Gwnaed
9 Ebrill 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Ebrill 2008
Yn dod i rym
6 Mai 2008
Yn unol â'r adran honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny sy'n ymddangos i'r Gweinidogion fod a wnelont â'r Rheoliadau a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Mai 2008.
2.–(1) Diwygir Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006(3) fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 3, yng Ngrwp IV o Ran II ac yng Ngrwp IV o Ran III–
(a) yn y golofn gyntaf, o dan "Y Crach Cyffredin (rhywogaeth Streptomyces)" yn lle "chwarter" rhodder "thraean"; a
(b) yn yr ail golofn, yn lle'r ffigur gyferbyn â "Y Crach Cyffredin (rhywogaeth Streptomyces )" rhodder "5.0%".
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Ebrill 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2929 (Cy. 264)) fel ag i ddiwygio'r goddefiannau ar gyfer y Crach Cyffredin (rhywogaeth Streptomyces) fel a ganlyn–
(a) cynyddu'r goddefiant unigol ar datws hadyd cyn-sylfaenol o ddosbarth cyn-sylfaenol 1, cyn-sylfaenol 2, cyn-sylfaenol 3 neu cyn-sylfaenol 4 ac ar datws hadyd sylfaenol i 5%; a
(b) cynyddu cyfran yr arwynebedd a eill gael ei effeithio o chwarter i draean.
Yn rhinwedd O.S. 1978/272, O.S. 1999/672 a Deddf Llywodraeth Cymru 2006; mae'r swyddogaethau bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru. Back [1]
1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan adran 4(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68) a pharagraff 5(1), (2) a (3) o Atodlen 4 iddi, O.S. 1977/1112, ac adran 2 o Ddeddf Amaeth 1986 (p.49); gweler adran 38(1) am ddiffiniad o "the Minister". Back [2]
O.S. 2006/2929 (Cy. 264). Back [3]