Gwnaed
23 Gorffennaf 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Gorffennaf 2008
Yn dod i rym
1 Ionawr 2009
Mae Gweinidogion Cymru ar ôl ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 12(2), 14(1)(d), 15(3), 16(1), 16(3), 22(1), 22(2)(a), (c) a (d), 25(1), 42(1) a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2).
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Yn y Rheoliadau hyn –
ystyr "claf" ("patient") yw person y darperir gwasanaethau deintyddol iddo;
ystyr "cofrestr deintyddion" ("dentists register") yw'r gofrestr y cyfeirir ati yn adran 14(1) o'r Ddeddf Deintyddion 1984;
ystyr "deintydd" ("dentist") yw person a gofrestrwyd o dan Ddeddf Deintyddion 1984;
ystyr "deintyddiaeth breifat" ("private dentistry") yw gwasanaethau deintyddol a ddarperir heb fod at ddibenion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol;
ystyr "diwrnod gwaith" ("working day") yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gŵyl San Steffan, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(3).
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr "gwasanaethau deintyddol" ("dental services") yw unrhyw drinaeth ddeintyddol a ddarperir gan ddeintydd;
ystyr "gwasanaethau deintyddol preifat" ("private dental services") yw gwasanaethau deintyddol na ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(4);
ystyr "person cofrestredig" ("registered person") yw person a gofrestrwyd yn ddarparydd gwasanaethau deintyddol;
ystyr "rhestr o ymarferwyr AEE sy'n ymweld" ("list of visiting EEA practitioners") yw'r rhestr a lunnir gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol o ymarferwyr AEE sy'n ymweld ac sy'n gweithio ar sail dros dro ac ar sail achlysurol;
ystyr "rhestr perfformwyr deintyddol" ("dental performers list") yw'r rhestr a luniwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol ac a gyhoeddwyd yn unol â rheoliad 3(1)(b) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Perfformwyr) (Cymru) 2004(5) neu reoliad 3(1)(b) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Perfformwyr) 2004(6) fel y bo'n briodol;
ystyr "rhif cofrestriad proffesiynol" ("professional registration number") yw'r rhif gyferbyn ag enw'r person yn y gofrestr deintyddion;
ystyr "swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru" ("appropriate office of the registration authority") o ran darparydd gwasanaethau deintyddol yw–
os cafodd swyddfa awdurdod cofrestru ei phennu o dan reoliad 20, y swyddfa honno; neu
mewn unrhyw achos arall, unrhyw un o swyddfeydd yr awdurdod cofrestru;
ystyr "yswiriant" ("insurance") yw–
contract yswiriant sy'n darparu gwarchodaeth dros rwymedigaethau y gellir eu creu wrth gyflawni gwaith deintydd neu waith technegwr deintyddol clinigol, neu
trefniant a wneir er mwyn indemnio person rhag rhwymedigaethau o'r fath;
rhaid dehongli "y weithdrefn gwynion" ("complaints procedure") yn unol â rheoliad 15.
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad–
(a) at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(b) mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad ar y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu yn yr Atodlen honno sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(c) mewn paragraff at lythyren neu is-baragraff â rhif yn gyfeiriad ar yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y rhif hwnnw neu'r llythyren honno.
(3) Yn Atodlen 1, mae cyfeiriad at Ran II o'r Ddeddf yn gyfeiriad at Ran II o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir gan reoliad 3 ac Atodlen 1.
3.–(1) Mae deintydd sy'n darparu unrhyw wasanaethau deintyddol heb fod yn unol â Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 drwy hyn yn rhagnodedig at ddibenion adran 42(1) o'r Ddeddf.
(2) Mae Rhan II o'r Ddeddf yn gymwys i bersonau a ragnodir ym mharagraff (1) yn unol ag Atodlen 1 ac yn unol â'r addasiad a bennir yn rheoliad 4.
4. Bydd adran 28(1) yn effeithiol fel petai'n darllen:
"A certificate of registration issued under this Part in respect of a person who provides private dental services must be kept affixed in a conspicuous place where such services are provided."
5.–(1) Rhaid i gais am gofrestru–
(a) bod yn ysgrifenedig ar ffurf a gymeradwyir gan yr awdurdod cofrestru;
(b) cael ei anfon neu ei draddodi i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru;
(c) cael ffotograff diweddar o'r ceisydd gyda'r cais, a rhaid i'r ffotograff ddangos tebygrwydd gwirioneddol ohono;
(ch) rhoi'r wybodaeth neu roi gyda'r cais yr wybodaeth y mae'n ofynnol i'r ceisydd ei darparu yn unol â pharagraff (2), (3) neu (4); a
(d) anfon ffi o £50 gyda'r cais ynglŷn â phob ceisydd.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4) rhaid i berson sy'n ceisio cael ei gofrestru fel person sy'n darparu gwasanaethau deintyddol yn breifat roi i'r awdurdod cofrestru'r wybodaeth lawn a restrir yn is-baragraffau (a) i (ng) ac (i) –
(a) enw llawn y ceisydd, ei ddyddiad geni, cyfeiriad a rhif ffôn a chyfeiriad (a all fod yn gyfeiriad cartref) lle y gall cleifion ddod i gysylltiad â'r deintydd;
(b) manylion cronolegol profiad proffesiynol y ceisydd, cyn graddio ac ar ôl graddio, i'r graddau y maent yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau deintyddol gan gynnwys cyfnodau o hunangyflogaeth, y dyddiadau pan oedd yn dal pob swydd, y rheswm dros adael pob swydd ac esboniad am unrhyw fwlch rhwng swyddi;
(c) enw a chyfeiriad dau ganolwr–
(i) nad ydynt yn berthnasau i'r ceisydd;
(ii) y mae'r ddau'n gallu darparu geirda o ran cymhwysedd y ceisydd i ddarparu gwasanaethau deintyddol; a
(iii) y mae'r ddau'n gallu darparu geirda sy'n ymwneud â chyfnod diweddar o gyflogaeth neu swydd am o leiaf 3 mis;
ond o ran pob canolwr pan fo'r awdurdod cofrestru wedi'i fodloni nad yw'n ymarferol i gael geirda gan berson sy'n bodloni'r gofyniad yn is-baragraff (iii), rhaid rhoi esboniad llawn ac enw a chyfeiriad canolwr arall nad yw'n bodloni'r gofynion hynny;
(ch) datganiad ei fod naill ai ar gofrestr y deintyddion neu ar restr yr ymarferwyr AEE sy'n ymweld;
(d) naill ai ei rif cofrestriad proffesiynol a dyddiad y cofrestriad cyntaf neu Dystysgrif Deintydd AEE sy'n ymweld;
(dd) tystysgrif yswiriant ar gyfer y ceisydd mewn perthynas ag unrhyw rwymedigaeth y mae'n bosibl i'r ceisydd fynd iddi mewn perthynas â darparu gwasanaethau deintyddol o ran marwolaeth, anaf, atebolrwydd i'r cyhoedd, difrod neu unrhyw golled arall;
(e) ei gymwysterau proffesiynol a lle y'u cafwyd, gyda thystiolaeth ynghylch ei gymwysterau a'i brofiad;
(f) tystysgrif geni'r ceisydd neu, os ganwyd y ceisydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ei basbort;
(ff) os nad yw'r ceisydd yn wladolyn gwladwriaeth yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, tystiolaeth o hyfedredd y ceisydd mewn Saesneg at lefel sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol;
(g) tystysgrif record droseddol fanwl –
(i) a ddyroddwyd o dan adran 115 o Ddeddf yr Heddlu 1997(7); a
(ii) y cydlofnodwyd y cais amdani gan yr awdurdod cofrestru;
(ng) datganiad gan y ceisydd ei fod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn ac y bydd yn parhau i gydymffurfio â hwy o ran darparu gwasanaethau deintyddol;
(h) datganiad gan y ceisydd ei fod yn gyfredol ar restr perfformwyr deintyddol ac enw a chyfeiriad y Bwrdd Iechyd Lleol neu'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol a gyhoeddodd y rhestr honno;
(i) manylion unrhyw amod a osodwyd ar ei gofrestriad proffesiynol neu wrth ei gynnwys ar restr perfformwyr deintyddol.
(3) Rhaid i berson sy'n ceisio cael ei gofrestru'n berson sy'n darparu gwasanaethau deintyddol yn breifat ac sydd yn gyfredol ar restr perfformwyr deintyddol GIG ddarparu i'r awdurdod cofrestru'r wybodaeth lawn a restrir ym mharagraffau (a), (ng), (h) ac (i).
(4) Rhaid i berson syn dod o fewn paragraff (3) ond na chafwyd tystysgrif record droseddol fanwl arno o ran ei gynnwys ar y rhestr perfformwyr deintyddol honno hefyd roi'r wybodaeth a restrir yn (g).
6. Os yw'r awdurdod cofrestru yn gofyn i'r ceisydd am fanylion unrhyw gollfarnau troseddol sydd wedi'u disbyddu o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974(8) ac yn ei hysbysu pan ofynnir y cwestiwn ei bod yn ofynnol yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(9) bod collfarnau sydd wedi'u disbyddu i'w datgelu, rhaid i'r ceisydd roi manylion ysgrifenedig i'r awdurdod cofrestru o unrhyw gollfarnau sydd wedi'u disbyddu sydd ganddo.
7. Rhaid i'r ceisydd roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod cofrestru o unrhyw newid i enw neu gyfeiriad y ceisydd sy'n digwydd ar ôl gwneud y cais cofrestru a chyn iddo gael ei benderfynu.
8. Rhaid i dystysgrif gofrestru gynnwys y manylion canlynol–
(a) enw, cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru;
(b) enw'r person a gofrestrwyd i ddarparu gwasanaethau deintyddol a'r cyfeiriad lle y gall cleifion gysylltu ag ef;
(c) os yw'r cofrestriad yn ddarostyngedig i unrhyw amod, manylion yr amod hwnnw;
(ch) y dyddiad cofrestru;
(d) ac eithrio pan fo'r person cofrestredig ar restr ymarferwyr AEE sy'n ymweld, rhif cofrestriad proffesiynol y person cofrestredig;
(dd) unrhyw rif a ddyrennir i'r cofrestriad gan yr awdurdod cofrestru.
9. Os diddymir cofrestriad person i ddarparu gwasanaethau deintyddol, rhaid i'r person hwnnw, heb fod yn hwyrach na'r diwrnod pan fydd y penderfyniad neu'r gorchymyn sy'n diddymu'r cofrestriad yn cymryd effaith, ddychwelyd y dystysgrif gofrestru i'r awdurdod cofrestru–
(a) drwy ei thraddodi i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru; neu
(b) drwy ei hanfon i'r gyfryw swyddfa drwy'r post cofrestredig neu ddosbarthiad cofnodedig.
10.–(1) Yn y rheoliad hwn –
ystyr "cais" yw cais a wneir gan y person cofrestredig o dan adran 15(1)(a) o'r Ddeddf i amrywio neu dynnu amod o ran y cofrestriad hwnnw;
ystyr "dyddiad effeithiol arfaethedig" yw'r dyddiad y mae'r person cofrestredig yn gofyn amdano fel y dyddiad pan fydd yr amrywiad neu dynnu'r amod y gwneir y cais amdano i gymryd effaith.
(2) Rhaid i gais –
(a) cael ei wneud yn ysgrifenedig;
(b) cael ei anfon neu ei draddodi i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru dim llai na chwe wythnos cyn y dyddiad effeithiol arfaethedig neu gyfnod llai cyn y dyddiad hwnnw y gellir cytuno arno gyda'r awdurdod cofrestru;
(c) pennu natur y cais a rhesymau'r ceisydd dros ei wneud;
(ch) pennu'r dyddiad effeithiol;
(d) anfon ffi o £50 gyda'r cais.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig roi i'r awdurdod cofrestru unrhyw wybodaeth arall neu ddogfennau eraill y gall yn rhesymol ofyn amdanynt ynglyn â'r cais.
11. Pennir y rhesymau canlynol at ddibenion adran 14(1)(d) o'r Ddeddf fel y rhesymau y caiff yr awdurdod cofrestru ddiddymu cofrestriad person i ddarparu gwasanaethau deintyddol –
(a) mae'r person mewn perthynas ag unrhyw gais ganddo–
(i) i gofrestru; neu
(ii) i amrywio neu dynnu amod ynghylch ei gofrestriad,
wedi gwneud datganiad sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn mater perthnasol neu wedi rhoi gwybodaeth anwir;
(b) nid yw'r ffi flynyddol ynglŷn â'r cofrestriad wedi cael ei thalu erbyn y dyddiad priodol.
12.–(1) Yn y rheoliad hwn –
ystyr "cais i ddiddymu" yw cais gan y person cofrestredig o dan adran 15(1)(b) o'r Ddeddf i ddiddymu ei gofrestriad;
ystyr "dyddiad effeithiol arfaethedig" yw'r dyddiad y mae'r person cofrestredig yn gofyn amdano fel y dyddiad pan fydd y diddymiad y gwneir y cais amdano i gael effaith.
(2) Rhaid i gais am ddiddymu –
(a) cael ei wneud yn ysgrifenedig;
(b) cael ei anfon neu ei draddodi i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru dim llai na 3 mis cyn y dyddiad effeithiol arfaethedig neu gyfnod llai cyn y dyddiad hwnnw y gellir cytuno arno gyda'r awdurdod cofrestru;
(c) pennu'r dyddiad effeithiol arfaethedig.
13.–(1) Ni chaiff person ddarparu gwasanaethau deintyddol oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i ddarparu gwasanaethau deintyddol onid yw'r person yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a osodir ym mharagraff (3).
(3) Dyma'r gofynion –
(a) bod yr unigolyn yn addas o ran gonestrwydd a chymeriad da i ddarparu gwasanaethau deintyddol;
(b) bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ddarparu gwasanaethau deintyddol; ac
(c) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, ar gael o ran yr unigolyn ynglŷn â'r materion a bennir yn Atodlen 2.
(4) Caiff yr awdurdod cofrestru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i'r person cofrestredig wneud cais am dystysgrif record droseddol fanwl o dan adran 115 o Ddeddf yr Heddlu 1997, a rhaid i'r awdurdod cofrestru gydlofnodi'r cyfryw gais.
14.–(1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod gwasanaethau deintyddol a ddarperir i bob claf –
(a) yn diwallu anghenion unigol y claf;
(b) yn adlewyrchu tystiolaeth ymchwil a gyhoeddwyd a chanllawiau a ddyroddwyd gan gyrff proffesiynol ac arbenigol priodol;
(c) yn cael eu darparu (pan fo angen) drwy gyfrwng cyfarpar priodol;
(ch) yn cael eu darparu mewn amgylchedd sy'n hybu lles y claf ac a luniwyd i ddarparu triniaeth yn effeithiol ac yn ddiogel.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod arferion gwaith yn cymryd i ystyriaeth sicrwydd ansawdd, gwella ansawdd a diogelwch y claf.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob cyfarpar a ddefnyddir wrth ddarparu gwasanaethau deintyddol–
(a) yn addas at y dibenion y caiff ei ddefnyddio; a
(b) yn cael ei gynnal a'i gadw mewn cyflwr da sy'n gweithio.
(4) Os defnyddir dyfeisiau amldro wrth ddarparu gwasanaethau deintyddol rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod gweithdrefnau priodol yn cael eu rhoi ar waith o ran glanhau, diheintio, arolygu, pecynnu, sterileiddio, cludo a storio dyfeisiau o'r fath.
(5) Rhaid i'r gweithdrefnau a weithredir yn unol â pharagraff (4) fod yn y fath fodd sy'n sicrhau bod dyfeisiau amldro yn cael eu trafod yn ddiogel ac yn cael eu diheintio'n effeithiol cyn eu hailddefnyddio.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i leiafu'r risg o haint a lledu haint.
15.–(1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig ("y weithdrefn gwynion") er mwyn ystyried cwynion a wneir i'r person cofrestredig gan glaf neu berson sy'n gweithredu ar ran y claf ("yr achwynydd").
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cleifion a chynrychiolwyr cleifion yn ymwybodol o fodolaeth y weithdrefn gwynion ac y darperir copi iddynt pan ofynnir amdano neu, os na ddarparwyd copi eisoes, pan ddaw cwyn i law.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw staff a gyflogir gan y person cofrestredig mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau deintyddol yn cael eu hysbysu o'r weithdrefn gwynion, yn cael copi ohoni ac yn cael eu hyfforddi'n briodol ar ei gweithrediad.
(4) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys–
(a) enw, cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru; a
(b) y weithdrefn, os oes un, y mae'r person cofrestredig wedi'i hysbysu ohoni gan yr awdurdod cofrestru ar gyfer gwneud cwynion i'r awdurdod hwnnw.
16.–(1) Wrth weithredu'r weithdrefn gwynion rhaid i'r person cofrestredig gymryd i ystyriaeth ddymuniadau a theimladau'r claf hyd y gellir eu casglu a pharchu preifatrwydd y claf.
(2) Pan fo cwyn yn cael ei gwneud, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r achwynydd o'i hawl i gwyno ar unrhyw bryd i'r awdurdod cofrestru.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gydnabod iddo dderbyn y gŵyn o fewn 3 diwrnod ar ôl iddi ddod i law.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod ymateb ysgrifenedig yn cael ei anfon at yr achwynydd dim hwyrach na 10 diwrnod gwaith ar ôl i'r gŵyn ddod i law.
(5) Ceir estyn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (4) i ddyddiad penodedig pan fydd yr achwynydd yn gofyn am hynny neu gyda chytundeb yr achwynydd.
(6) Os caiff y cyfnod ei estyn o dan baragraff (5) heb fod ar gais yr achwynydd rhaid i'r person cofrestredig adolygu hynt ystyried y gwyn mewn ysbeidiau heb fod yn hwy na 10 diwrnod ar wahân ar ôl y cytundeb hwnnw a hysbysu'r achwynydd o'r hynt honno yn ysgrifenedig.
(7) Rhaid i'r ymateb –
(a) crynhoi natur a sylwedd y gŵyn;
(b) disgrifio'r camau a gymerwyd i ystyried y gŵyn a chrynhoi'r casgliadau a wnaed;
(c) esbonio pa gamau, os oes rhai, a gymerir yng ngoleuni'r gŵ yn.
(8) Os gofynnir am hynny gan yr awdurdod cofrestru, rhaid i'r person cofrestredig roi i'r awdurdod cofrestru gopi o'r ymateb a anfonwyd at yr achwynydd.
17. Rhaid i'r person cofrestredig dalu ffi flynyddol o £50, ac mae'r ffi gyntaf honno'n daladwy ar ben-blwydd y dyddiad cofrestru.
18. Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru cyn gynted ag y bo'n ymarferol i wneud hynny os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol yn digwydd neu os bwriedir iddynt ddigwydd–
(a) bod y person cofrestredig yn peidio â darparu gwasanaethau deintyddol;
(b) bod y person cofrestredig yn newid ei enw;
(c) bod y person cofrestredig yn newid ei gyfeiriad cartref neu'r cyfeiriad y mae cleifion yn gallu cysylltu ag ef;
(ch) bod y person cofrestredig yn peidio â bod ar restr perfformwyr deintyddol;
(d) bod y person cofrestredig yn peidio â bod ar y gofrestr deintyddion;
(dd) bod y person cofrestredig yn cael ei gollfarnu o unrhyw dramgwydd, neu'n cael rhybuddiad ohono, heblaw tramgwydd traffig ffyrdd na ellir ei gosbi drwy garcharu.
19. Mae methiant i gydymffurfio ag unrhyw un o'r darpariaethau yn rheoliadau 9 ac 14 i 16 yn dramgwydd.
20. Caiff yr awdurdod cofrestru bennu swyddfa a reolir ganddo yn swyddfa briodol mewn perthynas â phersonau sy'n darparu gwasanaethau deintyddol.
21.–(1) Diwygir Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(10) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 1 yn ar y diwedd ychwaneger–
"(3) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i bersonau sy'n darparu gwasanaethau deintyddol."
(3) Yn rheoliad 2(1), yn y man priodol, mewnosoder–
"mae i "gwasanaethau deintyddol" ("dental services") yr un ystyr ag sydd yn Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008;".
22.–(1) Diwygir Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Dileu Ffioedd) (Cymru) 2006(11) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 1(2), yn y man priodol, mewnosoder–
"mae i "gwasanaethau deintyddol" ("dental services") yr un ystyr ag sydd yn Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008;"
(3) Ar ddiwedd rheoliad 1 ychwaneger –
"(4) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i bersonau sy'n darparu gwasanaethau deintyddol."
23.–(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bersonau y mae'n ofynnol iddynt yn rhinwedd darpariaethau'r Ddeddf a'r Rheoliadau hyn gael eu cofrestru o dan y Ddeddf ond nad oedd yn ofynnol iddynt gael eu cofrestru felly yn union cyn 1 Ionawr 2009.
(2) Er gwaethaf unrhyw un o'r darpariaethau hynny, caiff person a oedd yn union cyn 1 Ionawr 2009 yn darparu gwasanaethau deintyddol barhau i wneud hynny heb gael ei gofrestru o dan y Ddeddf–
(a) yn ystod cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y dyddiad hwnnw; a
(b) os gwneir cais am gael cofrestru o fewn y cyfnod hwnnw, hyd nes y gwaredir y cais hwnnw yn derfynol neu'i dynnu yn ôl.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr "gwaredu yn derfynol" yw'r dyddiad 28 o ddiwrnodau ar ôl caniatáu neu wrthod cofrestriad ac, os apelir, y dyddiad pan benderfynir ar yr apêl yn derfynol neu pan roddir y gorau i'r apêl.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
23 Gorffennaf 2008
Rheoliad 3
At ddibenion yr Atodlen hon rhaid deall cyfeiriadau yn Rhan II o'r Ddeddf –
(a) at sefydliad neu asiantaeth fel cyfeiriadau at berson sy'n darparu gwasanaethau deintyddol preifat;
(b) at gyfleusterau neu wasanaethau a ddarperir mewn sefydliad fel cyfeiriadau at gyfleusterau neu wasanaethau a ddarperir gan berson sy'n darparu gwasanaethau deintyddol;
(c) at fangre a ddefnyddir yn sefydliad neu at ddibenion asiantaeth fel cyfeiriadau at fangre a ddefnyddir at ddibenion darparu gwasanaethau deintyddol.
(ch) at gynnal neu reoli sefydliad neu asiantaeth fel cyfeiriadau at ddarparu gwasanaethau deintyddol preifat.
Rheoliad 13
1. Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.
2. Tystysgrif record droseddol fanwl y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers pan ddyroddwyd hi ddiwethaf.
3. Datganiad gan y person cofrestredig ei fod wedi cael ei gynnwys ar y gofrestr deintyddion.
4. Rhif cofrestriad proffesiynol y person cofrestredig neu Dystysgrif Deintydd AEE sy'n ymweld.
5. Tystysgrif yswiriant ar gyfer y person cofrestredig mewn perthynas ag unrhyw rwymedigaeth y mae'n bosibl i'r person fynd iddi mewn perthynas â darparu gwasanaethau deintyddol o ran marwolaeth, anaf, atebolrwydd i'r cyhoedd, difrod neu unrhyw golled arall.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf"). Maent yn addasu'r Ddeddf er mwyn cymhwyso Rhan II o'r Ddeddf i ddeintyddion sy'n darparu gwasanaethau deintyddol heb iddynt fod yn unol â Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ("deintyddiaeth breifat"). Maent yn gwneud darpariaeth o ran y personau a'r gwasanaethau hynny.
Mae Rhan I o'r Ddeddf a Rhan II fel y'u cymhwysir gan y Rheoliadau hyn yn darparu bod Gweinidogion Cymru, o ran Cymru, yn cofrestru personau sy'n darparu deintyddiaeth breifat. Mae Rhan II yn darparu bod person sy'n darparu deintyddiaeth breifat heb iddo gofrestru i wneud hynny, yn cyflawni tramgwydd. Mae'r Ddeddf hefyd yn darparu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynglyn â'r cyfryw bersonau a gwasanaethau. O dan adran 13 o'r Ddeddf mae'n rhaid i Weinidogion Cymru gael eu bodloni bod cydymffurfiaeth â'r rheoliadau, ac y bydd cydymffurfiaeth â hwy yn parhau, cyn iddynt ganiatáu cais i gofrestru.
Mae rheoliadau 3 a 4 ac Atodlen 1 yn cymhwyso, gydag addasiad, Ran II o'r Ddeddf i bersonau sy'n darparu deintyddiaeth breifat.
Mae rheoliad 5 yn pennu'r ffurf ar gyfer gwneud cais i gofrestru a'r wybodaeth y mae'n rhaid ei rhoi gyda'r cais hwnnw. Gwahaniaethir rhwng y ceiswyr hynny sy'n bwriadu darparu gwasanaethau deintyddol preifat yn unig a'r rheini a fydd hefyd yn darparu gwasanaethau deintyddol at ddibenion y GIG. Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i ddatgelu collfarnau sydd wedi'u disbyddu os gofynnir amdanynt gan yr awdurdod cofrestru ac mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd hysbysu newidiadau penodol os ydynt yn digwydd rhwng gwneud y cais a'r cofrestru.
Mae rheoliad 8 yn pennu cynnwys y dystysgrif gofrestru. Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol dychwelyd y dystysgrif ar ôl iddi gael ei diddymu. Mae rheoliad 10 yn pennu'r weithdrefn ar gyfer gwneud cais am amrywio amod neu dynnu amod cofrestru.
Mae rheoliadau 11 a 12 yn gwneud darpariaeth ynghylch diddymu cofrestriad.
Mae rheoliad 13 ac Atodlen 2 yn nodi gofynion o ran ffitrwydd person cofrestredig.
Mae rheoliad 14 yn gwneud darpariaeth ynghylch ansawdd gwasanaethau deintyddol preifat. Mae rheoliadau 15 a 16 yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn gwyno a thrin cwynion.
Mae rheoliad 17 yn rhagnodi'r ffi flynyddol sy'n daladwy gan bersonau cofrestredig. Mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol bod digwyddiadau penodol yn cael eu hysbysu. Mae rheoliad 19 yn pennu bod methu â chydymffurfio â rheoliadau penodol yn dramgwydd. Mae rheoliad 20 yn darparu y caiff yr awdurdod cofrestru bennu swyddfa briodol at ddibenion y Rheoliadau hyn. Mae rheoliadau 21 a 22 yn gwneud diwygiadau canlyniadol ac mae rheoliad 23 yn gwneud darpariaethau trosiannol.
Gweler adran 22(9) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 am y gofyniad i ymgynghori. Back [1]
2000 p.14. Rhoddir y pwerau i'r "appropriate Minister". Ystyr "Appropriate Minister" yw'r Cynulliad o ran Cymru: gweler adran 121(1) o'r Ddeddf. Trosglwyddir y pwerau i Weinidogion Cymru gan Atodlen 11 paragraff 30 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Mae adran 42(1) o'r Ddeddf yn darparu y caiff rheoliadau gymhwyso darpariaethau Ran II o'r Ddeddf i bersonau a ragnodir gan y rheoliadau hynny. Yn rhinwedd rheoliad 3 (a wneir o dan adran 42(1) o'r Rheoliadau hyn, ac Atodlen 1 iddynt, gwneir y personau a ragnodir yn rheoliad 3(1) yn ddarostyngedig i'r darpariaethau perthnasol yn Rhan II o'r Ddeddf. Back [2]
1971 p.80. Back [3]
2006 p.42. Back [4]
O.S. 2004/1020 (Cy.117). Back [5]
O.S. 2004/585. Back [6]
1997 p.50. Back [7]
1974 p.53. Back [8]
O.S. 1975/1023. Back [9]
O.S. 2002/919 (Cy.107). Back [10]
O.S. 2006/878 (Cy.83). Back [11]