Gwnaed
16 Hydref 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Hydref 2008
Yn dod i rym
31 Hydref 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy gan adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2), a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3),a chyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer diben y cyfeirir ato yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac y mae'n ymddangos yn hwylus i Weinidogion Cymru ddehongli cyfeiriadau at offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 31 Hydref 2008.
2.–(1) Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr "y Rheoliad Ewropeaidd" ("the European Regulation") yw Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reoli salmonela a chyfryngau milheintiol penodedig eraill sy'n ymledu drwy fwyd (4);
ystyr "Rheoliadau 2006" ("the 2006 Regulations") yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006 (5);
ystyr "samplau rheoli swyddogol" ("official control samples") yw samplau sydd wedi'u cymryd o dan bwynt 2.1.2.2 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau bridio o Gallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003(6) neu bwynt 2.1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau dodwy o Gallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1003/2005(7).
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.
3.–(1) Caiff Gweinidogion Cymru godi unrhyw ffioedd a fydd, yn eu barn hwy, yn eu galluogi i dalu unrhyw dreuliau rhesymol yr ânt iddynt wrth iddynt gyflawni'r gweithgareddau a ganlyn–
(a) cymryd neu oruchwylio cymryd samplau rheoli swyddogol;
(b) archwilio samplau rheoli swyddogol;
(c) prosesu cais am gymeradwyo labordy o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;
(ch) prosesu dogfennau cofrestru blynyddol mewn perthynas â labordy a gymeradwywyd o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;
(d) archwilio labordy at ddiben rheoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd;
(dd) gweinyddu prawf rheoli ansawdd o dan reoliad 21 o Reoliadau 2006 neu Erthygl 12 o'r Rheoliad Ewropeaidd.
(2) Mae ffioedd yn daladwy i Weinidogion Cymru gan–
(a) y person sydd â gofal daliad pan fo samplau rheoli swyddogol yn cael eu cymryd mewn perthynas â'r gweithgareddau ym mharagraff (1)(a) a (b); a
(b) gweithredydd y labordy mewn perthynas â'r gweithgareddau ym mharagraff (1)(c) i (dd).
(3) Rhaid talu unrhyw ffi sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn i Weinidogion Cymru o fewn 14 diwrnod ar ôl cael cais gan Weinidogion Cymru.
4. Dirymir Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2007(8).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
16 Hydref 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu i Weinidogion Cymru godi ffioedd am weithgareddau sy'n ofynnol o dan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006, Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 a Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006. Rhestrir y gweithgareddau yn rheoliad 3(1). Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2496 (Cy.215)).
Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Rheoliadau hyn wedi ei lunio a'i atodi i'r Memorandwm Esboniadol. Gellir cael copïau ohono oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1973 p.51. Back [1]
2006 p.32. Back [2]
1972 p. 68. Back [3]
OJ Rhif L325, 12.12.2003, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1273/2007 ar 23 Hydref 2007. Back [4]
O.S. 2006/1293 (Cy. 127). Back [5]
OJ Rhif L 170, 1.7.2005, t.12. Back [6]
OJ Rhif L 211, 1.8.2006, t.4. Back [7]
O.S. 2007/2496 (Cy.215). Back [8]