Gwnaed
2 Chwefror 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Chwefror 2009
Yn dod i rym
25 Chwefror 2009
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â chamau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cwblhau'r ymgynghoriad a oedd yn ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelu Bwyd Ewropeaidd ac yn gosod y gweithdrefnau ym materion diogelwch bwyd(3).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2009; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 25 Chwefror 2009.
2. Diwygir Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008(4) ("y prif Reoliadau") yn unol â rheoliad 3.
3. Diwygir testun Cymraeg y prif Reoliadau fel a ganlyn–
(a) yn rheoliad 15(1)(c) yn lle "sydd ag" rhodder "a chanddo yn ei feddiant, neu i gyflenwr," ac ar ôl y trydydd tro y ceir "anifeiliaid", dileer "yn ei feddiant";
(b) ym mharagraff 5(6) o Atodlen 3 yn lle'r gair "rheoliad" rhodder y gair "paragraff"; ac
(c) ym mharagraff 3(2) o Atodlen 6 yn lle'r llythyren "(d)" rhodder y llythyren "(ch)".
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
2 Chwefror 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3154 (Cy.282)) ("y prif Reoliadau") sy'n gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli, a difa enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1) fel y'i diwygiwyd.
Diwygir testun Cymraeg y prif Reoliadau er mwyn: cynnwys cyfeiriad at "gyflenwr" ("supplier") (rheoliad 15(1)(c)); rhoi yn lle'r gair "rheoliad" y gair "paragraff" (paragraff 5(6) o Atodlen 3) a rhoi yn lle'r llythyren "(d)" y llythyren "(ch)" (paragraff 3(2) o Atodlen 6).
Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes wedi ei baratoi.
O.S. 2008/1792. Back [1]
1972 p.68. Back [2]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 202/2008 (OJ Rhif L60, 5.3.2008, t.17). Back [3]
O.S. 2008/3154 (Cy.282). Back [4]