Gwnaed
3 Hydref 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Hydref 2008
Yn dod i rym
28 Hydref 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 102, adran 108(2) ac adran 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), ac wedi gwneud y cyfryw drefniadau y maent yn eu hystyried yn briodol ar gyfer ymgynghori yn unol ag adran 117 o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) (Diwygio) 2008 a daw i rym ar 28 Hydref 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn erthygl 3(1) o destun Cymraeg Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2008(3) yn lle "Y darpariaethau" rhodder "Mae'r darpariaethau".
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
3 Hydref 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2008 ("Gorchymyn 2008") yn pennu'r dyddiadau pan fydd y cyfnod sylfaen yn cael ei raddol gyflwyno. Mae Gorchymyn 2008 hefyd yn pennu cyfnod y cyfnod sylfaen ac mae'n rhoi effaith gyfreithiol i'r meysydd dysgu, sy'n gosod y canlyniadau dymunol a'r rhaglenni dysgu. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2008 er mwyn cywiro gwall yn y testun Cymraeg.