Gwnaed
19 Rhagfyr 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
19 Rhagfyr 2008
Yn dod i rym
12 Ionawr 2009
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffotoiechydol ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal yr ymgynghoriad sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop â'r Cyngor yn gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau mewn perthynas â diogelwch bwyd(3).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 12 Ionawr 2009.
2. Diwygir Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008(4) yn unol â rheoliadau 3 i 8.
3. Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o "Rheoliad TSE y Gymuned", ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder–
"(c) Penderfyniad y Comisiwn 2008/908/EC yn awdurdodi Aelod-wladwriaethau penodol i adolygu eu rhaglen fonitro BSE flynyddol(5);".
4. Yn rheoliad 20 yn lle paragraff (2) rhodder–
"(2) Yr Asiantaeth Safonau Bwyd sy'n gorfodi mewn lladd-dai a safleoedd torri:–
(a) Atodlen 7; a
(b) paragraff 1A, paragraff 2 a pharagraff 3
o Atodlen 8.".
5. Yn Atodlen 2–
(a) yn lle paragraff 1 rhodder–
1.–(1) At ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i berson sydd â chorff gafr 18 mis oed neu drosodd pan fu farw yn ei feddiant, neu dan ei reolaeth,–
(a) o fewn 24 awr o'r amser pan fu'r anifail farw neu pan gafodd ei ladd neu pan ddaeth y corff i'w feddiant neu dan ei reolaeth hysbysu Gweinidogion Cymru; a
(b) os yw Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo felly, ei gadw hyd nes ei fod yn cael ei gasglu gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan,
ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.
(2) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â geifr a gigyddwyd i'w bwyta gan bobl neu a gafodd eu lladd yn unol ag Atodlen 4.
1A.–(1) At ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i berson sydd â chorff anifail buchol yn ei feddiant, neu dan ei reolaeth, y mae'n rhaid ei brofi yn unol â phwynt 3(1) o Ran 1 o Bennod A o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw, onis cyfarwyddir yn wahanol gan Weinidogion Cymru, o fewn 24 awr, naill ai–
(a) gwneud trefniadau gyda pherson arall i'r person hwnnw ei gasglu a'i ddanfon i safle samplu a gymeradwywyd o fewn 72 o oriau; neu
(b) dynodi safle samplu a fydd yn gwneud y gwaith samplu a danfon yr anifail i'r safle hwnnw fel y bydd yn cyrraedd y safle o fewn 72 o oriau
ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.
(2) Mae'r cyfnodau o 24 awr a 72 awr y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yn cychwyn o'r amser pan fu'r anifail farw neu pan gafodd ei ladd neu pan ddaeth i feddiant neu dan reolaeth y person y mae gofynion yr is-baragraff hwnnw yn gymwys iddo.
1B. Rhaid i berson y gwneir trefniadau gydag ef o dan baragraff 1A i ddanfon corff i safle samplu, onis cyfarwyddir yn wahanol gan Weinidogion Cymru, o fewn 48 o oriau i'r amser pan ddaw'r corff i feddiant neu dan reolaeth y person hwnnw–
(a) dynodi safle samplu a fydd yn gwneud y gwaith samplu; a
(b) sicrhau fod y corff yn cael ei ddanfon i'r safle hwnnw,
ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.
1C. Mae unrhyw berson sy'n difa corff anifail buchol y mae paragraff 1A yn gymwys iddo cyn iddo gael ei samplu mewn safle samplu a gymeradwywyd, ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru, yn cyflawni tramgwydd.
1CH. Mae'n rhaid i safle samplu a gymeradwywyd yr anfonwyd corff buchol iddo i'w samplu yn unol â'r Rhan hon gadw'r sampl yn unol â phwynt 6(3) o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd; a
(b) ar ôl paragraff 4 mewnosoder–
4A.–(1) Ar dderbyn cais mae'n rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo safle samplu i samplu anifeiliaid y mae paragraff 1A yn gymwys iddynt os ydynt wedi'u bodloni fod gan y safle samplu weithdrefnau rheoli digonol i wneud y samplu.
(2) Ystyr "safle samplu a gymeradwywyd" ("approved sampling site") yn y Rhan hon yw safle samplu a gymeradwywyd o dan y paragraff hwn neu safle samplu mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig a gymeradwywyd gan yr awdurdod cymwys i wneud gwaith samplu at yr un diben.".
6. Yn Atodlen 3 paragraff 5, is-baragraff (3) yn lle "is-baragraff 2(b)(ii)" rhodder "is-baragraff 1(b)(ii)".
7. Yn lle Atodlen 8 rhodder yr atodlen newydd a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
8. Yn rheoliad 12 yn lle "Atodlen 7" rhodder "Atodlenni 7 ac 8".
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
19 Rhagfyr 2008
Rheoliad 7
Rheoliad 5
1.A.–(1) Mae'n dramgwydd i unrhyw berson osod ar y farchnad neu allforio (neu gynnig allforio) i drydydd gwledydd unrhyw gynhyrchion sy'n cynnwys neu sydd wedi'u cyfansoddi o unrhyw ddeunydd (ac eithrio llaeth) sy'n tarddu o anifail buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996.
(2) Nid yw'r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys i grwyn anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 (gan gynnwys crwyn o anifeiliaid buchol y cyfeirir atynt yn nhrydydd indent pwynt 1(a) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned) a gafodd eu defnyddio i gynhyrchu lledr yn unol ag Erthygl 1(3) o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC(6);
(3) At y diben o orfodi darpariaethau'r paragraff hwn caiff person a benodwyd yn arolygydd mewn perthynas â marchnad grwyn neu danerdy gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth hefyd arfer pwerau arolygydd.
1B.–(1) Mae'n dramgwydd i unrhyw berson osod ar y farchnad neu allforio (neu gynnig allforio) i drydydd gwledydd yn unol â Rhan II o Bennod A o Atodiad VIII i Reoliad TSE y Gymuned anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996.
(2) Nid yw'r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys i osod anifeiliaid o'r fath ar y farchnad i'w gwerthu neu i'w cyflenwi i unrhyw berson yn y Deyrnas Unedig."
2. Yn ddarostyngedig i bwynt 10(2) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned, mae'n dramgwydd i unrhyw berson allforio (neu gynnig allforio) unrhyw ben neu garcas heb ei hollti sy'n cynnwys deunydd risg
penodedig i Aelod-wladwriaeth arall, yn absenoldeb unrhyw gytundeb o'r math a bennir ym mhwynt 10(1) o'r Atodiad hwnnw.
3. Yn unol â phwynt 10(3) o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned, mae'n dramgwydd i unrhyw berson allforio (neu gynnig allforio) i drydydd gwledydd pennau neu gig ffres anifeiliaid o deulu'r fuwch, y ddafad neu'r afr sy'n cynnwys deunydd risg penodedig.
4. Er dibynnion paragraffau 1A, 2 a 3 o'r Atodlen hon, o fewn lladd-dy neu safle torri, arolygydd yw person a aphwyntwyd i'r dibyn hynny gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3154 (Cy.282)) sy'n gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol (OJ Rhif L 147, 31.5.2001, t.1) fel y'i diwygiwyd.
Diwygir Rheoliad 2 (dehongli) i gynnwys cyfeiriad at Benderfyniad y Comisiwn 2008/908/EC sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau penodol i adolygu eu rhaglen fonitro B.S.E. flynyddol (OJ Rhif L 327, 5.12.2008, t.24) yn y diffiniad o "Rheoliad TSE y Gymuned" (rheoliad 3).
Diwygir Rheoliad 20 (gorfodi) er mwyn peri mai'r Asiantaeth Safonau Bwyd yw'r asiantaeth orfodi ar gyfer tramgwyddau o osod cynhyrchion ar y farchnad (rheoliad 4).
Diwygir Atodlen 2 (monitro TSE) er mwyn gosod dyletswydd ar y rheini sydd â stoc buchol trig yn eu meddiant i ddanfon neu i drefnu i ddanfon carcasau i safle samplu a gymeradwywyd ar gyfer samplu coesyn yr ymennydd. Mae'n ofynnol i'r rheini sy'n casglu ac yn danfon carcasau'r stoc trig sicrhau fod y carcasau hynny yn cael eu danfon i safle samplu a gymeradwywyd. Mae methu â chydymffurfio â'r darpariaethau hyn yn dramgwydd.
Caiff Atodlen 2 ei diwygio hefyd i greu tramgwyddau newydd o ddifa carcas y mae'r darpariaethau hyn yn berthnasol iddo cyn ei fod wedi cael eu samplu ac o fethu â dal gafael ar garcasau cyn cael canlyniad negyddol i brawf ac i wneud darpariaeth ar gyfer cymeradwyo safleoedd samplu gan Weinidogion Cymru (rheoliad 5).
Gosodir Atodlen 8 newydd yn ei lle (cyfyngiadau ar osod ar y farchnad ac allforio) sy'n ei gwneud yn dramgwydd i osod ar y farchnad anifeiliaid buchol byw a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 a'u hallforio hwy a chynhyrchion sy'n tarddu ohonynt (ac eithrio llaeth neu grwyn) i Aelod-wladwriaethau eraill ac i drydydd gwledydd (rheoliad 8) (rheoliad 7).
Mae tramgwyddau'n gosbadwy yn unol â rheoliad 18 o Reoliadau 2008–
(a) ar gollfarn ddiannod, dirwy o ddim mwy na'r mwyafswm statudol neu garchariad am dymor o dri mis neu'r ddau, neu
(b) ar gollfarn ar dditiad, dirwy neu garchariad am dymor heb fod yn hwy na dwy flynedd, neu'r ddau.
Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes ac mae ar gael oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
O.S. 2008/1792. Back [1]
1972 p. 68. Back [2]
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 202/2008 (OJ Rhif L 60, 5.3.2008, t.17). Back [3]
O.S. 2008/3154 (W.282). Back [4]
OJ Rhif L 327, 5.12.2008, t.24. Back [5]
OJ Rhif L 155, 15.6.2007, t.74. Back [6]