Gwnaed
9 Mawrth 2009
Yn dod i rym
1 Ebrill 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 134(6) o Ddeddf Trafnidiaeth Leol 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth Leol 2008 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn–
ystyr "Deddf 1985" ("the 1985 Act") yw Deddf Trafnidiaeth 1985;(2); ac
ystyr "Deddf 2000" ("the 2000 Act") yw Deddf Trafnidiaeth 2000 (3);
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Trafnidiaeth Leol 2008;
2. 1 Ebrill 2009 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dyfod i rym y darpariaethau canlynol o'r Ddeddf, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn–
(a) Adran 7, ac yn unol â hynny Atodlen 1.
(b) Adran 8 i adran 12 yn gynhwysol.
(c) Adran 13(1) ( i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 13(2)) ac adran 13(2).
(ch) Adran 46, ac yn unol â hynny, Atodlen 2.
(d) Adran 64.
(dd) Adran 65(1).
(e) Adran 68(1) ( i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 68(3)) ac adran 68(3).
(f) Adran 69 i adran 71 yn gynhwysol.
(ff) Adran 75.
(g) Adran 103 i adran 108 yn gynhwysol.
(ng) Adran 109, ac, yn unol â hynny, Atodlen 5.
(h) Adran 110 i adran 111 yn gynhwysol.
(i) Adran 112(1).
(j) Adran 113(1) i (4) yn gynhwysol.
(l) Adran 114.
(ll) Adran 115(1) i (2) yn gynhwysol.
(m) Adran 116(1) i (3) yn gynhwysol.
(n) Adran 117(1).
(o) Adran 118(1) i (5) yn gynhwysol.
(p) Adran 121 (i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 1 o Atodlen 6) a Rhan 1o Atodlen 6.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
9 Mawrth 2009
1. Er gwaethaf dyfod i rym adran 10 o'r Ddeddf, bydd strategaeth fysiau a baratowyd gan awdurdod trafnidiaeth lleol yn unol ag adran 110 o Ddeddf 2000 (strategaethau bysiau) yn parhau i gael effaith o ran adran 124(1)(a) o'r Ddeddf honno (cynlluniau contractau o ansawdd).
2. Er gwaethaf dyfod i rym adran 64 o'r Ddeddf, bydd adran 155 o Ddeddf 2000 (cosbau) yn parhau i fod yn gymwys yng Nghymru heb y diwygiadau a wnaed gan adran 64 o'r Ddeddf o ran cosbau a osodir gan gomisiynydd traffig yn erbyn gweithredydd gwasanaeth lleol os yw'r comisiynydd traffig hwnnw wedi'i fodloni fod y gweithredydd, cyn 1 Ebrill 2009–
(a) wedi methu â gweithredu gwasanaeth lleol a gofrestrwyd o dan adran 6 o Ddeddf 1985,
(b) wedi gweithredu gwasanaeth lleol yn groes i'r adran honno neu i adran 118(4) neu 129(1)(b) o Ddeddf 2000, neu
(c) wedi methu â chydymffurfio ag adran 138 neu 140(3) o Ddeddf 2000.
3.–(1) Er gwaethaf dyfod i rym adran 71 o'r Ddeddf, rhaid ymdrin ag unrhyw gais a wneir cyn 1 Ebrill 2009 ac sy'n ceisio cydsyniad Gweinidogion Cymru o dan unrhyw ddarpariaeth yn Neddf 1985 a restrir yn is-baragraff (2), ond na chafwyd penderfyniad arno erbyn y dyddiad hwnnw, megis petai'r cais hwnnw wedi cael ei wneud ar 1 Ebrill 2009 neu ar ôl hynny.
(2) Dyma'r darpariaethau–
(a) adran 75(3) (tanysgrifio am gyfrannau, sicrydau neu eiddo neu asedau eraill penodol, neu eu caffael, eu gwaredu etc);
(b) adran 79(3) (gwneud neu warantu benthyciadau penodol);
(c) adran 79(7) (gwarannau etc mewn cysylltiad â gwaredu cyfrannau, sicrydau neu eiddo neu asedau eraill penodol etc); ac
(ch) adran 79(8) (darparu cymorth ariannol ar ffurf grantiau, benthyciadau, etc).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Trafnidiaeth Leol 2008 ("y Ddeddf") i rym ar 1 Ebrill 2009.
Mae Rhan 2 o'r Ddeddf yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Trafnidiaeth 2000 mewn perthynas â chynlluniau trafnidiaeth lleol. Tra bod y Ddeddf yn gwneud newidiadau i'r trefniadau yn Lloegr, cedwir y trefniadau presennol yng Nghymru.
Mae adrannau 7 ac 8 o'r Ddeddf, ynghyd ag Atodlen 1, yn mewnosod y term newydd "local transport policies" yn Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000. Caiff y term ei ddiffinio fel y polisïau a ddatblygir o dan adran 108(1)(a) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000.
Mae adran 9 yn cadw, o ran Cymru, y ddyletswydd yn adran 108 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 ar awdurdodau trafnidiaeth lleol i gynhyrchu cynllun trafnidiaeth lleol. Mae adran 9(1) yn darparu fod yn rhaid i Gynllun Trafnidiaeth Lleol, yng Nghymru, fod yn ddogfen sy'n cynnwys polisiau trafnidiaeth lleol sy'n cyd-fynd â Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
Mae adran 10 yn diddymu'r gofyn sydd o dan Ddeddf Drafnidiaeth 2000 i awdurdodau trafnidiaeth lleol baratoi strategaeth i fysiau. Yn canlyn o hyn, mae is-adrannau (8) i (11) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Trafnidiaeth 1968 ac i Ddeddf Trafnidiaeth 1985.
Mae adran 11 yn diwygio'r ddyletswydd a roddir ar awdurdodau trafnidiaeth lleol yn adran 112(2) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 i roi sylw i anghenion pobl oedrannus neu'r rheini sydd ag anableddau wrth ddatblygu'u polisïau.
Mae adran 12 yn symud ymaith y ddyletswydd ar y cyd a fodolai gynt ar Awdurdodau Trafnidiaeth i Deithwyr a chynghorau dosbarth metropolitan mewn ardal trafnidiaeth i deithwyr yn Lloegr i gynhyrchu cynllun trafnidiaeth lleol o dan adran 108(1)(a), ac yn gosod y ddyletswydd yn y dyfodol yn gyfan-gwbl gyda'r Awdurdod Trafnidiaeth Integredig.
Mae adran 13 yn diwygio adran 114 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000. Mae adran 13(2) yn disodli'r gofyn sydd ar awdurdod trafnidiaeth lleol i fod wedi'i fodloni y byddai cynllun partneriaeth ansawdd yn gweithredu polisiau a osodir yn y strategaeth fysiau. Mae'r diwygiad hwn yn ganlyniad i gychwyn adran 10 o'r Ddeddf, sy'n symud ymaith y gofyn ar awdurdod trafnidiaeth lleol i gynhyrchu strategaeth fysiau.
Mae adran 46 yn cyflwyno diffiniad statudol o gytundebau partneriaeth wirfoddol. Mae'r adran hon hefyd yn cyflwyno Atodlen 2 i'r Ddeddf. Mae'r darpariaethau yn Atodlen 2 yn diwygio'r prawf cystadleuaeth yn Atodlen 10 i Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (y prawf cystadleuaeth ar gyfer swyddogaethau bysiau).
Mae adrannau 64 a 65 yn diwygio adran 155 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000. Mae'r darpariaethau newydd yn ymestyn pwerau comisiynwyr traffig i osod cosbau pan nad yw gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu rhedeg yn ôl fel y'u cofrestrwyd, neu os yw'r gweithredyddion yn methu â darparu'r data perfformiad a ragnodwyd. Mae adran 64 yn ddarostyngedig i drefniadau trosiannol sy'n rhwystro defnyddio'r pwerau newydd mewn perthynas â methiannau a ddigwyddodd cyn i'r adran hon ddod i rym.
Mae adrannau 68 i 70 yn ymestyn pwerau'r Awdurdodau Trafnidiaeth i Deithwyr a'r Weithrediaeth, yr awdurdodau lleol, a Gweinidogion Cymru i roi cymhorthdal i ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth o fathau penodol i deithwyr.
Mae adran 71 yn symud ymaith anableddau penodol a gofynion penodol ar awdurdodau lleol i geisio cydsyniad Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â chwmniau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r ddarpariaeth drosiannol yn yr Atodlen yn darparu na fydd ar unrhyw geisiadau am gydsyniad sydd heb eu penderfynu ar y dyddiad y daw'r adran hon i rym bellach angen cydsyniad Gweinidogion Cymru.
Mae adran 75 yn galluogi Gweinidogion Cymru i'w gwneud yn ofynnol i gyrff penodol arddangos gwybodaeth ragnodedig sy'n ymwneud â thrafnidiaeth.
Caiff Rhan 6 ei chychwyn, ac eithrio adrannau 119 a 120. Mae adran 6 yn diwygio, o ran Cymru, y darpariaethau yn Rhan 3 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 sy'n ymwneud â chynlluniau codi taliadau lleol.