Gwnaed
1 Gorffennaf 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3 Gorffennaf 2008
Yn dod i rym
Yn unol ag erthygl 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 102, adran 108(2) ac adran 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), ac wedi gwneud y cyfryw drefniadau y maent yn eu hystyried yn briodol ar gyfer ymgynghori yn unol ag adran 117 o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2008.
(2) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i rym–
(a) ar 1 Awst 2008 o ran disgyblion ym mlwyddyn gyntaf y cyfnod sylfaen;
(b) ar 1 Awst 2009 o ran disgyblion yn ail flwyddyn y cyfnod sylfaen;
(c) ar 1 Awst 2010 o ran disgyblion yn nhrydedd flwyddyn y cyfnod sylfaen; ac
(ch) ar 1 Awst 2011 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn y cyfnod sylfaen.
(3) Yn y Gorchymyn hwn –
ystyr "Deddf 2002" ("the 2002 Act") yw Deddf Addysg 2002; ac
ystyr "y ddogfen" ("the document") yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2008 o dan yr enw "Cyfnod Sylfaen: Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru"(3).
(4) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Y cyfnod sylfaen o ran disgybl yw'r cyfnod sy'n dechrau gyda'r amser perthnasol (fel y'i diffinnir ym mharagraff (2)) ac sy'n diweddu ar yr un amser â'r flwyddyn ysgol y bydd mwyafrif y disgyblion yn nosbarth y disgybl yn cyrraedd saith oed ynddi.
(2) Ym mharagraff (1) ystyr "yr amser perthnasol" ("the relevant time") yw–
(a) yn achos plentyn y darperir iddo addysg feithrin a ariennir cyn iddo gyrraedd tair oed, ei drydydd pen-blwydd;
(b) yn achos plentyn y darperir iddo addysg feithrin a ariennir ar ôl iddo gyrraedd yr oedran hwnnw, yr amser pan ddarperir yr addysg honno iddo gyntaf; ac
(c) yn achos plentyn na ddarperir iddo unrhyw addysg feithrin a ariennir, yr amser pan fydd yn cael gyntaf addysg gynradd nad yw'n addysg feithrin.
3.–(1) Y darpariaethau sy'n ymwneud â meysydd dysgu, canlyniadau dymunol a rhaglenni addysgol a osodir yn y ddogfen yn effeithiol at ddibenion pennu'r meysydd dysgu, y canlyniadau dymunol a'r rhaglenni addysgol ar gyfer y cyfnod sylfaen.
(2) Nid yw'r canlyniadau dymunol a'r rhaglenni addysgol sy'n ymwneud â'r maes dysgu a elwir Datblygu'r Gymraeg a osodir yn y ddogfen i'w cymhwyso i ddisgybl yn y cyfnod sylfaen os caiff y disgybl hwnnw ei addysgu yn gyfan gwbl neu'n bennaf drwy gyfrwng y Cymraeg.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
1 Gorffennaf 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Cyflwynir y cyfnod sylfaen ar gyfer blwyddyn gyntaf y cyfnod sylfaen ar 1 Awst 2008, ar gyfer ail flwyddyn y cyfnod sylfaen ar 1 Awst 2009, ar gyfer trydedd flwyddyn y cyfnod sylfaen ar 1 Awst 2010 ac ar gyfer pedwaredd flwyddyn y cyfnod sylfaen ar 1 Awst 2011. Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn pennu cyfnod y cyfnod sylfaen ac yn rhoi effaith gyfreithiol i'r meysydd dysgu, sy'n gosod y canlyniadau dymunol a'r rhaglenni addysgol.