darparu ar gyfer cynnydd yn y terfyn cyfalaf isaf a chynnydd yn y swm o gredyd cynilion sydd i'w ddiystyru.
1948 p.29. Gweler adrannau 35(1) a 64(1) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i gael y diffiniadau o "the minister" a "prescribed" yn y drefn honno ac erthygl 2 o Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wasanaethau Cymdeithasol 1968 (O.S. 1968/1699) a drosglwyddodd holl swyddogaethau'r Gweinidog Iechyd i'r Ysgrifennydd Gwladol. Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac fe'u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [2]
O.S. 1992/2977 fel y'i diwygiwyd gan gyfres o offerynnau dilynol. Back [3]
1948 p.29. Back [4]
O.S. 2008/743. Back [5]
1987 (c. 42). Diwygiwyd Adran 1 gan baragraff 24 o Atodlen 6 i Ddeddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008 (c. 22) a chan baragraff 51 o Atodlen 3 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (c. 38). Back [6]