Gwnaed
16 Mai 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Mai 2008
Yn dod i rym
13 Mehefin 2008
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 13 Mehefin 2008.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3. Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 2008" ("the 2008 Regulations") yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008(3).
4. Diwygir Rheoliadau 2008 fel a ganlyn.
5. Yn rheoliad 18(3), yn lle'r ffigur "25,580", rhodder y ffigur "27,115".
6. Yn lle paragraffau 8(1)(b) ac 8(1)(c) o Atodlen 2 rhodder–
"(b) a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig yn union cyn gadael y Deyrnas Unedig i arfer hawl i breswylio;
(c) sydd yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol;".
7. Ym mharagraff 4(2)(a) o Atodlen 3 hepgorer y geiriau "a delir gan y myfyriwr" ac "y myfyriwr".
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
16 Mai 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008 ("Rheoliadau 2008").
Mae Rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 18 o Reoliadau 2008 er mwyn cynyddu'r grantiau ar gyfer ffioedd sy'n daladwy i fyfyrwyr sy'n mynychu Canolfan Bologna o 25,580 ewro i 27,115 ewro.
Mae Rheoliad 6 yn diwygio paragraffau 8(1)(b) ac 8(1)(c) o Atodlen 2 o Reoliadau 2008 er mwyn galluogi myfyrwyr sydd wedi ymsefydlu yn y DU ac sy'n arfer hawl i breswylio yn yr UE ac yna'n dychwelyd i'r DU i astudio i fod yn gymwys i gael y cymorth ariannol i fyfyrwyr yn llawn o dan y Rheoliadau hyn.
Mae Rheoliad 7 yn diwygio paragraff 4 o Atodlen 3 o Reoliadau 2008 o ran cyfrifo incwm gweddilliol rhiant myfyriwr.
1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 12. Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149)(C.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159)(C.56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
O.S. 2008/18 (Cy. 7). Back [3]