Gwnaed
30 Mai 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2 Mehefin 2008
Yn dod i rym
1 Awst 2008
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 1 Awst 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Dirymir Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2000(3).
3. At ddibenion adran 105 o Ddeddf Addysg 2002 ystyr "iaith dramor fodern" yw unrhyw iaith dramor fodern.
4.–(1) Mae unrhyw gwestiwn ynghylch a yw iaith dramor benodol yn iaith dramor fodern at ddibenion adran 105 o Ddeddf Addysg 2002 i'w benderfynu gan Weinidogion Cymru.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud dyfarniad o dan baragraff (1) yn sgil cais gan unrhyw berson neu o'u hysgogiad eu hunain.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
30 Mai 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae "iaith dramor fodern" yn bwnc sylfaen yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru yn y trydydd cyfnod allweddol. Mae'n ofynnol i'r ieithoedd hynny sydd i'w cyfrif yn ieithoedd modern at ddibenion y Cwricwlwm Cenedlaethol gael eu pennu mewn Gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru, neu, fel arall, caiff Gorchymyn o'r fath ddarparu bod unrhyw iaith dramor fodern yn iaith dramor fodern at y cyfryw ddibenion. Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod unrhyw iaith dramor fodern yn iaith dramor fodern, a bod unrhyw gwestiwn ynghylch a yw iaith dramor yn iaith dramor fodern i'w benderfynu gan Weinidogion Cymru.