Gwnaed
13 Tachwedd 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Tachwedd 2008
Yn dod i rym
8 Rhagfyr 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 11F(3), (6) a (7) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989(1).
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Cyfarwyddiadau ac Amodau Gweithgareddau Cyswllt: Cymorth Ariannol) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 8 Rhagfyr 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn–
mae i "achosion teuluol" yr ystyr sydd i "family proceedings" yn y Rheoliadau Ariannol;
mae i "amod gweithgaredd cyswllt" yr ystyr sydd i "contact activity condition" yn adran 11C(2) o'r Ddeddf;
mae i "cyfarwyddyd gweithgaredd cyswllt" yr ystyr sydd i "contact activity direction" yn adran 11A(3) o'r Ddeddf;
ystyr "darparydd a gymeradwyir" ("approved provider") yw person a gymeradwyir am y tro–
gan Weinidogion Cymru, pan fo'r gweithgaredd cyswllt yn cael ei ddarparu yng Nghymru, neu
gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Blant, Ysgolion a Theuluoedd, pan fo'r gweithgaredd cyswllt yn cael ei ddarparu yn Lloegr,
yn ddarparydd gweithgareddau cyswllt;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Plant 1989;
mae i "gwasanaethau a ariennir" yr ystyr sydd i "funded services" yn y Rheoliadau Ariannol;
ystyr "gweithgaredd cyswllt" ("contact activity") yw gweithgaredd sy'n hybu cyswllt â phlentyn ac y mae cyfarwyddyd gweithgaredd cyswllt neu amod gweithgaredd cyswllt yn ei wneud yn ofynnol;
ystyr "Rheoliadau Ariannol" ("Financial Regulations") yw Rheoliadau Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol (Ariannol) 2000(2);
mae i "tystysgrif" yr ystyr sydd i "certificate" yn y Rheoliadau Ariannol;
ystyr "unigolyn cymwys" ("qualifying individual") yw unigolyn sy'n dod o fewn adran 11F(4) o'r Ddeddf.
3.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i gynorthwyo unigolyn cymwys i dalu tâl neu ffi mewn cysylltiad â gweithgaredd cyswllt.
(2) Ni chaniateir gwneud taliadau o dan baragraff (1) oni bai–
(a) bod adnoddau ariannol yr unigolyn cymwys fel a ganlyn, sef–
(i) yn sgil dyfarnu yn unol â'r Rheoliadau Ariannol bod yr unigolyn yn gymwys yn ariannol i gael gwasanaethau a ariennir mewn perthynas ag achosion teuluol, bod tystysgrif wedi ei dyroddi i'r unigolyn mewn perthynas â'r achos teuluol y gwnaed neu y gorfodwyd ganddo y cyfarwyddyd gweithgaredd cyswllt neu'r amod gweithgaredd cyswllt, a'i gwnâi'n ofynnol i'r unigolyn gymryd rhan yn y gweithgaredd cyswllt; neu
(ii) os nad yw'r unigolyn yn bodloni'r amod yn is-baragraff (a)(i), bod Gweinidogion Cymru'n fodlon bod yr unigolyn yn debygol o ddioddef caledi ariannol os yw'n ofynnol iddo dalu'r tâl neu'r ffi; a
(b) bod y gweithgaredd cyswllt yn cael ei ddarparu gan ddarparydd a gymeradwyir.
4. Caniateir gwneud taliadau o dan reoliad 3 yn uniongyrchol i'r darparydd a gymeradwyir.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
13 Tachwedd 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth sy'n galluogi talu cymorth ariannol mewn perthynas ag unigolyn y rhoddwyd gorchymyn neu gyfarwyddyd iddo i ymgymryd â gweithgaredd sy'n hybu cyswllt rhyngddo a'i blentyn os yw'r plentyn yn preswylio fel arfer yng Nghymru ("unigolyn cymwys") (rheoliad 3(1)).
Er mwyn bod yn gymwys i gael y cyfryw gymorth rhaid i unigolyn fod wedi ei ddyfarnu'n gymwys yn ariannol i gael gwasanaethau a ariennir mewn perthynas ag achosion teuluol a rhaid i'r unigolyn fod wedi cael tystysgrif a ddyroddwyd o dan y Cod Ariannu a gymeradwywyd o dan adran 9 o Ddeddf Mynediad at Gyfiawnder 1999(3) mewn perthynas â'r achos teuluol pan fu i'r llys wneud y cyfarwyddyd gweithgaredd cyswllt neu osod yr amod gweithgaredd cyswllt. Os nad dyna'r achos bydd angen i unigolyn brofi ei fod yn debygol o ddioddef caledi ariannol os bydd yn rhaid iddo dalu'r tâl neu'r ffi ar gyfer y gweithgaredd cyaswllt (rheoliad 3(2)).
Mae rheoliad 3(2) hefyd yn darparu mai dim ond os darperir y gweithgaredd cyswllt gan ddarparydd a gymeradwyir y caniateir rhoi cymorth. Mae darparydd a gymeradwyir wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru neu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Blant, Ysgolion a Theuluoedd.
Mae rheoliad 4 yn caniatáu talu taliadau cymorth ariannol yn uniongyrchol i'r darparydd a gymeradwyir.
1989 p.41. Mewnosodwyd adran 11F gan Ddeddf Plant a Mabwysiadu 2006 (p.20). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 11F (3), (6) a (7) a 104(4) i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a chan baragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi. Back [1]
O.S. 2000/516; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/2997, 2001/3663, 2001/3929, 2002/709, 2003/650, 2005/589, 2005/1097, 2005/1793, 2006/2363, 2007/906, 2007/2442, 2088/658 a 2008/1879. Back [2]
1999 p.22. Back [3]