Gwnaed
5 Gorffennaf 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Gorffennaf 2008
Yn dod i rym
1 Awst 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 108(3)(a) a (b), (5) ac adran 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2) ac ar ôl gwneud y trefniadau hynny ar gyfer ymgynghori y maent o'r farn eu bod yn briodol yn unol ag adran 117 o Ddeddf Addysg 2002, yn gwneud y gorchymyn canlynol:
1.–(1) – Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) (Diwygio) 2008 a daw i rym ar 1 Awst 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) – Yn nhestun Cymraeg Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008(3) yn–
(a) erthyglau 4(2), 5(2), 6(2), 7(2), 8(2), 9(2), 10(2), 11(2), 12(2), 13(2), 14(2) a 15(3) yn lle "Y darpariaethau" rhodder "Mae'r darpariaethau"; a
(b) erthyglau 4(3), 5(3), 6(3), 7(3), 8(3), 9(3), 10(3), 11(3), 12(3), 13(3), 14(3) a 15(4) yn lle "egluro'r" rhodder "dangos y".
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
5 Gorffennaf 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008 ("Gorchymyn 2008") yn rhoi effaith gyfreithiol i'r rhaglenni astudio sy'n gosod yr hyn y dylid ei ddysgu i blant a thargedau cyrhaeddiad ar eu cyfer mewn perthynas â disgyblion yng nghyfnodau allweddol 2 i 4. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2008 er mwyn gwneud cywiriadau i'r testun Cymraeg.