Gwnaed
25 Chwefror 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 28(2) o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (Cychwyn Rhif 1) 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Mesur" yw'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.
2.–(1) Mae darpariaethau'r Mesur a osodir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i ddod i rym ar 6 Mawrth 2009.
(2) Mae darpariaethau'r Mesur a osodir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i ddod i rym ar 1Medi 2009.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
25 Chwefror 2009
Erthygl 2
Y Ddarpariaeth | Y Pwnc |
---|---|
Adran 1 (1), (2), (3) a (4)(a) i (i) | Y prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur hwn |
Adran 2 | Dyletswydd i asesu anghenion teithio dysgwyr |
Adran 5 i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 2 | Terfynau dyletswyddau sy'n ymwneud â theithio gan ddysgwyr |
Adran 6 | Pwer awdurdodau lleol i wneud trefniadau teithio i ddysgwyr |
Adran 10 | Hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg |
Adran 11 | Dulliau teithio cynaliadwy |
Adran 15 | Canllawiau a chyfarwyddiadau |
Adran 16 | Gwybodaeth am drefniadau teithio |
Adran 17(1) a (2) | Cydweithredu: gwybodaeth a chymorth arall |
Adran 19 | Penderfynu ar breswylfa arferol mewn achosion penodol |
Adran 21 | Diwygiadau i Ddeddf Addysg 2002 |
Adran 23 | Diwygiadau i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 |
Adran 24 | Dehongli cyffredinol |
Adran 25 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 1 isod | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Adran 26 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 2 isod | Diddymiadau |
Atodlen 1, paragraff 2(2)(c) i'r graddau y mae'n mewnosod paragraff (e) newydd o is-adran (1B) o adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985, paragraff 2(3) ac eithrio i'r graddau y mae'n rhoi i mewn gyfeiriad at baragraff (d) o is-adran (1B) o adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985, paragraff 4(1) i (4) | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Yn Atodlen 2 diddymiad–
|
Diddymiadau |
Y Ddarpariaeth | Y Pwnc |
---|---|
Adran 3 | Dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau cludo |
Adran 4 | Dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau teithio eraill |
Adran 5 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym | Terfynau dyletswyddau sy'n ymwneud â theithio gan ddysgwyr |
Adran 7 | Trefniadau teithio i ddysgwyr mewn addysg neu hyfforddiant ôl-16 |
Adran 8 | Trefniadau teithio i fan lle y darperir addysg feithrin ac oddi yno |
Adran 9 | Trefniadau teithio i ddysgwyr a'r rheini'n drefniadau nad ydynt i ffafrio mathau penodol o addysg neu hyfforddiant |
Adran 17(3) | Cydweithredu: gwybodaeth a chymorth arall |
Adran 18 | Talu costau teithio gan awdurdod lleol y mae plentyn yn derbyn gofal ganddo |
Adran 20 | Diwygiadau i adran 444 o Ddeddf Addysg 1996 |
Adran 22 | Diwygiadau i adrannau 455 a 456 o Ddeddf Addysg 1996 |
Adran 25 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 1 isod. | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Adran 26 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 2 isod. | Diddymiadau |
Atodlen 1, paragraffau 1, 2 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, 3, 4(5), 5 | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Yn Atodlen 2, diddymiad–
|
Diddymiadau |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Hwn yw'r gorchymyn cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Mae'n peri bod y darpariaethau hynny yn y Mesur a bennir yn Rhannau 1 a 2 yn eu tro o'r Atodlen i'r Gorchymyn yn dod i rym ar 6 Mawrth 2009 ac 1 Medi 2009.
Dyma effeithiau darpariaethau'r Mesur a ddaw i rym ar 6 Mawrth 2009:
Mae adran 1 yn diffinio'r prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur. Dygir yr adran hon i rym ar wahân i baragraff (j) o is-adran (1).
Mae adran 2 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i asesu anghenion teithio dysgwyr yn eu hardal.
Dygir adran 5 i rym mewn perthynas ag adran 2 ac mae'n cyfyngu ar y dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol gan yr adran honno fel nad ydynt yn ymestyn i deithio yn ystod y dydd nac i deithio at ddibenion ac eithrio mynychu man perthnasol ar gyfer addysg a hyfforddiant.
Mae adran 6 yn rhoi'r pwer i awdurdod lleol i wneud trefniadau ar gyfer teithio gan ddysgwyr yn ôl ac ymlaen o fan lle maent yn derbyn addysg neu hyfforddiant.
Mae adran 10 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol ac ar Weinidogion Cymru, pan fyddant yn arfer eu swyddogaethau o dan y Mesur, i hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
Mae adran 11 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol ac ar Weinidogion Cymru i hybu moddion cynaliadwy o deithio pan fyddant yn arfer eu swyddogaethau o dan y Mesur.
Mae adran 15 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach roi sylw i ganllawiau ac i gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru.
Mae adran 16 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyhoeddi gwybodaeth ynghylch trefniadau teithio.
Mae adran 17 (1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol gydweithredu.
Mae adran 19 yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu preswylfa arferol person mewn amgylchiadau penodol.
Mae adran 21 yn diwygio adran 32 o Ddeddf Addysg 2002 er mwyn galluogi awdurdodau lleol i bennu amserau sesiynau ysgol mewn amgylchiadau penodol.
Mae adran 23 yn diwygio Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio cyfeiriadau mewn Mesurau at awdurdod addysg lleol.
Mae adran 24 yn cynnwys diffiniadau cyffredinol.
Mae adran 25 ac Atodlen 1 yn gwneud diwygiadau mân a chanlyniadol.
Mae adran 26 ac Atodlen 2 yn diddymu darpariaethau amrywiol mewn Deddfau Seneddol.
Dyma effeithiau darpariaethau'r Mesur a ddygir i rym ar 1 Medi 2009:
Mae adran 3 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i wneud trefniadau cludiant ar gyfer plant o oed ysgol gorfodol yn yr amgylchiadau a osodir yn y tabl yn yr adran honno.
Mae adran 4 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i wneud trefniadau teithio ar gyfer plant o oed ysgol gorfodol os yw'r awdurdod yn credu fod hynny'n angenrheidiol.
Dygir adran 5 i rym yn llawn fel nad yw'r dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol gan adrannau 3 a 4 (yn ogystal ag adran 2) yn ymestyn i deithio yn ystod y dydd nac i deithio at ddibenion ac eithrio mynychu man perthnasol ar gyfer addysg a hyfforddiant.
Mae adran 7 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch trefniadau teithio ar gyfer dysgwyr ôl-16.
Mae adran 8 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch trefniadau teithio i blant o oed meithrin.
Mae adran 9 yn gwahardd trefniadau teithio a wneir o dan adran 3, 4 a 6 rhag gwahaniaethu rhwng gwahanol gategorïau o ddysgwyr.
Mae adran 17(3) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynorthwyo penaethiaid ysgolion mewn perthynas ag ymddygiad disgyblion.
Mae adran 18 yn galluogi awdurdod lleol sy'n gwneud y trefniadau teithio ar gyfer plentyn sy'n derbyn gofal i hawlio ad-daliad o'r costau oddi wrth awdurdod arall y mae'r plentyn yn derbyn gofal ganddo.
Mae adran 20 yn diwygio adran 444 o Ddeddf Addysg 1996 (y tramgwydd ar ran rhiant o fethu â sicrhau fod disgybl cofrestredig yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd).
Mae adran 22 yn diwygio adrannau 455 a 456 o Ddeddf Addysg 1996 (codi a rheoleiddio taliadau a ganiateir).
Mae adran 25 ac Atodlen 1 yn gwneud newidiadau mân a chanlyniadol.
Mae adran 26 ac Atodlen 2 yn diddymu darpariaethau amrywiol mewn Deddfau Seneddol.
2008 mccc 2. Back [1]