Gwnaed
11 Chwefror 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
13 Chwefror 2009
Yn dod i rym
1 Ebrill 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 35(2) a (3), 65(1) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a pharagraffau 138(1), 142 i 144, 145, 147, 148, 165, 166 a 182(6) a (7) o Atodlen A1 iddi (1) a chan adrannau 12 a 204 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(2).
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Galluedd Meddyliol (Amddifadu o Ryddid: Penodi Cynrychiolydd Person Perthnasol) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr "asesydd lles pennaf" ("best interests assessor") yw person a ddetholwyd i wneud asesiad lles pennaf o dan baragraff 38 o Atodlen A1 i'r Ddeddf;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005;
ystyr "rhoddai" ("donee") yw person y rhoddwyd iddo atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus gofrestredig gan y person perthnasol.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae "corff goruchwylio" ("supervisory body") yn cynnwys Bwrdd Iechyd Lleol sy'n arfer swyddogaethau goruchwylio yn unol â rheoliad 3.
3.–(1) Bydd pob Bwrdd Iechyd Lleol yn arfer swyddogaethau goruchwylio–
(a) mewn perthynas ag unrhyw berson sydd â lle ganddo mewn ysbyty neu sy'n debygol o gael lle mewn ysbyty (p'un a ydynt yn ysbytai'r GIG neu'n ysbytai annibynnol) yn ei ardal er mwyn derbyn gofal perthnasol neu driniaeth berthnasol(3); a
(b) os bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn comisiynu gofal perthnasol neu driniaeth berthnasol i berson mewn ysbyty (p'un ai ysbyty'r GIG neu ysbyty annibynnol) yn Lloegr mewn perthynas â'r ysbyty hwnnw.
(2) Os bydd Gweinidogion Cymru yn comisiynu gofal perthnasol neu driniaeth berthnasol i unrhyw berson sydd â lle ganddo mewn ysbyty neu sy'n debygol o gael lle mewn ysbyty (p'un ai ysbyty'r GIG neu ysbyty annibynnol) yn Lloegr y corff goruchwylio fydd y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer yr ardal y mae'r person fel arfer yn byw ynddi.
(3) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru, mae modd i swyddogaethau goruchwylio sy'n arferadwy gan Fwrdd Iechyd Lleol, drwy drefniant â'r Bwrdd hwnnw, ac yn ddarostyngedig i'r fath gyfyngiadau ac amodau ag y tybia'r Bwrdd hwnnw eu bod yn briodol, gael eu harfer–
(a) ar ran y Bwrdd hwnnw gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog o'r Bwrdd;
(b) ar y cyd â Bwrdd Iechyd Lleol arall;
(4) Mae i "swyddogaethau goruchwylio" yr un ystyr ag sydd i "supervisory functions" ym mharagraff 165(3) o Atodlen A1 i'r Ddeddf.
4.–(1) Mae dethol person i'w benodi yn gynrychiolydd i ddigwydd yn unol â Rhan 4.
(2) Mae penodi person yn gynrychiolydd i ddigwydd yn unol â Rhan 5.
5. Rhaid i'r weithdrefn ar gyfer penodi cynrychiolydd ddechrau–
(a) cyn gynted ag y bydd asesydd lles pennaf wedi ei ddethol gan y corff goruchwylio(4) at ddibenion cais am awdurdodiad safonol(5); neu
(b) cyn gynted ag y bo penodiad cynrychiolydd person perthnasol yn terfynu, neu i'w derfynu yn unol â rheoliad 14, a bod y person perthnasol yn parhau i fod yn ddarostyngedig i awdurdodiad safonol.
6.–(1) Mae person yn gymwys i'w benodi yn gynrychiolydd–
(a) os yw'n 18 oed neu drosodd;
(b) os yw'n abl i gadw mewn cysylltiad â'r person perthnasol(6);
(c) onid yw wedi'i rwystro gan afiechyd rhag cyflawni swyddogaeth cynrychiolydd;
(ch) os yw'n fodlon bod yn gynrychiolydd i'r person perthnasol;
(d) os nad oes ganddo fuddiant ariannol yn y cartref gofal(7) neu yn yr ysbyty annibynnol(8) lle mae'r person perthnasol yn cael ei gadw, neu lle mae i'w gadw;
(dd) onid yw'n berthynas i berson sydd â buddiant ariannol yn y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol lle mae'r person perthnasol yn cael ei gadw, neu lle mae i'w gadw;
(e) onid yw'n darparu gwasanaethau i'r cartref gofal lle mae'r person perthnasol yn cael ei gadw, neu lle mae i'w gadw, neu onid yw'n cael ei gyflogi i weithio yno;
(f) onid yw'n cael ei gyflogi i weithio yn yr ysbyty(9) lle mae'r person perthnasol yn cael ei gadw, neu lle mae i'w gadw, mewn swyddogaeth sy'n gysylltiedig ag achos y person perthnasol, neu a allai fod yn gysylltiedig â'r achos hwnnw; ac
(ff) onid yw'n cael ei gyflogi i weithio ar gorff goruchwylio'r person perthnasol mewn swyddogaeth sy'n gysylltiedig ag achos y person perthnasol, neu a allai fod yn gysylltiedig â'r achos hwnnw.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "perthynas" ("relative") yw:
(a) tad, mam, llystad, llysfam, mab, merch, llysfab, llysferch, nain (mam-gu), taid (tad-cu), ŵyr neu wyres y person hwnnw, neu o briod, cyn briod, partner sifil neu gyn bartner sifil y person hwnnw; neu
(b) brawd, chwaer, ewythr, modryb, nith, nai, neu gefnder cyfan (p'un ai o waed cyfan neu hanner gwaed neu drwy briodas neu bartneriaeth sifil) y person hwnnw neu briod, cyn briod, partner sifil neu gyn bartner sifil y person hwnnw.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn–
(a) mae "priod" ("spouse") neu "partner sifil" ("civil partner") yn cynnwys person nad yw'n briod â pherson nac mewn partneriaeth sifil â pherson ond sy'n byw gyda'r person hwnnw fel petai mewn perthynas o'r fath, a
(b) mae gan berson fuddiant ariannol mewn cartref gofal neu mewn ysbyty annibynnol os yw'r person hwnnw'n bartner, yn gyfarwyddwr, yn ddeiliad swydd arall neu'n brif gyfranddaliwr y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol sydd wedi gwneud cais am awdurdodiad safonol.
(c) ystyr "prif gyfranddaliwr" ("major shareholder") yw–
(i) unrhyw berson sy'n dal degfed ran neu fwy o'r cyfranddaliadau sydd wedi eu dyroddi yn y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol, os yw'r cartref gofal neu'r ysbyty yn gwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau, a
(ii) ym mhob achos arall, unrhyw un o berchnogion y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol.
7.–(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gan y person perthnasol alluedd o ran y cwestiwn pwy ddylai ei gynrychiolydd fod.
(2) Caiff y person perthnasol ddethol person ar gyfer ei benodi i fod yn gynrychiolydd iddo.
(3) Os yw'r person perthnasol yn cael dethol person yn unol â pharagraff (2) ond nad yw'n gwneud hynny, mae rheoliad 10 yn gymwys.
8.–(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os nad oes gan y person perthnasol alluedd o ran y cwestiwn pwy ddylai ei gynrychiolydd fod.
(2) Pan fo'r canlynol yn wir–
(a) bod gan y person perthnasol roddai neu ddirprwy(10), a
(b) ei bod o fewn awdurdod y rhoddai neu'r dirprwy i wneud hynny,
caiff y rhoddai neu'r dirprwy ddethol person i'w benodi yn gynrychiolydd.
(3) Os yw rhoddai neu ddirprwy yn cael dethol person yn unol â pharagraff (2) ond nad yw'n gwneud hynny, mae rheoliad 10 yn gymwys.
9.–(1) Rhaid i berson a ddetholir yn unol â rheoliadau 7(2) neu 8(2) gael ei gymeradwyo gan yr asesydd lles pennaf neu gan y corff goruchwylio.
(2) Os nad yw'r asesydd lles pennaf neu'r corff goruchwylio yn cymeradwyo person a ddetholir–
(a) caiff gymeradwyo person arall a ddetholir yn unol â rheoliadau 7(2) neu 8(2); neu
(b) caiff yr asesydd lles pennaf ddethol person yn unol â rheoliad 10.
10.–(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys––
(a) pan nad oes person wedi ei ddethol i'w benodi yn gynrychiolydd yn unol â rheoliadau 7(2) neu 8(2), neu
(b) pan fo'r asesydd lles pennaf neu'r corff goruchwylio heb gymeradwyo person yn unol â rheoliad 9.
(2) Caiff yr asesydd lles pennaf ddethol person i fod yn gynrychiolydd i'r person perthnasol.
(3) Os nad yw'r asesydd lles pennaf yn gallu dethol person i'w benodi'n gynrychiolydd, mae rheoliad 11 yn gymwys.
11.–(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan nad oes person wedi'i ddethol yn unol â rheoliadau 7(2), 8(2) neu 10(2).
(2) Rhaid i'r corff goruchwylio ddethol person i'w benodi yn gynrychiolydd i'r person perthnasol.
(3) Os bydd person a ddetholir yn unol â pharagraff (2) yn gweithredu mewn swyddogaeth broffesiynol
(a) rhaid i'r person hwnnw fod â'r hyfforddiant a'r profiad priodol, a
(b) rhaid bod y corff goruchwylio wedi'i fodloni bod y canlynol ar gael mewn perthynas â'r person hwnnw–
(i) tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddir yn unol ag adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(11); neu
(ii) os nad yw'r diben y mae'r dystysgrif yn ofynnol ati yn un a ragnodir o dan is-adran (2) o'r adran honno, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir yn unol ag adran 113A o'r Ddeddf honno.
(4) At ddibenion paragraff (3), person sy'n gweithredu mewn swyddogaeth broffesiynol yw person a gafodd ei ddethol gan yr asesydd lles pennaf neu gan y corff goruchwylio a hwnnw'n berson nad yw'n aelod o'r teulu, yn gyfaill nac yn ofalwr i'r person perthnasol.
12. Bydd corff goruchwylio yn penodi mewn ysgrifen unrhyw berson a ddetholir yn unol â Rhan 4 yn gynrychiolydd i'r person perthnasol.
13. Rhaid hysbysu'r personau canlynol o benodiad cynrychiolydd–
(a) y person perthnasol;
(b) yr awdurdod rheoli perthnasol;
(c) unrhyw roddai neu ddirprwy i'r person perthnasol;
(ch) unrhyw eiriolwr annibynnol o ran galluedd meddyliol(12) a benodwyd yn unol â'r Ddeddf; a
(d) unrhyw berson y bydd yr asesydd lles pennaf wedi ymgynghori ag ef.
14. Bydd person yn peidio â bod yn gynrychiolydd–
(a) os bydd farw;
(b) os bydd yn hysbysu'r corff goruchwylio nad yw mwyach yn fodlon parhau â'r swyddogaeth;
(c) os daw cyfnod ei benodiad i ben;
(ch) os yw cynrychiolydd wedi'i benodi ar ôl cael ei ddethol yn unol â rheoliad 7(2) a bod y person perthnasol yn hysbysu'r corff goruchwylio ei fod yn gwrthwynebu i'r person hwnnw barhau i fod yn gynrychiolydd iddo;
(d) os yw cynrychiolydd wedi'i benodi ar ôl cael ei ddethol yn unol â rheoliad 8(2) a bod y rhoddai neu'r dirprwy yn gwrthwynebu i'r person hwnnw barhau i fod yn gynrychiolydd i'r person perthnasol;
(dd) os bydd y corff goruchwylio yn terfynu'r penodiad am ei fod wedi'i fodloni nad yw'r cynrychiolydd yn cadw cyswllt digonol â'r person perthnasol i'w gefnogi ac i'w gynrychioli;
(e) os bydd y corff goruchwylio yn terfynu'r penodiad am ei fod wedi'i fodloni nad yw'r person yn gymwys mwyach at ddibenion 6(1) i fod yn gynrychiolydd; neu
(f) os bydd y corff goruchwylio yn terfynu'r penodiad am ei fod wedi'i fodloni nad yw'r person yn gweithredu er lles pennaf y person perthnasol.
15. Rhaid i'r awdurdod rheoli roi gwybod i'r corff goruchwylio os daw yn ymwybodol nad yw'r cynrychiolydd yn gweithredu er lles pennaf y person perthnasol neu os nad yw wedi cadw cyswllt rheolaidd ag ef.
16.–(1) Os yw penodiad cynrychiolydd i'w derfynu yn unol â pharagraffau (b) i (f) o reoliad 14, rhaid i'r corff goruchwylio hysbysu'r person hwnnw fod ei benodiad i'w derfynu a rhaid iddo roi rhesymau pam y mae'r penodiad i'w derfynu.
(2) Os yw penodiad cynrychiolydd i'w derfynu'n unol â rheoliad 14, rhaid i'r corff goruchwylio hysbysu–
(a) y person perthnasol;
(b) yr awdurdod rheoli;
(c) unrhyw roddai neu ddirprwy i'r person perthnasol;
(ch) unrhyw eiriolwr annibynnol o ran galluedd meddyliol a benodir yn unol â'r Ddeddf; a
(d) unrhyw berson yr ymgynghorir ag ef gan yr asesydd lles pennaf.
17. Caiff corff goruchwylio wneud taliadau i unrhyw berson, neu mewn perthynas ag unrhyw berson, a benodwyd yn unol â rheoliad 12 ac sy'n arfer swyddogaethau fel cynrychiolydd y person perthnasol.
18.–(1) Mae Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol) (Cymru) 2007(13) wedi'u diwygio'n unol â'r paragraff canlynol.
(2) Yn lle'r geiriau "adrannau 37, 38 a 39 o'r Ddeddf" yn rheoliad 2(2) (dehongli), rhodder y geiriau canlynol–
"adrannau 37, 38, 39, 39A, 39C neu 39D o'r Ddeddf".
19. Yn lle'r geiriau "adrannau 37, 38 neu 39 o'r Ddeddf" yn rheoliad 5(1) (penodi eiriolwyr annibynnol o ran galluedd meddyliol) rhodder y geiriau canlynol–
"adrannau 37, 38, 39, 39A, 39C neu 39D o'r Ddeddf".
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Chwefror 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
1. Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 ("y Ddeddf") yn darparu y gellir yn gyfreithlon amddifadu pobl o'u rhyddid os nad yw'r galluedd ganddynt i gydsynio i drefniadau a gynigir iddynt ar gyfer eu gofal neu driniaeth mewn cartrefi gofal ac ysbytai ar yr amod bod hynny'n cael ei awdurdodi'n unol â'r Ddeddf. Y cyrff goruchwylio sydd i roi'r awdurdodiad. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi swyddogaethau goruchwylio mewn perthynas ag ysbytai i Fyrddau Iechyd Lleol.
2. Os rhoddir awdurdodiad i amddifadu unrhyw berson o'i ryddid, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i'r corff goruchwylio benodi cynrychiolydd ar gyfer y person hwnnw. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dethol a phenodi cynrychiolwyr.
3. Mae'r Rheoliadau hyn–
(a) yn rhoi swyddogaethau goruchwylio mewn perthynas ag ysbytai i Fyrddau Iechyd Lleol ac yn darparu ar gyfer trefniadau cydweithio (rheoliad 3);
(b) yn gwneud darpariaethau ynghylch yr amgylchiadau pan fydd person yn gymwys i fod yn gynrychiolydd (rheoliad 6);
(c) yn darparu i berson perthnasol ddethol person yn gynrychiolydd iddo (rheoliad 7);
(ch) yn darparu os oes gan berson perthnasol roddai i Atwrneiaeth Arhosol neu os yw'r llys wedi penodi dirprwy, caiff y rhoddai hwnnw neu'r dirprwy hwnnw ddethol cynrychiolydd ar yr amod bod hynny o fewn cwmpas ei awdurdod (rheoliad 8);
(d) yn darparu i asesydd lles pennaf i gymeradwyo cynrychiolydd a ddetholir gan y person perthnasol, y rhoddai neu'r dirprwy neu ddethol cynrychiolydd ei hunan (rheoliadau 9 a 10);
(dd) yn darparu i'r corff goruchwylio ddethol cynrychiolydd os na ellir dethol un drwy ddulliau eraill (rheoliad 11);
(e) yn darparu i'r corff goruchwylio benodi cynrychiolydd a ddetholwyd ac i hysbysiad o'r penodiad gael ei roi i'r personau sydd â buddiant (rheoliadau 12 a 13);
(f) yn darparu ar gyfer terfynu penodiad y cynrychiolydd (rheoliad 14);
(ff) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod rheoli hysbysu'r corff goruchwylio os nad yw'r cynrychiolydd yn gweithredu er lles pennaf y person perthnasol neu os nad yw'n cadw mewn cysylltiad rheolaidd (rheoliad 15);
(g) yn darparu i gynrychiolwyr gael eu talu (rheoliad 17).
4. Darpariaethau trosiannol yw rheoliadau 18 a 19 sy'n diwygio Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/852 (Cy.77)). Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd Byrddau Iechyd Lleol yn gyfrifol hefyd am wneud trefniadau i Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol fod ar gael i weithredu pan fo'r person perthnasol, neu pan fo'n bosibl ei fod, yn ddarostyngedig i awdurdodiad safonol ac nad oes gan y person hwnnw unrhyw berson arall y gellir ymgynghori ag ef ynglyn â'r hyn sydd er ei les pennaf (rheoliadau 18 a 19).
5. Ni chafodd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ei lunio ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir unrhyw effaith arwyddocaol ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.
2005 p.9. Mewnosodwyd Atodlen A1 gan adran 50(5) o Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 p.12. Back [1]
2006 (p.42). Back [2]
Diffinnir "relevant care or treatment" ym mharagraff 7 o Atodlen A1 i'r Ddeddf. Back [3]
Penderfynir p'un yw'r corff goruchwylio yn unol â pharagraffau 128, 180, 181 a 182 o Atodlen A1 i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 ("y Ddeddf"). Back [4]
Caiff "standard authorisation" ei ddiffinio ym mharagraff 8 o Atodlen 1 i'r Ddeddf. Back [5]
Caiff "relevant person" ei ddiffinio ym mharagraff 7 o Atodlen A1 i'r Ddeddf. Back [6]
Caiff "care home" ei ddiffinio ym mharagraff 178 o Atodlen 1 i'r Ddeddf. Back [7]
Diffinnir "independent hospital" ym mharagraff 175(3) o Atodlen A1 i'r Ddeddf. Back [8]
Caiff "ysbyty" ei ddiffinio ym mharagraff 175(1) o Atodlen A1 i'r Ddeddf. Back [9]
Caiff "deputy" ei ddiffinio yn adran 64(1) o'r Ddeddf. Back [10]
1997 p.50. Mae adrannau 113A i 113D wedi'u mewnosod gan adran 163 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p.14). Back [11]
Caiff "independent mental capacity advocate" ei ddiffinio yn adran 64(1) o'r Ddeddf. Back [12]
O..S. 2007/852 (Cy.77). Back [13]