Gwnaed
25 Ebrill 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Ebrill 2008
Yn dod i rym
26 Ebrill 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion yr adran honno o ran mesurau yn y maes milfeddygol er amddiffyn iechyd y cyhoedd(2).
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau a ganlyn.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2008, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 26 Ebrill 2008.
2.–(1) Diwygir Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006 (4) yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)–
(a) dileer y gair "ac" sy'n digwydd yn union ar ôl y diffiniad o "Rheoliad TSE y Gymuned" a mewnosoder cyn y diffiniad o "TSE" y diffiniad a ganlyn–
"ystyr "Rheoliad TSE diwygiedig y Gymuned" yw Rheoliad TSE y Gymuned fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 722/2007 sy'n diwygio Atodiadau II, V, VI, VIII, IX ac XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol(5) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 357/2008 sy'n diwygio Atodiad V i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol";(6) a mewnosoder y gair "ac" yn union ar ei ôl;
(b) yn y diffiniad o "safle torri", yn lle'r cyfeiriad at baragraff 10(2)(c) o Atodlen 6, rhodder cyfeiriad at baragraff 9 (2)(b) (iii) o'r Atodlen honno; ac
(c) ar unwaith ar ôl y diffiniad o "y Cynulliad Cenedlaethol" mewnosoder y diffiniad a ganlyn –
"mae i "deunydd risg penodedig" (ac eithrio fel a nodir ym mharagraff 20(6) o Atodlen 6) yr ystyr sydd i'r ymadrodd "specified risk material" yn erthygl 3.1(g) o Reoliad TSE diwygiedig y Gymuned;".
(3) Yn lle Atodlen 6 (deunydd risg penodedig, cig wedi'i wahanu'n fecanyddol a dulliau cigydda) rhodder yr Atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(4) Yn Atodlen 7 (cyfyngiadau ar anfon i Aelod-wladwriaethau eraill ac i drydydd gwledydd) yn lle paragraff 2 (allforion i drydydd gwledydd) rhodder y paragraff a ganlyn–
"2. Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 10.3 o Atodiad V i Reoliad TSE diwygiedig y Gymuned yn euog o dramgwydd.".
3. Dirymir Rheoliadau Esgyrn Cig Eidion 1997(7) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
25 Ebrill 2008
Rheoliad 2(3)
Rheoliad 9
CYNNWYS
1. Penodi'r Asiantaeth Safonau Bwyd fel yr awdurdod cymwys
2. Hyfforddiant
3. Cig wedi'i wahanu'n fecanyddol
4. Pithio
5. Cynaeafu tafodau
6. Cynaeafu cig y pen
7. Tynnu deunydd risg penodedig
8. Anifeiliaid buchol mewn lladd-dy
9. Defaid a geifr mewn lladd-dy
10. Stampiau wyn a geifr ifanc
11. Tynnu llinyn asgwrn y cefn o ddefaid a geifr
12. Awdurdodi safleoedd torri gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd
13. Tynnu deunydd risg penodedig mewn safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 12(1)
14. Cig o Aelod-wladwriaeth arall
15. Staenio a gwaredu deunydd risg penodedig
16. Anifeiliaid y cynllun
17. Diogeledd deunydd risg penodedig
18. Gwaharddiad ar gyflenwi pennau a charcasau heb eu hollti i Aelod-wladwriaethau eraill
19. Gwaharddiad ar gyflenwi deunydd risg penodedig i'w fwyta gan bobl
20. Darpariaethau Trosiannol
21. Diffiniadau o ddeddfwriaeth y Gymuned
1.–(1) Ac eithrio mewn siopau cigyddion, rhaid i'r Asiantaeth Safonau Bwyd wneud y dyletswyddau a osodir ar Aelod-wladwriaethau ym mhwynt 11.1 a phwynt 11.2 o Atodiad V i Reoliadau TSE y Gymuned fel y'i diwygiwyd, mewn perthynas â'r Atodlen hon a chaiff roi awdurdod at ddibenion pwynt 4.3(a) o'r Atodiad hwnnw.
(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae arolygydd mewn lladd-dy neu safle torri–
(a) yn filfeddyg swyddogol sydd â chymwysterau yn unol â Rheoliad 854/2004 i weithredu yn y swyddogaeth honno ac fe'i penodir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd;
(b) yn weithiwr cynorthwyol swyddogol sydd â chymwysterau yn unol â Rheoliad 854/2004 i weithredu yn y swyddogaeth honno, wedi ei benodi gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac yn gweithio o dan awdurdod a chyfrifoldeb milfeddyg swyddogol; neu
(c) yn unrhyw berson arall a benodir at y diben gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
(3) Gall penodiad fel arolygydd fod yn gyfyngedig i bwerau a dyletswyddau sydd wedi eu nodi yn y penodiad.
(4) Mae gan unrhyw berson sy'n gweithredu pwerau arolygydd o dan yr Atodlen hon yr amddiffyniad a nodir yn rheoliad 18(3).
2. Mae'n rhaid i feddiannydd unrhyw ladd-dy neu safle torri lle mae deunydd risg penodedig yn cael ei dynnu –
(a) sicrhau bod staff yn cael unrhyw hyfforddiant sydd ei angen i sicrhau bod y meddiannydd yn cydymffurfio â'i ddyletswyddau yn yr Atodlen hon; a
(b) yn cadw cofnod am hyfforddiant pob person tra bydd y person yn gweithio yno,
ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.
3.–(1) Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 5 o Atodiad V i Reoliad TSE diwygiedig y Gymuned (mesurau ynghylch cig wedi'i wahanu'n fecanyddol) yn euog o dramgwydd.
(2) Mae unrhyw berson sy'n defnyddio unrhyw gig wedi'i wahanu'n fecanyddol a gynhyrchir yn groes i'r pwynt hwn wrth baratoi unrhyw fwyd i'w werthu i'w fwyta gan bobl neu unrhyw fwydydd anifeiliaid yn euog o dramgwydd.
(3) Yn y paragraff hwn ystyr "cig wedi'i wahanu'n fecanyddol" yw'r cynnyrch a geir wrth grafu cig oddi ar yr esgyrn sy'n cynnal cnawd ar ôl tynnu'r esgyrn gan ddefnyddio dulliau mecanyddol sy'n arwain at golli neu addasu strwythur ffibr y cyhyrau.
4. Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 6 o Atodiad V i Reoliad TSE diwygiedig y Gymuned (mesurau ynghylch rhwygo'r meinweoedd) yn euog o dramgwydd.
5. Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 7 o Atodiad i Reoliad TSE diwygiedig y Gymuned (cynaeafu tafodau oddi wrth anifeiliaid buchol) yn euog o dramgwydd.
6. Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 8.1 o Atodiad V i Reoliad TSE diwygiedig y Gymuned (cynaeafu cig pen buchol) yn euog o dramgwydd.
7. Mae unrhyw berson sy'n tynnu deunydd risg penodedig mewn unrhyw fangre ar wahân i fangre lle caniateir tynnu'r deunydd risg penodedig o dan bwynt 4.1 neu pwynt 4.3(a) o Atodiad V Reoliad TSE diwygiedig y Gymuned yn euog o dramgwydd.
(2) Yn achos safle torri, mae tynnu'r canlynol yn dramgwydd–
(a) unrhyw ran o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig o unrhyw anifail buchol onid yw'r safle wedi'i awdurdodi o dan baragraff 12(1)(a); neu
(b) llinyn asgwrn cefn unrhyw ddafad neu afr dros 12 mis oed pan gaiff ei chigydda neu sydd â dant blaen parhaol wedi torri drwy gig y dannedd, onid yw'r safle wedi'i awdurdodi at ddiben y cyfryw weithred o dan baragraff 12(1)(b).
8.–(1) Pan gaiff anifail buchol ei gigydda mewn lladd-dy neu pan gaiff carcas anifail buchol ei gludo i ladd-dy yn dilyn cigydda mewn argyfwng mewn man arall, rhaid i feddiannydd y lladd-dy dynnu'r holl ddeunydd risg penodedig (ac eithrio'r rhannau hynny o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda a ph'run bynnag, cyn archwiliad post-mortem.
(2) Rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y cigydda, draddodi unrhyw gig sy'n cynnwys rhannau o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig i–
(a) safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 12(1)(a);
(b) safle torri a leolir mewn gwlad arall yn y Deyrnas Unedig ac a awdurdodwyd o dan y ddarpariaeth gyfatebol sy'n gymwys yn y wlad honno; neu
(c) Aelod-wladwriaeth arall yn unol â phwynt 10.2 o Atodiad V i Reoliad TSE diwygiedig y Gymuned.
(3) Rhaid i feddiannydd y lladd-dy ddynodi cig sy'n cynnwys asgwrn cefn nad yw'n ddeunydd risg penodedig yn unol â phwynt 11.3(a) o Atodiad V i Reoliad TSE diwygiedig y Gymuned a rhaid iddo ddarparu gwybodaeth yn unol â phwynt 11.3(b) o'r Atodiad hwnnw.
(4) Ni chaiff unrhyw berson gynnwys streipen las yn y label y cyfeirir ato yn erthygl 13 o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu system ar gyfer dynodi a chofrestru anifeiliaid buchol ac ar gyfer labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion ac sy'n diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97(8) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1791/2006, ac eithrio yn unol â phwynt 11.3(a) o Atodiad V i Reoliad TSE diwygiedig y Gymuned.
(5) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
9.–(1) Pan gaiff dafad neu afr ei chigydda mewn lladd-dy neu pan gaiff carcas dafad neu afr ei gludo i ladd-dy yn dilyn cigydda mewn argyfwng mewn man arall, rhaid i feddiannydd y lladd-dy dynnu'r holl ddeunydd risg penodedig (ac eithrio llinyn asgwrn y cefn) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda a ph'run bynnag, cyn archwiliad post-mortem.
(2) Yn achos dafad neu afr sydd dros 12 mis oed adeg ei chigydda, neu sydd â blaenddant parhaol wedi torri drwy gig y dannedd, rhaid i berchennog y lladd-dy, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y cigydda–
(a) tynnu llinyn asgwrn y cefn yn y lladd-dy cyn yr archwiliad post-mortem; neu
(b) anfon y cig i–
(i) safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 12(1)(b),
(ii) safle torri a leolir mewn gwlad arall yn y Deyrnas Unedig ac a awdurdodwyd o dan y ddarpariaeth gyfatebol sy'n gymwys yn y wlad honno; neu
(iii) yn unol â phwynt 10.1 o Atodiad V i Reoliad TSE diwygiedig y Gymuned, safle torri a leolir mewn Aelod-wladwriaeth arall, cyn belled â bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi gwneud cytundeb ysgrifenedig ag awdurdod cymwys yr Aelod-wladwriaeth sy'n derbyn y cig a bod y danfoniad yn unol â'r cytundeb hwnnw.
(3) Yn is-baragraff (2)(b)(iii), ystyr "safle torri" yw mangre–
(a) a gymeradwywyd neu a gymeradwywyd yn amodol fel y cyfryw o dan Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004; neu
(b) sy'n gweithredu fel y cyfryw o dan Erthygl 4(5) o Reoliad 853/2004 tra'n disgwyl y cyfryw gymeradwyaeth.
(4) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
10.–(1) Caiff arolygydd stampio dafad neu afr mewn lladd-dy gyda stamp oen ifanc neu stamp gafr ifanc os nad oes gan yr anifail flaenddant parhaol sydd wedi torri drwy gig y dannedd, ac os nad yw'r ddogfennaeth, os oes dogfennaeth o'r fath, sy'n ymwneud â'r anifail yn dangos ei fod dros 12 mis oed adeg ei gigydda.
(2) Mae'n rhaid i'r stamp farcio'r cig gyda chylch 5 centimetr mewn diamedr gyda'r canlynol mewn priflythrennau 1 centimetr o ran uchder–
(a) "MHS"; a
(b) yn achos dafad, "YL"; neu
(c) yn achos gafr, "YG".
(3) Mae'n dramgwydd i unrhyw berson ac eithrio arolygydd ddefnyddio'r stamp neu farc sy'n debyg i'r stamp neu i feddu cyfarpar ar gyfer ei ddefnyddio.
(4) Mae'n dramgwydd marcio dafad neu afr â stamp sydd yn stamp oen ifanc neu'n stamp gafr ifanc neu sy'n debyg iddynt oni bai bod yr anifail yn anifail y caniateir ei farcio yn unol ag is-baragraff (1).
11. Mae'n dramgwydd tynnu llinyn asgwrn y cefn neu unrhyw ran ohono o ddafad neu afr sydd dros 12 mis oed adeg ei chigydda neu oedd ag un neu fwy o'i blaenddannedd parhaol wedi torri drwy gig y dannedd (heblaw at ddibenion archwiliad milfeddygol neu wyddonol) ac eithrio drwy–
(a) hollti holl asgwrn y cefn yn hydredol; neu
(b) tynnu darn hydredol o holl asgwrn y cefn gan gynnwys llinyn asgwrn y cefn.
12.–(1) Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd awdurdodi safle torri i dynnu –
(a) y rhannau hynny o asgwrn cefn anifeiliaid buchol sy'n ddeunydd risg penodedig; neu
(b) llinyn asgwrn y cefn o ddefaid a geifr sydd dros 12 mis oed adeg eu cigydda neu sydd â blaenddant parhaol wedi torri drwy gig y dannedd,
os yw'r Asiantaeth wedi'i bodloni y cydymffurfir â darpariaethau Atodiad V i Reoliad TSE diwygiedig y Gymuned a'r Atodlen hon.
(2) Mae'r gweithdrefnau yn rheoliadau 10, 12, 13 a 14 yn gymwys, ond rhaid dehongli pob cyfeiriad at y Cynulliad Cenedlaethol fel cyfeiriad at yr Asiantaeth.
13. Mae meddiannydd safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 12(1) yn cyflawni tramgwydd onid yw, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cig gyrraedd y safle, a ph'run bynnag cyn i'r cig gael ei symud oddi ar y safle, yn tynnu o'r cig bob deunydd risg penodedig o fath y mae a wnelo'r awdurdodiad ag ef.
14. At ddibenion pwynt 10.1 a pwynt 10.2 o Atodiad V i Reoliad TSE diwygiedig y Gymuned, pan ddeuir â chig sy'n cynnwys rhannau o asgwrn cefn anifail buchol sy'n ddeunydd risg penodedig i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall, rhaid i'r mewnforiwr ei anfon yn uniongyrchol i safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 12(1)(a) ac mae methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
15.–(1) Mae meddiannydd unrhyw fangre lle caiff deunydd risg penodedig ei dynnu sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 3 o Atodiad V i Reoliad TSE diwygiedig y Gymuned (marcio a gwaredu) yn euog o dramgwydd.
(2) At ddibenion y pwynt hwnnw–
(a) mae staenio'n ymwneud â thrin y deunydd (p'un ai drwy ei drochi, ei chwistrellu neu drwy ddull arall) gan ddefnyddio–
(i) toddiant 0.5% yn ôl pwysau/cyfaint o'r asiant lliwio Patent Blue V (E131, 1971 Colour Index No 42051(9)), neu
(ii) y cyfryw fath o asiant lliwio arall y dichon Gweinidogion Cymru neu'r Asiantaeth Safonau Bwyd ei gymeradwyo'n ysgrifenedig; a
(b) Rhaid taenu'r staen yn y fath fodd fel bod y lliwiad yn hollol weladwy ac yn parhau'n hollol weladwy–
(i) dros y cyfan o'r arwyneb a dorrwyd a thros y rhan fwyaf o'r pen yn achos pen dafad neu afr, a
(ii) yn achos pob deunydd risg penodedig arall, dros arwyneb cyfan y deunydd.
(3) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys o ran unrhyw ddeunydd risg penodedig sy'n mynd i gael ei ddefnyddio yn ôl fel y darperir yn Erthygl 1(2)(b) ac (c) o Reoliad TSE diwygiedig y Gymuned.
16.–(1) Ar ôl i'r deunydd risg penodedig gael ei dynnu o anifail buchol a gafodd ei gigydda at ddibenion Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/96 sy'n mabwysiadu mesurau cynnal eithriadol ar gyfer y farchnad cig eidion yn y Deyrnas Unedig(10) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2109/2005 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 716/96 sy'n mabwysiadu mesurau cynnal eithriadol ar gyfer y farchnad cig eidion yn y Deyrnas Unedig(11), rhaid i'r gweddill (ac eithrio'r croen) gael ei staenio ar unwaith yn unol â pharagraff 15 a hynny yn y fath fodd fel y bod y lliwiad yn hollol weladwy dros arwyneb cyfan y deunydd.
(2) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
17.–(1) Hyd oni thraddodir neu y gwaredir y deunydd o'r fangre lle y'i tynnwyd, rhaid i feddiannydd y fangre sicrhau bod deunydd risg penodedig yn cael ei wahanu'n ddigonol oddi wrth unrhyw fwyd, bwydydd anifeiliaid neu gynnyrch cosmetig, fferyllol neu feddygol ac yn cael ei gadw mewn cynhwysydd anhydraidd ac iddo gaead ag arno label yn nodi naill ai–
(a) bod ynddo ddeunydd risg penodedig; neu
(b) bod ynddo sgil-gynhyrchion anifeiliaid categori 1 a bod y geiriau "For disposal only" yn cael eu rhoi ar y label.
(2) Rhaid i feddiannydd y fangre sicrhau bod y cynhwysydd yn cael ei olchi'n drylwyr cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol bob tro y caiff ei wagu, a'i fod yn cael ei ddiheintio cyn cael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
(3) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
18. Yn ddarostyngedig i bwynt 10.2 o Atodiad V i Reoliad TSE diwygiedig y Gymuned, mae unrhyw berson sydd, yn absenoldeb cytundeb o'r math a bennir ym mhwynt 10.1 o'r Rheoliad hwnnw, yn danfon unrhyw ben neu unrhyw garcas heb ei hollti sy'n cynnwys deunydd risg penodedig i Aelod-wladwriaeth arall yn cyflawni tramgwydd.
19. Mae'n dramgwydd gwerthu neu gyflenwi–
(a) unrhyw ddeunydd risg penodedig, neu unrhyw fwyd sy'n cynnwys deunydd risg penodedig i'w fwyta gan bobl; neu
(b) unrhyw deunydd risg penodedig i'w ddefnyddio i baratoi unrhyw fwyd i'w fwyta gan bobl.
20.–(1) Hyd 17 Mai 2008, nid oes dim yn yr Atodlen hon yn gwahardd danfon i siop cigydd a oedd, ar 25 Ebrill 2008, wedi'i hawdurdodi a'i chofrestru o dan baragraff 14 o'r Atodlen hon fel yr oedd ar y dyddiad hwnnw, gig–
(a) na ddaethpwyd ag ef i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall;
(b) sy'n dod o anifail buchol–
(i) a gigyddiwyd dim hwyrach na 25 Ebrill 2008, a
(ii) a oedd yn 30 mis oed neu lai adeg ei gigydda; ac
(c) sy'n cynnwys y rhannau hynny o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig.
(2) Hyd 24 Mai 2008, mae meddiannydd siop cigydd o'r math y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) yn cyflawni tramgwydd onid yw'n tynnu o gig a ddanfonwyd ato yn unol â'r is-baragraff hwnnw y rhannau hynny o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig.
(3) Rhaid i awdurdodau lleol wneud y dyletswyddau sydd ar yr Aelod-wladwriaeth ym mhwynt 11.1 ac 11.2 o Atodiad V i Reoliad TSE diwygiedig y Gymuned mewn perthynas â thynnu'r asgwrn cefn yn unol ag is-baragraff (2).
(4) Hyd 17 Mai 2008, nid oes dim yn yr Atodlen hon yn gwahardd danfon i safle torri (p'un a yw wedi'i awdurdodi o dan baragraph 12(1)(a) ai peidio) gig–
(a) na ddaethpwyd ag ef i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall;
(b) sy'n dod o anifail buchol–
(i) a gigyddiwyd dim hwyrach na 25 Ebrill 2008, a
(ii) a oedd yn 30 mis oed neu lai adeg ei gigydda; ac
(c) sy'n cynnwys y rhannau hynny o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig.
(5) Hyd 24 Mai 2008, mae meddiannydd safle torri o'r math y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) yn cyflawni tramgwydd onid yw'n tynnu o gig a ddanfonwyd ato yn unol â'r is-baragraff hwnnw y rhannau hynny o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig.
(6) At ddibenion y paragraff hwn a pharagraffau 15, 17 ac 19 i'r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â deunydd risg penodedig a gaiff ei dynnu yn unol ag is-baragraff (2) neu (5), mae i "deunydd risg penodedig" yr ystyr a roddir i'r ymadrodd "specified risk material" yn Erthygl 3.1(g) o Reoliad TSE y Gymuned fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 722/2007.
21. Yn yr Atodlen hon–
ystyr "Cyfarwyddeb 2004/41" ("Directive 2004/41") yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol sy'n ymwneud â hylendid bwyd ac amodau iechyd bwyd ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid y bwriedir eu bwyta gan bobl ac â'u rhoi ar y farchnad ac yn diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(12);
ystyr "Rheoliad 853/2004" ("Regulation 853/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(13) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1243/2007 ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;
ystyr "Rheoliad 882/2004" ("Regulation 882/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol sy'n cael eu gwneud i sicrhau gwirio bod cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, iechyd anifeiliaid a rheoliadau lles anifeiliaid(14) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1791/2006 ac fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;
ystyr "Rheoliad 1688/2005" ("Regulation 1688/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer traddodi cig ac wyau penodol i'r Ffindir a Sweden (15);
ystyr "Rheoliad 2074/2005" ("Regulation 2074/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefniadaeth rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(16) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1244/2007;
ystyr "Rheoliad 2075/2005" ("Regulation 2075/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig(17) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1245/2007
ystyr "Rheoliad 2076/2005" ("Regulation 2076/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(18) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1246/2007;
ystyr "Rheoliad 1791/2006" ("Regulation 1791/2006") yw Rheoliad (EC) Rhif 1791/2006 sy'n mabwysiadu Rheoliadau a Phenderfyniadau penodol ym meysydd rhydd symudiad nwyddau, rhyddid symudiad personau, cyfraith cwmnïau, polisi cystadleuaeth, amaethyddiaeth (gan gynnwys deddfwriaeth filfeddygol a ffytoiechydol), polisi trafnidiaeth, trethiant, ystadegaeth, ynni, yr amgylchedd, cydweithrediad ym meysydd cyfiawnder a materion cartref, undeb tollau, perthnasau allanol, polisïau a sefydliadau tramor a diogeledd cyffredin, oherwydd ymaelodi Bwlgaria a Romania(19);
ystyr "Rheoliad 722/2007" ("Regulation 722/2007") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 722/2007 sy'n diwygio Atodiadau II, V, VI, VIII, IX ac XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol(20);
ystyr "Rheoliad 1243/2007" ("Regulation 1243/2007") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1243/2007 sy'n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(21);
ystyr "Rheoliad 1244/2007" ("Regulation 1244/2007") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1244/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 sy'n ymwneud â gweithredu mesurau ar gyfer cynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid y bwriedir eu bwyta gan bobl ac yn gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer archwilio cig(22));
ystyr "Rheoliad 1245/2007" ("Regulation 1245/2007") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1245/2007 sy'n diwygio Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 2075/2005 sy'n ymwneud â defnyddio hylif pepsin er mwyn canfod Trichinella mewn cig(23).
ystyr "Rheoliad 1246/2007" ("Regulation 1246/2007") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1246/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 sy'n ymwneud ag ymestyn y cyfnod trosiannol a ganiateir i weithredwyr busnes bwyd sy'n mewnforio olew pysgod a fwriedir i'w fwyta gan bobl(24)."
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1226 (Cy.117)), fel y'i diwygiwyd, sy'n darparu ar gyfer gorfodi o ran Cymru Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1) fel y'i diwygiwyd gan yr offerynnau Cymunedol a geir yn Atodlen 1 i O.S. 2006/1226 (Cy. 117) ac fel y'i darllenir gyda hwy.
2. Y prif ddiwygiad yw bod Atodlen 6 ddiwygiedig yn cael ei mewnosod yn O.S. 2006/1226 (Cy.117) (rheoliad 2(3)).
3. Mae Atodlen 6 i O.S. 2006/1226 ar hyn o bryd yn darparu ar gyfer gorfodi testun diwygiedig Atodiad V i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 a fewnosodwyd yn y rheoliad hwnnw gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 722/2007 (OJ Rhif L164, 26.6.2007, t.7).
4. Mae Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 357/2008 (OJ Rhif L111,23.4.2008, p.3) wedi diwygio'r testun diwygiedig hwnnw drwy roi yn lle'r ddarpariaeth sy'n dynodi asgwrn cefn anifeiliaid buchol dros 24 mis oed adeg eu cigydda fel deunydd risg penodedig ddarpariaeth sy'n dynodi asgwrn cefn anifeiliaid buchol dros 30 mis oed adeg eu cigydda fel deunydd risg penodedig.
5. Mae'r Atodlen 6 ddiwygiedig a fewnosodir yn O.S. 2006/1226 gan y Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi Atodiad V i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 fel y'i diwygiwyd bellach gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 357/2008. Mae paragraff 20 o Atodlen 6 yn darparu ar gyfer trefniadau trosiannol mewn perthynas â danfon cig sy'n dod o anifeiliaid buchol sy'n 30 mis oed neu lai adeg eu cigydda i siopau cigyddion ac i safleoedd torri.
6. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd–
(a) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i baragraff(1) o reoliad 2 (dehongli) o O.S. 2006/1226 yng ngoleuni testun diwygiedig Atodiad V i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 y cyfeirir ato ym mharagraff 4 uchod a'r Atodlen 6 ddiwygiedig i O.S. 2006/1226 y cyfeirir ati ym mharagraff 5 uchod (rheoliad 2(2));
(b) yn diweddaru geiriad paragraff 2 o Atodlen 7 i O.S. 2006/1226 i ddarparu ar gyfer gorfodi pwynt 10.3 o Atodiad V i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 (gwaharddiad ar allforio y tu allan i'r Gymuned bennau a chig ffres gwartheg, defaid a geifr sy'n cynnwys deunydd risg penodedig (rheoliad 2(4)); ac
(c) yn dirymu Rheoliadau Esgyrn Cig Eidion 1997 (O.S. 1997/2959), sy'n rhychwantu Prydain Fawr yn gyfan, i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru (rheoliad 3).
7. Paratowyd asesiad effaith o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes ac ar y sector gwirfoddol ac mae copïau ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11 Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
1972 p.68. Back [1]
O.S. 2003/1246. Yn rhinwedd adran162 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy'r dynodiad hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [2]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch nifer ac enwau Paneli Gwyddonol parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3). Back [3]
O.S. 2006/1226 (Cy.117), a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/2244 (Cy.176). Back [4]
OJ Rhif L164, 26.6.2007, t.7. Back [5]
OJ Rhif L 111, 23.4.2008, t.3. Back [6]
O.S. 1997/2959. Back [7]
OJ Rhif L 204, 11.8.2000, t.1. Back [8]
Cyhoeddir Colour Index gan The Society of Dyers and Colourists yn Perkin House, 82 Grattan Road, Bradford, West Yorkshire BD1 2JB. Back [9]
OJ Rhif L 99, 20.4.1996, t.14. Back [10]
OJ Rhif L337, 22.12.2005, t.25. Back [11]
OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach wedi'i osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12). Back [12]
OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 bellach wedi'i osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22) y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.26). Back [13]
OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 bellach wedi'i osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1) y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.29). Back [14]
OJ Rhif L271, 15.10.2005, t.17. Back [15]
OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27. Back [16]
OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.60. Back [17]
OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.83. Back [18]
OJ Rhif L363, 20.12.2006, t.1. Back [19]
OJ Rhif L164, 26.6.2007, t.7. Back [20]
OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.8. Back [21]
OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.12. Back [22]
OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.19. Back [23]
OJ Rhif L281, 25.10.2007, t.21. Back [24]