Gwnaed
1 Gorffennaf 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3 Gorffennaf 2008
Yn dod i rym
1 Awst 2008
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 1 Awst 2008.
2.–(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003(3) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3, yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder–
"mae "cyfnod sylfaen" ("foundation stage") i'w ddehongli yn unol ag adran 102 o Ddeddf Addysg 2002(4)".
(3) Yn rheoliad 5 yn lle paragraff (1) rhodder–
"(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy'n dod o fewn y blynyddoedd ysgol 2008–2009 a 2009–2010 a gaiff ei neilltuo (yn llwyr neu yn bennaf) i ddarparu hyfforddiant (gan gynnwys hyfforddiant a fynychir gan staff sy'n addysgu a staff nad yw'n addysgu a hyfforddiant a gynhelir ar y cyd ag ysgolion eraill), neu baratoi a chynllunio, ar gyfer y canlynol–
(a) cyflwyno'r cyfnod sylfaen;
(b) gweithredu cynlluniau a anelir at hwyluso disgyblion i bontio o'r cyfnod sylfaen i'r ail gyfnod allweddol ac o un cyfnod allweddol i'r un nesaf neu o ysgol gynradd i ysgol uwchradd (gan gynnwys cynlluniau o'r fath y cyfeirir atynt yn adran 198 o Ddeddf Addysg 2002 os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu'r ysgol gymryd rhan mewn llunio cynllun o'r fath neu os yw'r corff llywodraethu yn disgwyl hynny);
(c) y newidiadau arfaethedig i Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru;
(ch) gweithredu'r cynigion sydd yng nghylchlythyr 37/2004 o dan y teitl "Llwybrau Dysgu 14–19" ar gyfer ymestyn ystod yr opsiynau dysgu sydd ar gael i bobl ifanc 14–19 oed (gan gynnwys datblygu rôl Anogwr Dysgu i gynorthwyo gyda dysgu pobl ifanc, a datblygu Cynllun Llwybrau Dysgu cynhwysfawr)."
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
1 Gorffennaf 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3231 (Cy.311)) ("Rheoliadau 2003") yn gymwys i ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol ac i ysgolion arbennig (os cynhelir hwy felly ai peidio). Maent yn darparu (ymysg pethau eraill) bod diwrnod ysgol sydd fel arfer i'w rannu'n ddwy sesiwn (gydag egwyl yn y canol), a bod ysgolion (heblaw ysgolion meithrin) yn cyfarfod am o leiaf 380 o sesiynau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol.
Mae rheoliad 5 o Reoliadau 2003 (fel y'u diwygiwyd gan Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1262 (Cy.119))) yn darparu bod hyd at bedair sesiwn ym mhob un o flynyddoedd ysgol 2006/7 a 2007/8 yn cyfrif fel sesiynau pan gyfarfu'r ysgol os cawsant eu neilltuo i ddarparu ffurfiau penodol o hyfforddiant.
Mae'r Rheoliadau hyn yn amnewid rheoliad 5 newydd yn Rheoliadau 2003 sydd, yn fras, yn darparu bod hyd at bedair sesiwn ym mhob un o flynyddoedd ysgol 2008/9 a 2009/10 yn cyfrif fel sesiynau pan gyfarfu'r ysgol os cawsant eu neilltuo i ddarparu hyfforddiant, neu baratoi a chynllunio, ar gyfer y canlynol–
-¢ cyflwyno'r cyfnod sylfaen,
-¢ paratoi a gweithredu cynlluniau a anelir at hwyluso disgyblion i bontio o'r cyfnod sylfaen ac o un cyfnod allweddol i gyfnod allweddol arall, a rhwng ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd (gan gynnwys, yn yr ail achos, y cynlluniau statudol y mae angen eu llunio o dan adran 198 o Ddeddf Addysg 2002),
-¢ newidiadau sydd i ddod yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, a
-¢ cynlluniau Gweinidogion Cymru ar gyfer ymestyn opsiynau dysgu ar gyfer pobl ifanc 14–19 oed.
1996 p.56. Mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), a diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579(1). Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r Cynulliad Cenedlaethol gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
O.S. 2003/3231 (Cy.311). Back [3]
2002 p.32. Mae O.S. 2008/1732 (Cy.169) yn pennu beth yw cyfnod y cyfnod sylfaen. Back [4]