Gwnaed
16 Gorffennaf 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Gorffennaf 2008
Yn dod i rym
11 Awst 2008
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2008 a daw i rym ar 11 Awst 2008.
2. Pennir y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Rhodri Glyn Thomas
Y Gweinidog dros Dreftadaeth, un o Weinidogion Cymru
16 Gorffennaf 2008
Erthygl 2
Archwilydd Cyffredinol Cymru
Yr Asiantaeth Genedlaethol er Gwella Plismona
Awdurdod y Diwydiant Diogelwch
Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd
Banc Lloegr
Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu
Y Comisiwn Cystadlu
Y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy
Y Comisiwn Etholiadol
Y Comisiwn Hapchwarae
Comisiwn y Loteri Genedlaethol
Cynghorau Sgiliau Sector
Y Cyngor Ceiropractig Cyffredinol
Cyngor Chwaraeon y DU
Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr
Cyngor Llyfrau Cymru
Y Cyngor Optegol Cyffredinol
Y Cyngor Osteopathig Cyffredinol
Y Cyngor Prydeinig
Cyngor Rheoleiddio Proffesiynolion Gofal Iechyd
Cyllid Cymru c.c.c.
Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr
FFORWM
Y Gronfa Loteri Fawr
Grŵp y Post Brenhinol c.c.c.
Y Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a'r Celfyddydau
Y Rheoleiddiwr Pensiynau
Sefydliad Datblygu Cymunedol
Y Swyddfa Gyfathrebiadau
Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru
Uned Ddata Llywodraeth Leol – Cymru
Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Cyfyngedig
Yr Ymddiriedolaeth Garbon
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan Ran II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ("y Ddeddf") caiff Bwrdd yr Iaith Gymraeg roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw gorff cyhoeddus lunio Cynllun Iaith Gymraeg. Mae adran 6 o'r Ddeddf yn rhestru amryw o gyrff cyhoeddus at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf ac yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol (Gweinidogion Cymru bellach) yn cael pennu cyrff cyhoeddus pellach at y dibenion hynny.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu cyrff cyhoeddus pellach at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf.
Mae pum Gorchymyn blaenorol wedi'u gwneud o dan adran 6 o'r Ddeddf:
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 (O.S. 1996/1898);
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1999 (O.S. 1999/1100);
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001 (O.S. 2001/2550 (Cy.215));
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002 (O.S. 2002/1441 (Cy.145)); a
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2004 (O.S. 2004/71 (Cy.7)).
1993 (p.38). Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn Atodlen 1. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [2]