Gwnaed
14 Ionawr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
19 Ionawr 2009
Yn dod i rym
1 Ebrill 2009
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 1 Ebrill 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn–
ystyr "y Cyd-gyngor Cenedlaethol" ("the National Joint Council") yw'r Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol;
ystyr "Cynllun y Cyd-gyngor Cenedlaethol" ("the National Joint Council´s Scheme") yw Cynllun Amodau Gwasanaeth y Cyd-gyngor Cenedlaethol; ac
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;
3.–(1) Y pwynt a bennir at ddibenion adran 9(4)(a) o'r Ddeddf yw pwynt 44 ar y golofn gyflog ar y graddfeydd cyflog ar gyfer swyddogion awdurdod lleol a ymgorfforir yng Nghynllun y Cyd-gyngor Cenedlaethol.
(2) Y swm sy'n cyfateb i'r pwynt a bennir ym mharagraff (1) yw'r swm hwnnw a gyhoeddir gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol o bryd i'w gilydd o ran swyddi llawnamser o dan awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr.
4. I'r graddau y mae'n gymwys i awdurdodau perthnasol yng Nghymru, dirymir Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl)1995(3).
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
14 Ionawr 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Un o'r gofynion ynghylch y telerau y penodir person i swydd, neu fod person yn dal swydd, yn unol ag adran 9 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cynorthwywyr i grwpiau gwleidyddol) yw bod cyfradd y tâl blynyddol ar gyfer y swydd yn llai na £13,500 neu'n swm uwch yn ôl yr hyn a bennir drwy Orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru yn darparu mai'r gyfradd dâl flynyddol fydd y mwyafswm a bennir o bryd i'w gilydd gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol fel yr un sy'n gymwys i bwynt 44 ar y golofn gyflog ar eu graddfeydd cyflog ar gyfer swyddogion llywodraeth leol.
O ran awdurdodau lleol yng Nghymru, dirymir Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) 1995.