Gwnaed
17 Chwefror 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
18 Chwefror 2009
Yn dod i rym
11 Mawrth 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 128, 129 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2009 sy'n dod i rym ar 11 Mawrth 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y diffiniad o "NHS sight test fee" yn rheoliad 1(2) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2) –
(a) yn lle "£53.34" rhodder "£54.67"; a
(b) yn lle "£19.32" rhodder "£19.80".
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
17 Chwefror 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 er mwyn cyfeirio at godiad yn y ffioedd ar gyfer profion golwg GIG o 2.5%.