Gwnaed
9 Chwefror 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
11 Chwefror 2009
Yn dod i rym
7 Mawrth 2009
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 7 Mawrth 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2009.
2. Yn rheoliad 4(e) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) 2008(3) yn lle "£2,200" rhodder "£15,000".
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
9 Chwefror 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
O dan adran 45 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ('Deddf 1988') mae ardrethi annomestig yn daladwy ar hereditament heb ei feddiannu os yw'r hereditament yn bodloni'r amodau a geir yn adran 45(1). Mae'r amodau hynny'n cynnwys amod bod yr hereditament yn dod o fewn dosbarth rhagnodedig.
Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) 2008 ('Rheoliadau 2008') yn rhagnodi dosbarth o hereditamentau heb eu meddiannu y mae ardrethi yn daladwy arnynt. Cynnwys y dosbarth yw'r holl hereditamentau heb eu meddiannu nad oes yr un o'r amodau yn rheoliad 4 yn gymwys iddynt.
Mae rheoliad 4 yn eithrio'r holl hereditamentau a geir mewn rhestr ardrethu annomestig ac y mae eu gwerth ardrethol yn llai na swm penodedig, sef £2,200 ar hyn o bryd, o rwymedigaeth i dalu arnynt ardrethi annomestig o dan adran 45 o Ddeddf 1988. Mae'r Rheoliadau hyn yn cynyddu'r ffigur hwnnw i £15,000 at ddibenion hereditament a welir ar y rhestr ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2009 yn unig.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi yn http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/buslegislation/bus-legislation-sub.
1988 p.41. Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol a geir yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672, erthygl 2, Atodlen 1). Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]
O.S. 2008/2499 (Cy.217). Back [3]