Gwnaed
21 Mai 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
22 Mai 2008
Yn dod i rym
17 Mehefin 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2 o Ddeddf Erthylu 1967(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Erthylu (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 17 Mehefin 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Erthylu 1991(2).
2. Yn rheoliad 2 (dehongli) o'r prif Reoliadau, mewnosoder y diffiniadau canlynol yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor–
""the Statistics Board" means the Statistics Board established under section 1 of the Statistics and Registration Service Act 2007(3);
"the Chief Medical Officer for Wales" means the Chief Medical Officer to the Welsh Assembly Government;".
3. Yn rheoliad 4(2)(b) (sy'n ymwneud â hysbysiad o derfyniad a gwybodaeth ynghylch y terfyniad) o'r prif Reoliadau, yn lle "National Assembly for Wales" rhodder "Welsh Assembly Government".
4. Yn rheoliad 5 (cyfyngu ar ddatgelu gwybodaeth) o'r prif Reoliadau –
(a) ym mharagraff (a)(i), yn lle "the National Assembly for Wales" rhodder "the Welsh Assembly Government";
(b) yn lle paragraff (a)(ii) rhodder–
"(ii) to the chairman of the Statistics Board or a member of the Statistics Board´s staff who has been duly authorised by the chairman.".
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
21 Mai 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 2 a 4 o Reoliadau Erthylu 1991(4) ("y prif Reoliadau") er mwyn adlewyrchu'r newidiadau yn nheitl Prif Swyddog Meddygol Cymru o ganlyniad i sefydlu Llywodraeth Cynulliad Cymru yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006(5).
Maent hefyd yn diwygio rheoliadau 2 a 5 o'r prif Reoliadau i adlewyrchu'r newidiadau a wnaed gan Ddeddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007(6) sy'n sefydlu bwrdd ystadegau annibynnol sy'n gyfrifol am swyddogaethau ystadegol a gafodd eu cyflawni'n flaenorol gan y Cofrestrydd Cyffredinol drwy'r gangen weinyddol, y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Nid oes asesiad o effaith reoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn.
1967 p.87 ("y Ddeddf"). Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan adran 2 o'r Ddeddf o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) ac fe'u trosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [1]
O.S. 1991/499 fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2002/2879 (Cy.275). Back [2]
O.S. 1991/499, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2879 (Cy.275) Back [4]
2006 p.32. Back [5]
2007 p.18. Back [6]