Gwnaed
1 Hydref 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
6 Hydref 2008
Yn dod i rym
29 Hydref 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e),17(1), (26)(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2).
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
1. O ran y Rheoliadau hyn–
(a) eu henw yw Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2008; a
(b) deuant i rym ar 29 Hydref 2008.
2.–(1) Diwygir Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007(4) yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Yn lle darpariaethau rheoliad 3 (gwaharddiad ar farchnata fformiwla fabanod neu fformiwla ddilynol oni fo amodau penodol wedi'u bodloni) rhodder y darpariaethau canlynol–
"(1) Ni chaiff neb farchnata fformiwla sy'n torri rheoliad 5, 6, 8, 10, 11, 12, 14(1), (2) neu (3), 15, 17, 19 neu 20(1) neu nad yw'n cydymffurfio â hwy.
(2) Ni chaiff neb farchnata fformiwla ddilynol sy'n torri rheoliad 5, 7, 9, 10, 11, 12, 14(1), (2) neu (3), 16, 18, 19 neu 20(2) neu nad yw'n cydymffurfio â hwy.".
(3) Yn lle paragraffau (1) a (2) o reoliad 20 (cyflwyno (fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol)) rhodder y paragraffau canlynol–
"(1) Rhaid i gyflwyniad fformiwla fabanod gydymffurfio â darpariaethau rheoliadau 17(1)(d), (2), (3) a (4) ac 19.
(2) Rhaid i gyflwyniad fformiwla ddilynol gydymffurfio â darpariaethau rheoliadau 18(2) ac 19.".
(4) Yn lle is-baragraff (a) o baragraff (1) o reoliad 26 (allforio fformiwla fabanod i drydydd gwledydd) rhodder yr is-baragraff canlynol–
"(a) rheoliad 5, 6, 8, 10, 11, 12, 14(1), (2) neu (3), 17, 19 neu 20(1);".
(5) Yn lle paragraff (a) o reoliad 27 (allforio fformiwla ddilynol i drydydd gwledydd) rhodder y paragraff canlynol–
"(a) rheoliad 5, 7, 9, 10, 11, 12, 14(1), (2) neu (3), 18, 19 neu 20(2);".
(6) Yn lle paragraff (3) o reoliad 31 (dirymu a threfniadau trosiannol) rhodder y paragraff canlynol–
"(3) Mewn perthynas ag unrhyw dorri rheol neu fethiant i gydymffurfio cyn 1 Ionawr 2010, nid yw unrhyw berson yn cyflawni tramgwydd o dan reoliad 28(1) sy'n cynnwys torri rheol neu fethiant i gydymffurfio ag–
(a) rheoliad 3(1),–
(i) os mai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd yw marchnata fformiwla fabanod sy'n torri neu'n methu cydymffurfio â rheoliad 5, 6, 8, 10, 11, 12 neu 14 (1), (2) neu (3), a
(ii) nad yw'r weithred honno yn ffurfio tramgwydd o dan reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 sy'n cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â Rheoliad 2(a)(i) neu (ii) o'r Rheoliadau hynny;
(b) rheoliad 3(1),–
(i) os mai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd yw marchnata fformiwla fabanod sy'n torri neu'n methu cydymffurfio â rheoliad 17 neu 19, a
(ii) na fyddai'r weithred honno, petai wedi digwydd ar 10 Ionawr 2008 wedi ffurfio tramgwydd o dan Reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 fel y safent y pryd hynny a'i fod yn cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 2(a)(iii) o'r Rheoliadau hynny;
(c) rheoliad 3(1),–
(i) os mai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd yw marchnata fformiwla fabanod sy'n torri neu'n methu cydymffurfio â rheoliad 20(1) i'r graddau y mae rheoliad 20(1) yn gymwys o ran siâp, ymddangosiad a phecynnu'r fformiwla fabanod honno, a
(ii) na fyddai'r weithred honno, petai wedi digwydd ar 10 Ionawr 2008 wedi ffurfio tramgwydd o dan Reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 fel y safent y pryd hynny a'i fod yn cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 2(a)(iv) o'r Rheoliadau hynny i'r graddau yr oedd rheoliad 2(a)(iv) yn gymwys o ran siâp, ymddangosiad a phecynnu'r cynnyrch o dan sylw;
(ch) rheoliad 3(2),–
(i) os mai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd yw marchnata fformiwla ddilynol sy'n torri neu'n methu cydymffurfio â rheoliad 5, 7, 9, 10, 11, 12 neu 14 (1), (2) neu (3), a
(ii) nad yw'r weithred honno yn ffurfio tramgwydd o dan reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 sy'n cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 3(a) neu (b) o'r Rheoliadau hynny;
(d) rheoliad 3(2),–
(i) os mai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd yw marchnata fformiwla ddilynol sy'n torri neu'n methu a chydymffurfio â rheoliad 18 neu 19, a
(ii) na fyddai'r weithred honno petai wedi digwydd ar 10 Ionawr 2008 wedi ffurfio tramgwydd o dan Reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 fel y safent y pryd hynny a'i fod yn cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 3(c) o'r Rheoliadau hynny;
(dd) rheoliad 3(2),–
(i) os mai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd yw marchnata fformiwla ddilynol sy'n torri neu'n methu a chydymffurfio â rheoliad 20(2) i'r graddau y mae rheoliad 20(2) yn gymwys o ran siâp, ymddangosiad a phecynnu'r fformiwla ddilynol honno, a
(ii) na fyddai'r weithred honno, petai wedi digwydd ar 10 Ionawr 2008 wedi ffurfio tramgwydd o dan Reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 fel y safent y pryd hynny a'i fod yn cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 3(d) o'r Rheoliadau hynny i'r graddau yr oedd rheoliad 3(d) yn gymwys i siâp, ymddangosiad a phecynnu'r cynnyrch o dan sylw; neu
(e) rheoliad 4, na fyddai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd yn ffurfio tramgwydd o dan reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 sy'n cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 2(b)(i) neu (ii) o'r Rheoliadau hynny;
(f) rheoliad 4, na fyddai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd, petai wedi digwydd ar 10 Ionawr 2008 wedi ffurfio tramgwydd o dan Reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 fel y safent y pryd hynny a'i fod yn cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 2(b)(iii) o'r Rheoliadau hynny; neu
(ff) rheoliad 4, na fyddai'r weithred a fyddai fel arall yn dramgwydd, petai wedi digwydd ar 10 Ionawr 2008 wedi ffurfio tramgwydd o dan Reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 fel y safent y pryd hynny a'i fod yn cynnwys torri neu fethu â chydymffurfio â rheoliad 2(b)(iv) o'r Rheoliadau hynny i'r graddau yr oedd rheoliad 2(b)(iv) yn gymwys i siâp, ymddangosiad a phecynnu'r cynnyrch o dan sylw.".
3.–(1) Diwygir Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000(5) yn unol â pharagraff (2).
(2) Ar ôl rheoliad 7 (cymhwyso) mewnosoder y rheoliad canlynol–
8. O ran unrhyw dorri rheol cyn 1 Ionawr 2010, ni fydd unrhyw berson yn cyflawni tramgwydd o dan reoliad 5(a) sy'n torri rheoliad 3(1)(a) os yw'r weithred a fyddai fel arall yn ffurfio tramgwydd yn cynnwys gwerthu bwyd meddygol y mae ei gyfansoddiad yn methu â chydymffurfio ag Erthygl 3 o'r Gyfarwyddeb fel y'i darllenir gyda'r rhes o ran manganîs a osodir yn ail ran Tabl 1 (mwynau) yn yr Atodiad i'r Gyfarwyddeb fel yr oedd yn sefyll cyn iddi cael ei diwygio gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC ar fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol ac yn diwygio Cyfarwyddeb 1999/21.EC.".
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
1 Hydref 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn gwneud y darpariaethau deddfwriaethol a ddisgrifir ym mharagraff 2 yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol i roi ei effaith i'r dyfarniad yn yr Uchel Lys yn yr achos sy'n dwyn yr enw R v. the Secretary of State for Health and the Welsh Ministers on the application of the Infant and Dietetics Food Association Limited (achos Rhif CO/230/2008). Traddodwyd y dyfarniad ar 29 Chwefror 2008. Yn sgil y dyfarniad hwnnw, gwnaeth yr Uchel Lys ddatganiad nad oedd Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3573 (Cy.316) yn cydymffurfio â Chyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC ar fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol ac yn diwygio Cyfarwyddeb 1999/21/EC (OJ Rhif . L401, 30.12.2006, t.1) i'r graddau eu bod yn gwahardd masnach o 11 Ionawr 2008 (yn hytrach nag o 31 Rhagfyr 2009) mewn fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sydd â'u labelu yn bodloni gofynion Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol 1995 (O.S. 1995/77) ond nad ydynt yn bodloni gofynion Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 er mwyn–
(a) Diwygio'r rhestr o reoliadau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy os yw person am farchnata fformiwla fabanod neu fformiwla ddilynol (rheoliad 2(2));
(b) darparu bod rhaid i gyflwyniad fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol gydymffurfio â darpariaethau rheoliadau penodedig (rheoliad 2(3));
(c) Diwygio'r rhestr o reoliadau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy os yw person am allforio fformiwla fabanod i drydydd gwledydd (rheoliad 2(4));
(ch) diwygio'r rhestr o reoliadau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy os yw person am allforio fformiwla ddilynol i drydydd gwledydd (rheoliad 2(5)); a
(d) creu trefniadau trosiannol sy'n gymwys i orfodi–
(i) y gofynion labelu ar gyfer fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol, a
(ii) y gofynion sy'n gymwys o ran siâp, ymddangosiad a phecynnu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol (rheoliad 2(6)).
3. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu trefniadau trosiannol o ran Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1866 (Cy.125)).
4. Ni chafodd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ei baratoi ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector breifat na'r sector wirfoddol.
1990 p.16; amnewidwyd adran1(1) a (2) (y diffiniad o "bwyd") gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p. 28), "Deddf 1999". Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990. Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y Swyddogaethau hyn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]
OJ Rhif . L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 202/2008 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch nifer ac enwau Panelau Gwyddonol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L60, 5.3.2008, t.17). Back [3]
O.S. 2007/3573 (Cy.316). Back [4]
O.S. 2000/1866 (Cy.125), a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/3573 (Cy.316); y mae offerynnau diwygio eraill i'w cael, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol. Back [5]