Gwnaed
6 Hydref 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Hydref 2008
Yn dod i rym
30 Hydref 2008
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Hydref 2008 ond mae'r diwygiadau a nodir yn Rheoliad 2 yn cael effaith o 1 Ebrill 2005 ymlaen.
2. Diwygir Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005 fel a ganlyn–
(a) yn lle Rheoliad 8 rhodder –
"8.–(1) Where–
(a) British Telecommunications plc occupies, or if it is unoccupied, owns any hereditament which comprises posts, wires, fibres, cables, ducts, telephone kiosks, towers, masts, switching equipment, or other equipment, or easements or wayleaves, being property used for the monitoring, processing or transmission of communications or other signals for the provision of electronic communications services;
(b) any person occupies, or if it is unoccupied, owns any hereditament which is an unbundled local loop,
and which would, apart from these Regulations, be more than one hereditament, those hereditaments are to be treated as one hereditament.
(2) Where a company which is a designated person by virtue of being listed in Part 2 of the Schedule occupies, or if it is unoccupied, owns any hereditament which comprises posts, wires, fibres, cables, ducts, telephone kiosks, towers, masts, switching equipment, or other equipment, or easements or wayleaves, being property used for the monitoring, processing or transmission of communications or other signals for the provision of electronic communications services, and which would, apart from these Regulations, be more than one hereditament, those hereditaments are to be treated as one hereditament.
(3) The hereditament described in paragraph (1) is to be treated as occupied by British Telecommunications plc.
(4) The hereditament described in paragraph (2) is to be treated as occupied by the relevant designated person.
(5) In paragraph (1) "unbundled local loop" means–
(a) cables, fibres, wires and conductors (or any part of them) used or intended to be used for carrying communications or other signals between the network terminating equipment on the premises of end-users and premises (or any part of them) used for the processing of the communications or other signals, and land occupied therewith; and
(b) poles, posts, towers, masts, mast radiators, pipes, ducts, conduits and any associated supports and foundations (or any part of them) used or intended to be used in connection with any of the items listed in sub-paragraph (a), and any land occupied therewith,
which British Telecommunications plc lets or licenses to any person.".
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
6 Hydref 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005 ("Rheoliadau 2005").
O dan adrannau 53, 64(3) a 65(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ("y Ddeddf"), mae Rheoliadau 2005 yn rhagnodi pa hereditamentau sydd i'w rhestru ar y rhestri ardrethu annomestig canolog ar gyfer Cymru ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005 ac yn dynodi pa bersonau yr ystyrir eu bod yn meddiannu'r hereditamentau hynny, ne os nad ydynt wedi eu meddiannu, y personau sydd â pherchnogaeth o'r hereditamentau at ddibenion ardrethu.
Mae rheoliad 8 o Reoliadau 2005 yn ymwneud â hereditamentau cyfathrebu ac yn darparu bod hereditamentau'r person perthnasol a ddynodir o dan reoliad 4 i'w trin fel hereditament sengl.
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu bod British Telecommunications plc ("BT") i'w drin fel pe bai'n meddiannu hereditament sengl sy'n cynnwys yr eiddo y mae'n ei feddiannu neu'n berchen arno, megis cabanau teleffon a mastiau, a'r holl ddolennau lleol a ddadfwndelwyd. Mae dolen leol a ddadfwndelwyd yn bodoli pan fo'r cysylltiad gwifren gopr rhwng y gyfnewidfa teleffon leol a mangre'r cwsmer wedi ei ddatgysylltu o rwydwaith BT a'i gysylltu â rhwydwaith darparwr gwasanaeth amgen.
Mae adran 53(4) o'r Ddeddf yn darparu, pan fo rheoliadau yn diwygio'r rhestr o bersonau dynodedig mewn perthynas â disgrifiad o hereditament, y caiff y diwygiadau hynny gael effaith o ddyddiad cynharach na'r dyddiad y gwnaed y rheoliadau. Yn unol â'r pwer hwnnw, mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud BT yn atebol am ddolennau lleol a ddadfwndelwyd o 1 Ebrill 2005 ymlaen.
Paratowyd asesiad effaith rheoliadol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono yn http:www.assemblywales.org/bus-home/buslegislation/bus-legislation-sub.
1988 p.41. Back [1]
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno. Back [2]