Gwnaed
16 Gorffennaf 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Mehefin 2008
Yn dod i rym
1 Awst 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 101(3)(a), 105(6), 108(3)(c), (7), (8), (9), (10) ac (11), a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2);
Yn unol ag adran 117 o Ddeddf Addysg 2002, i'r graddau y gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau yn adran 105(6) o'r Ddeddf honno, gwnaeth Gweinidogion Cymru y fath drefniadau ag a ystyrient yn briodol ar gyfer ymgynghori ynglŷn â'r cynigion;
Yn unol ag adran 210(3) o Ddeddf Addysg 2002 (fel y'i cymhwysir gan baragraff 34(2)o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(3)) cafodd drafft o'r Gorchymyn hwn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo gan benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru (Diwygiadau Amrywiol) 2008 a daw i rym ar 1 Awst 2008.
2.–(1) Yn Adran 101(1)(bb) o Ddeddf Addysg 2002(4) yn lle "during the fourth key stage" rhodder y geiriau "during the third and fourth key stages".
3. Diwygir Adran 105(3) o Ddeddf Addysg 2002 fel a ganlyn–
(a) ym mharagraff (a), cyn "technology" mewnosoder "design and";
(b) ar ôl paragraff (a) mewnosoder "(aa) information and communication technology,",
(c) ym mharagraff (e), ar ôl "art" mewnosoder "and design".
4.–(1) Diwygier Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005(5) yn unol â'r erthygl hon.
(2) Yn y diffiniad o "y pynciau sylfaen eraill" ("the other foundation subjects") yn erthygl 3(1)–
(a) dileer y gair "technoleg" a rhodder yn ei le y geiriau "dylunio a thechnoleg, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu,"; a
(b) ar ôl y gair "celfyddyd" mewnosoder y geiriau "a dylunio".
(3) Yn erthygl 7(1) ar ôl y gair "celfyddyd" mewnosoder y geiriau "a dylunio, dylunio a thechnoleg a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu".
(4) Dileer erthygl 7(2).
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
16 Gorffennaf 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 101(1) o Ddeddf Addysg 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru gynnwys cwricwlwm sylfaenol. Mae is-adran (3) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud Gorchymyn yn diwygio is-adran (1) drwy ychwanegu gofynion pellach.
Mae'r Gorchymyn hwn, a wneir o dan is-adran (3), yn diwygio'r gofynion i ddarparu addysg gysylltiedig â gwaith (a ychwanegwyd at y cwricwlwm sylfaenol gan Orchymyn y Cwricwlwm Sylfaenol ar gyfer Cymru (Diwygio) 2003 (O.S. 2003/932 (Cy.122))) drwy ymestyn yr amrediad oed er mwyn iddo fod hefyd yn gymwys i'r disgyblion hynny sydd yn y trydydd cyfnod allweddol.
O ran y cyfnodau allweddol cyntaf, ail a thrydedd o addysg disgybl, mae Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru yn cynnwys y pynciau craidd a phynciau sylfaen eraill a bennir yn adran 105 o Ddeddf Addysg 2002. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r pynciau sylfaen eraill hynny.
Mae'r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn yn hepgor y pynciau "technoleg" a "celfyddyd" ac yn gosod yn eu lle "technoleg gwybodaeth a chyfathrebu", "dylunio a thechnoleg" a "celfyddyd a dylunio".
2002 p.32 Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
2006 p.32. At ddibenion paragraff 34 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, y "swyddogaeth gyfatebol" i Weinidog y Goron mewn perthynas â Lloegr yw'r swyddogaeth a roddir i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 80(3)(a), 84(6) ac 87 o Ddeddf Addysg 2002. Back [3]
Mewnosodwyd gan erthygl 2(1) a (3) o O.S. 2003/932 (Cy.122). Back [4]
O.S. 2005/1394 (Cy. 108). Back [5]