Gwnaed
8 Gorffennaf 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Gorffennaf 2008
Yn dod i rym
30 Gorffennaf 2008
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli'r cyfeiriadau at offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd yn y Gorchymyn hwn fel cyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 3(1) a 15(3) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(4), a thrwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rhwydi Pysgota Perdys (Cymru) 2008 a daw i rym ar 30 Gorffennaf 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr "cwch pysgota Prydeinig" ("British fishing boat)" yw cwch pysgota sydd naill ai wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995(5) neu sydd dan berchnogaeth lwyr personau sy'n gymwys i berchnogi llongau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o'r Ddeddf honno;
mae i "Cymru" yr ystyr a roddir i "Wales" yn adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(6).
ystyr "Gorchymyn cyfatebol" ("equivalent Order") yw gorchymyn sy'n rhychwantu unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig a wneir o dan adran 3 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 sy'n cynnwys darpariaeth debyg i'r ddarpariaeth yn erthygl 3; ac
ystyr "pen y cwd" ("codend") yw'r rhan olaf un o rwyd, sydd wedi ei llunio o un neu fwy o baneli sy'n cynnwys rhannau o rwyd â'i rhwyllau o'r un maint ac wedi'u cysylltu â'i gilydd ar hyd eu hymylon yn echel hir plyg y rhwyd gan gareiau.
(2) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae rhwyll rhwyd neu rwydwe i'w mesur yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 129/2003 dyddiedig 24 Ionawr 2003 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer penderfynu ar faint rhwyllau a thrwch cortynnau rhwydi pysgota(7).
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
3.–(1) Gwaherddir cychod pysgota Prydeinig rhag cario na defnyddio rhwyd, sydd â'i rhwyll yn mesur rhwng 16 a 31 o filimetrau oni bai–
(a) bod rhwydwe, sydd â'i rhwyll yn mesur o leiaf ddwywaith mesur pen y cwd a dim mwy na 70 o filimetrau, wedi ei rhoi ar draws holl drawsdoriad y rhwyd yn y fath fodd –
(i) na all pysgod gyrraedd pen y cwd heb yn gyntaf fynd drwy'r rhwydwe; a
(ii) bod twll yn y rhwyd y mae'r holl bysgod nad ydynt yn mynd drwy'r rhwydwe yn gallu ffoi drwyddo;
(b) bod grid anhyblyg, nad yw'r gofod rhwng ei fariau yn fwy na 20 o filimetrau wedi ei roi ar draws holl drawsdoriad y rhwyd yn y fath fodd–
(i) na all pysgod gyrraedd pen y cwd heb yn gyntaf fynd drwy'r grid; a
(ii) bod twll yn y rhwyd y mae'r holl bysgod nad ydynt ym mynd drwy'r grid yn gallu ffoi drwyddo;
(c) na chadwyd unrhyw bysgod ar y cwch; neu
(ch) bod cadw unrhyw bysgod ar y cwch yn gydnaws ag Erthygl 25(3) o Reoliad y Cyngor 850/98 dyddiedig 30 Mawrth 1998 ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodwrol drwy fesurau technegol i ddiogelu rhai ifanc ac organebau morol(8).
4.–(1) At ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn neu unrhyw Orchymyn cyfatebol, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo.
(2) Caiff y swyddog fynd ar y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i gynorthwyo'r swyddog hwnnw wrth ei ddyletswyddau ac, at y diben hwnnw, caiff fynnu bod y cwch yn stopio a chaiff wneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso mynd ar y cwch neu ddod oddi arno.
(3) Caiff y swyddog fynnu bod y meistr a phersonau eraill ar y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiad sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol at y diben o orfodi'r Gorchymyn hwn ac, yn benodol –
(a) caiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch hwnnw a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a chaiff fynnu bod personau sydd ar y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad; a
(b) caiff fynnu bod unrhyw berson sydd ar y cwch yn dangos unrhyw ddogfen ynglŷn â'r cwch, ag unrhyw weithrediadau pysgota neu unrhyw weithrediadau ategol iddynt neu â'r personau sydd ar y cwch sydd yng ngwarchodaeth neu feddiant y person hwnnw a chaiff gymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath;
(c) er mwyn canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni unrhyw dramgwydd o dan adran 3(5) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 fel y'i darllenir ynghyd â'r Gorchymyn hwn neu unrhyw Orchymyn cyfatebol, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall fynnu bod unrhyw berson ar y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol i hwyluso'r chwilio;
(ch) os yw'r cwch yn un y mae gan y swyddog reswm dros amau fod tramgwydd o'r fath wedi'i gyflawni mewn perthynas â hi, caiff ymafael yn unrhyw ddogfen a chadw'n gaeth unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir iddo neu y deuir o hyd iddi ar y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn unrhyw achos ynglyn â'r tramgwydd;
ond nid oes dim yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu ymafael yn unrhyw ddogfen a chadw'n gaeth unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar y cwch ac eithrio tra bo'r cwch yn cael ei gadw'n gaeth mewn porthladd.
(4) Pan fo'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn wedi'i thorri ar unrhyw adeg, caiff y swyddog –
(a) ei gwneud yn ofynnol bod meistr y cwch y cyflawnwyd y tramgwydd mewn cysylltiad ag ef, neu bod y swyddog ei hun, yn mynd â'r cwch a'r criw i'r porthladd cyfleus agosaf yn ei dyb ef; a
(b) cadw'r cwch yn gaeth y porthladd, neu ei gwneud yn ofynnol i'r meistr wneud hynny;
a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch yn gaeth, neu'n mynnu bod y cwch yn cael ei gadw'n gaeth, rhaid iddo gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig yn datgan y bydd y cwch yn cael ei gadw'n gaeth, neu ei bod yn ofynnol ei gadw'n gaeth, hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodir gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
5. Mae Gorchymyn Rhwydi Pysgota Perdys (Cymru) 2003 (9) wedi ei ddirymu.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
8 Gorffennaf 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rheoli cario a defnyddio unrhyw rwydi pysgota gyda maint eu rhwyll rhwng 16 a 31 o filimetrau, wedi ei mesur yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 129/2003 dyddiedig 24 Ionawr 2003 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer pennu maint y rhwyll a thrwch cortynnau rhwydi pysgota. Mae'r Gorchymyn hwn yn nodi'r darpariaethau cenedlaethol y gelwir amdanynt gan Erthygl 25 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 dyddiedig 30 Mawrth 1998, drwy bennu rhwydi gorchudd a gridiau didoli fel y mathau o ddyfais y mae'n ofynnol eu defnyddio.
Mae'r Gorchymyn yn gymwys i gychod pysgota Prydeinig yng Nghymru ac mae'n eu gwahardd rhag cario na defnyddio rhwydi o'r fath ac eithrio o dan amgylchiadau penodol (erthygl 3).
Yr eithriadau penodol yw pan fydd atodiadau a ddiffinnir wedi eu gosod ar y rhwyd (erthygl 3(1)(a) a (b)), pan na fydd unrhyw bysgod môr wedi eu dal (erthygl 3(1)(c)) neu pan fydd unrhyw bysgod môr a gedwir ar y cwch yn cael eu cadw yn unol ag Erthygl 25(3) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 (erthygl 3(1)(d)).
Os bydd unrhyw gwch yn torri'r gwaharddiad hwn, bydd y meistr, y perchennog a'r siartrwr yn euog o dramgwydd ac yn agored i ddirwy nad yw'n uwch na £5,000 ar gollfarn ddiannod ac ar gollfarn ar dditiad i ddirwy (adrannau 3(5) ac 11(1)(b) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967). Caiff y llys hefyd osod dirwy ychwanegol heb fod uwchlaw gwerth y pysgod a ddaliwyd â'r rhwyd neu orchymyn fforffedu'r rhwyd (adran 11(2) a (3) o Ddeddf 1967).
Mae'r Gorchymyn yn ychwanegol yn rhoi pwerau gorfodi i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig at ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn neu unrhyw Orchymyn cyfatebol (erthygl 4).
Mae'r Gorchymyn yn dirymu Gorchymyn Rhwydi Pysgota Perdys (Cymru) 2003 (erthygl 5).
Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn.
O.S. 2005/2766 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/3329). Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y'i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [1]
1972 p.68. Back [2]
Mewnosodwyd paragraff 1A gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoliadol 2006 (p.51). Back [3]
1967 p.84. Diwygiwyd Adran 3 gan Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p.86), adran 9(1) ac Atodlen 2, paragraff 16(1); Deddf Pysgota'r Glannau (Yr Alban) 1984 (p.26), adran 10 (1) ac Atodlen 1 ac O.S. 1999/1820, erthygl 4 ac Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 43(1), (2) a (4). Amnewidiwyd adran 15(3) gan Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77), adran 22(1), Atodlen 1, paragraff 38(3) ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p.86) adran 9(1), Atodlen 2, paragraff 16(1) ac O.S. 1999/1820, erthygl 4, Atodlen 2, paragraff 43(1) a (2)(b). Gweler adran 22(2)(a) i gael y diffiniadau o "the Ministers" at ddibenion adrannau 3 a 15(3); diwygiwyd adran 22(2) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981, adrannau 19(2)(d), a 45(b) ac (c) a chan O.S. 1999/1820, erthygl 4, paragraff 43(12) o Atodlen 2. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidogion yn adrannau 3(1) a 15(3) o Ddeddf 1967, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y'i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998) gan erthygl 2 ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedyn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.38) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [4]
1995 p.21. Back [5]
2006 p.32. Mae'r diffiniad hwn yn cynnwys "the sea adjacent to Wales out as far as the seaward boundary of the territorial sea". Back [6]
OJ Rhif L22, 25.1.2003, t.5. Back [7]
OJ Rhif L125, 27.4.1998, t.1. Back [8]
O.S. 2003/3035 (Cy.283). Back [9]