Gwnaed
7 Ebrill 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Ebrill 2008
Yn dod i rym
30 Ebrill 2008
Trwyddedu canolfannau semen buchol a chymeradwyo anifeiliaid buchol
Dull gweithredu canolfan semen buchol a chasglu mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 10 o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), a chyda chymeradwyaeth y Trysorlys; a thrwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos yn hwylus i Weinidogion Cymru i gyfeiriadau at offerynnau y Gymuned Ewropeaidd (CE) y cyfeirir atynt yn rheoliad 2(1) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 30 Ebrill 2008.
2.–(1) Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr "anifail ymlid" ("teaser animal") yw anifail buchol a ddefnyddir fel cyfrwng cymorth i gasglu semen;
ystyr "arolygydd" ("inspector") yw person a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 10(4) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984;
mae "buchol" ("bovine") yn cynnwys y rhywogaeth Bubalus bubalis a Bison bison;
mae i'r term "canolfan gasglu CE" ("EC collection centre") yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(b)(i);
mae i'r term "canolfan gasglu ddomestig" ("domestic collection centre") yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(b)(ii);
mae i'r term "canolfan gwarantîn CE" ("EC quarantine centre") yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(a);
ystyr "canolfan semen buchol" ("bovine semen centre") yw mangre sydd wedi ei thrwyddedu o dan reoliad 4;
mae i'r term "canolfan storio CE" ("EC storage centre") yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(c)(i);
mae i'r term "canolfan storio ddomestig" ("domestic storage centre") yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(c)(ii);
ystyr "corsen" ("straw") yw cynhwysydd a ddefnyddir i gynnwys un dogn o semen;
ystyr "Cyfarwyddeb 64/432/EEC" ("Directive 64/432/EEC") yw Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC ar broblemau iechyd anifeiliaid sy'n effeithio ar y fasnach ryng-Gymunedol mewn anifeiliaid buchol ac anifeiliaid o deulu'r mochyn(4), fel y diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno o dro i dro;
ystyr "y Gyfarwyddeb" ("the Directive") yw Cyfarwyddeb y Cyngor 88/407/EEC sy'n gosod y gofynion ynghylch iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i'r fasnach ryng-Gymunedol mewn semen anifeiliaid domestig o'r rhywogaeth fuchol ac mewnforion ohono(5), fel y'i diwygiwyd o dro i dro;
ystyr "mangre sydd heb ei thrwyddedu" ("unlicensed premises") yw mangre nad oes ganddi drwydded o dan reoliad 4;
ystyr "mam" ("dam"), yn achos anifeiliaid buchol sy'n deillio o drosglwyddo embryonau, yw derbynnydd yr embryo;
ystyr "milfeddyg" ("veterinary surgeon") yw milfeddyg neu ymarferydd milfeddygol sydd wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Milfeddygon 1966(6);
mae i "milfeddyg y ganolfan" ("the centre veterinarian") yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 5(b);
ystyr "prosesu" ("processing") yw un neu ragor o'r canlynol-
gwanhau (ac eithrio wrth gasglu semen neu'n union ar ôl gwneud hynny),
ychwanegu unrhyw sylwedd gyda'r bwriad o estyn bywyd naturiol y semen (ac eithrio wrth gasglu semen neu'n union ar ôl gwneud hynny),
ychwanegu unrhyw wrthfiotig,
pacio i mewn i gorsennau neu gynwysyddion priodol eraill, a
rhewi;
ystyr "rheoliadau adnabod gwartheg" ("cattle identification regulations") yw–
Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007(7); neu
Rheoliad y Cyngor 1760/2000, fel y'i diwygiwyd o dro i dro (yn achos anifeiliaid buchol a anwyd y tu allan i Gymru);
ystyr "Rheoliad y Cyngor 1760/2000" ("Council Regulation 1760/2000") yw Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac ynghylch labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion(8) ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97(9), fel y'i diwygiwyd o dro i dro;
ystyr "semen ffres" ("fresh semen") yw semen nad yw wedi'i rewi.
(2) Mae i ymadroddion nad ydynt wedi'u diffinio yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny at ddibenion y Gyfarwyddeb.
3.–(1) Ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys–
(a) pan fo semen yn cael ei gasglu er mwyn ffrwythloni anifail buchol yn artiffisial â semen ffres;
(b) o ran yr anifail buchol y mae'r semen yn cael ei gasglu oddi wrtho–
(i) pan na fo Gorchymyn a wnaed o dan adrannau 6(c), 8, 17, 23, 25, 26 neu 29 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(10) yn effeithio arno adeg casglu'r semen; neu,
(ii) pan fo Gorchymyn o'r fath yn effeithio arno, ond bod defnyddio ei semen wedi'i awdurdodi gan Weinidogion Cymru; ac
(c) adeg ffrwythloni'r anifail buchol–
(i) pan fo'n perthyn i'r un perchennog ac yn yr un fuches â'r anifail buchol y casglwyd y semen oddi wrtho; a
(ii) pan fo'n cael ei gadw ar yr un fangre â'r anifail buchol hwnnw.
(2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo semen yn cael ei gasglu er mwyn–
(a) asesu pa mor addas yw anifail buchol i'w ddefnyddio at ddibenion bridio;
(b) diagnosio heintiad neu glefyd mewn anifail buchol; neu
(c) addysg neu ymchwil,
ar yr amod na chaiff y semen a gesglir ei ddefnyddio ar gyfer ffrwythloni artiffisial ac nad yw'n destun masnach ryng-Gymunedol.
(3) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ymchwil a awdurdodir o dan Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986(11).
(4) Nid yw'r Rheoliadau hyn, i'r graddau y maent yn gymwys i semen a fwriedir ar gyfer masnach ryng-Gymunedol, yn gymwys i semen a gasglwyd ar neu cyn 31 Rhagfyr 1989.
4. Caiff Gweinidogion Cymru drwyddedu mangre fel a ganlyn–
(a) os yw'n cydymffurfio â Rhan 1 o Atodlen 1, fel mangre ar gyfer rhoi anifeiliaid buchol mewn cwarantîn ("canolfan gwarantîn CE");
(b) os yw'n cydymffurfio â Rhan 2 o Atodlen 1, naill ai fel–
(i) mangre i gasglu, prosesu a rhoi mewn cwarantîn semen a fwriedir ar gyfer masnach ryng-Gymunedol ("canolfan gasglu CE"); neu
(ii) mangre i gasglu, prosesu a rhoi mewn cwarantîn semen nas bwriedir ar gyfer masnach ryng-Gymunedol ("canolfan gasglu ddomestig"); neu
(c) os yw'n cydymffurfio â Rhan 3 o Atodlen 1, naill ai fel–
(i) mangre i storio semen a fwriedir ar gyfer masnach ryng-Gymunedol ("canolfan storio CE"); neu
(ii) mangre i storio semen nas bwriedir ar gyfer masnach ryng-Gymunedol ("canolfan storio ddomestig").
5. Rhaid i gais am drwydded i weithredu canolfan semen buchol–
(a) cael ei gyflwyno mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru;
(b) cael ei lofnodi gan y ceisydd am y drwydded a chan y milfeddyg a fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r ganolfan yn filfeddygol ("milfeddyg y ganolfan");
(c) nodi'r fangre y gwneir cais ar ei chyfer; ac
(ch) nodi'r drwydded y gwneir cais amdani.
6.–(1) Rhaid i drwydded canolfan semen buchol a roddir o dan reoliad 4 nodi–
(a) cyfeiriad y ganolfan;
(b) rhif trwydded y ganolfan;
(c) deiliad y drwydded;
(ch) milfeddyg y ganolfan;
(d) y math o drwydded a roddir; ac
(dd) yr amodau y mae'r drwydded yn ddarostyngedig iddynt.
(2) Rhaid i drwydded fod mewn ysgrifen a chaniateir ei gwneud yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sy'n angenrheidiol–
(a) i sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau'r Rheoliadau hyn; neu
(b) i ddiogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid.
7.–(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi cymeradwyaeth i anifail buchol gael ei ddefnyddio mewn canolfan gasglu CE, canolfan gasglu ddomestig, neu mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu os caiff yr anifail hwnnw ganlyniad negyddol–
(a) i'r profion a nodir yn Atodlen 2, paragraff 2(1)(a) i (d) cyn iddo fynd i mewn i ganolfan gwarantîn CE; a
(b) i'r profion a nodir yn Atodlen 2, paragraff 3(1)(a) i (ch) a pharagraff 4(1)(a) ar ôl iddo fynd i mewn i ganolfan gwarantîn CE.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo anifail buchol er gwaethaf canlyniad cadarnhaol i'r profion serolegol a nodir yn Atodlen 2, paragraff 2(1)(d)(ii) neu yn Atodlen 2, paragraff 4(1)(b) neu yn y naill a'r llall.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru roi cymeradwyaeth hefyd i anifail gael ei ddefnyddio mewn canolfan gasglu ddomestig, neu mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu, os yw'r anifail hwnnw wedi cael canlyniad negyddol i'r profion a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 8, paragraffau 2(a) i (c).
8. Rhaid i unrhyw gais am gymeradwyo anifail buchol er mwyn casglu ei semen, neu ei ddefnyddio fel anifail ymlid, gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru gan neu ar ran ei berchennog a rhaid i'r cais hwnnw–
(a) nodi enw a brid yr anifail buchol;
(b) nodi'r rhif y mae modd ei adnabod drwyddo yn unol â'r rheoliadau adnabod gwartheg; ac
(c) cael ei gyflwyno mewn ysgrifen a'i lofnodi gan neu ar ran y perchennog.
9.–(1) Rhaid i gymeradwyaeth ar gyfer anifail buchol nodi–
(a) enw a brid yr anifail buchol;
(b) y rhif y mae modd ei adnabod drwyddo yn unol â'r rheoliadau adnabod gwartheg; ac
(c) unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.
(2) Rhaid i gymeradwyaeth fod mewn ysgrifen a chaniateir ei gwneud yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sy'n angenrheidiol–
(a) i sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau'r Rheoliadau hyn; neu
(b) i ddiogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid.
10.–(1) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo defnyddio anifail buchol i gasglu ei semen, neu ei ddefnyddio fel anifail ymlid, mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu am gyfnod nad yw'n hwy na 3 mis.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru adnewyddu cymeradwyaeth o dan baragraff (1) am gyfnodau dilynol o hyd at 3 mis–
(a) os byddant yn cael y cais am adnewyddu'r gymeradwyaeth mewn ysgrifen, a'r cais hwnnw wedi'i lofnodi gan neu ar ran y perchennog, o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad y mae'r gymeradwyaeth i fod i ddirwyn i ben; a
(b) os yw'r profion y cyfeirir atynt yn Rhan 2 o Atodlen 8, paragraff 2(a) i (c) wedi'u cynnal eto, gyda chanlyniadau negyddol, ar yr anifail buchol y mae'r gymeradwyaeth yn ymwneud ag ef, heb fod yn hwy na 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad y mae'r gymeradwyaeth i fod i ddirwyn i ben.
(3) Os na fydd canlyniadau unrhyw un o'r profion a gynhaliwyd ar anifail buchol o dan baragraff (2)(b) ar gael tan ar ôl y dyddiad y mae ei gymeradwyaeth i fod i ddirwyn i ben, caiff Gweinidogion Cymru roi cymeradwyaeth dros dro.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cymeradwyaeth dros dro o dan baragraff (3), ni chaiff neb fasnachu unrhyw semen sydd–
(a) wedi ei gasglu o anifail buchol; neu
(b) wedi ei brosesu ar ôl ei gasglu felly,
hyd oni chadarnheir bod canlyniadau'r profion ar yr anifail buchol neu'r anifail ymlid a ddefnyddiwyd i gasglu'r semen hwnnw yn rhai negyddol.
11.–(1) Ni chaiff neb, heb awdurdod cyfreithlon neu esgus rhesymol, fynd i mewn i ganolfan semen buchol heb awdurdod milfeddyg y ganolfan.
(2) Rhaid i berson sydd wedi'i awdurdodi gan filfeddyg y ganolfan i fynd i mewn i ganolfan semen buchol gydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir gan filfeddyg y ganolfan i sicrhau cydymffurfedd â'r Rheoliadau hyn.
(3) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau na fydd neb sydd heb ei awdurdodi yn mynd i mewn i'r ganolfan semen buchol.
12.–(1) Ni chaiff neb fynd ag anifail nad yw'n anifail buchol i mewn i ganolfan semen buchol heb awdurdodiad pendant milfeddyg y ganolfan.
(2) Caiff milfeddyg y ganolfan awdurdodi bod anifeiliaid domestig o rywogaeth nad yw'n rhywogaeth fuchol yn cael eu derbyn i ganolfan semen buchol ar yr amod–
(a) eu bod yn angenrheidiol i weithrediad y ganolfan;
(b) nad ydynt yn peri unrhyw risg heintio i'r anifeiliaid buchol hynny y mae eu semen i'w gasglu; ac
(c) eu bod yn bodloni'r amodau a osodir gan filfeddyg y ganolfan.
13.–(1) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i ganolfan storio CE na chanolfan storio ddomestig
(2) Rhaid i filfeddyg y ganolfan neu weithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu wneud cofnod o'r canlynol ar gyfer pob anifail buchol a symudir i mewn i'r ganolfan neu'r fangre neu allan o'r naill le neu'r llall–
(a) ei frid;
(b) ei ddyddiad geni;
(c) y rhif y mae modd ei adnabod drwyddo yn unol â'r rheoliadau adnabod gwartheg;
(ch) pob brechiad a roddir iddo;
(d) y profion y mae wedi eu cael ar gyfer clefydau a chanlyniadau'r profion hynny; ac
(dd) unrhyw awgrym o glefyd y gall fod arno.
(3) Rhaid i filfeddyg y ganolfan neu weithredydd y fangre sydd heb ei thrwyddedu sicrhau bod y cofnodion hyn yn cael eu cadw am o leiaf ddwy flynedd o'r dyddiad y mae'r anifail buchol yn gadael y ganolfan neu'r fangre, neu'n marw yn y ganolfan neu'r fangre.
14.–(1) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i ganolfannau cwarantîn CE.
(2) Pryd bynnag y bydd semen yn cael ei symud o ganolfan semen buchol neu iddi, neu'n cael ei ddistrywio, rhaid i filfeddyg y ganolfan gofnodi–
(a) y rhif y mae modd adnabod drwyddo yr anifail buchol sy'n rhoi'r semen yn unol â'r rheoliadau adnabod gwartheg;
(b) ei statws iechyd;
(c) nifer y dognau semen;
(ch) y rhifau ar y cynwysyddion y mae neu yr oedd y semen wedi'i gynnwys ynddynt (fel y bo'n gymwys);
(d) dyddiad cael, anfon neu ddistrywio'r semen (fel y bo'n gymwys);
(dd) y fangre, neu'r ganolfan semen buchol, yr anfonwyd y semen ohoni (os yw'n gymwys); ac
(e) y gyrchfan (os yw'n gymwys).
(3) Rhaid i weithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu gofnodi'r wybodaeth ym mharagraffau 2(a) i (e) yn achos semen a anfonwyd i ganolfan gasglu CE neu ganolfan gasglu ddomestig i'w brosesu.
(4) Rhaid i weithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu neu filfeddyg y ganolfan sicrhau bod dogfennau sy'n cynnwys yr wybodaeth ym mharagraffau 2(a) i (e) yn mynd gyda phob llwyth semen.
(5) Rhaid i weithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu neu filfeddyg y ganolfan sicrhau bod y cofnodion hyn yn cael eu cadw am o leiaf ddwy flynedd ar ôl anfon, cael neu ddistrywio'r semen.
15.–(1) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau–
(a) bod y ganolfan yn cael ei gweithredu'n unol â'r Rheoliadau hyn;
(b) y glynir wrth amodau'r drwydded y mae'r ganolfan yn gweithredu odani;
(c) bod safonau hylendid priodol yn cael eu cynnal yn y ganolfan i atal ymosodiad gan glefyd y gellir ei drosglwyddo gan semen; ac
(ch) bod bioddiogelwch y ganolfan yn cael ei barhau i atal ymosodiad glefyd y gellir ei drosglwyddo gan semen.
(2) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod staff yn y ganolfan yn dechnegol hyfedr a'u bod wedi cael hyfforddiant priodol mewn gweithdrefnau diheintio a thechnegau hylendid.
(3) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael eu hysbysu ar unwaith os bydd canlyniad unrhyw brawf a gynhelir ar anifail buchol yn y ganolfan i weld a oes arno unrhyw glefyd y mae'n rhaid cynnal prawf ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn yn dangos newid yn statws iechyd yr anifail buchol.
16.–(1) Mae dyletswyddau milfeddyg canolfan–
(a) canolfan gwarantîn CE wedi'u nodi yn Atodlen 2;
(b) canolfan gasglu CE wedi'u nodi yn Atodlen 3;
(c) canolfan storio CE wedi'u nodi yn Atodlen 4;
(ch) canolfan gasglu ddomestig wedi'u nodi yn Atodlen 5; a
(d) canolfan storio ddomestig wedi'u nodi yn Atodlen 6.
(2) Mae dyletswyddau gweithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu wedi nodi yn Atodlen 7.
17.–(1) Yr unig rai a gaiff ymgymryd â gwaith cymryd samplau gwaed i'w dadansoddi mewn labordy yw–
(a) milfeddyg canolfan;
(b) arolygydd sydd wedi cymhwyso fel milfeddyg; neu
(c) person sy'n bodloni'r amodau a nodir yn erthyglau 3(2)(a) neu 3(2)(b) o Orchymyn Milfeddygaeth (Samplu Gwaed) 1983(12) ac y mae'r person cymwysedig perthnasol ar ei gyfer, a ddisgrifir yn yr erthyglau hynny, yn filfeddyg canolfan neu'n arolygydd sydd wedi cymhwyso fel milfeddyg.
(2) Dim ond milfeddyg sydd wedi'i gymeradwyo gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw a gaiff brofi ar gyfer twbercwlosis buchol.
18. Rhaid i weithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu neu filfeddyg y ganolfan sicrhau bod profion labordy sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn yn cael eu cynnal gan labordy a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.
19. Ni chaiff neb gasglu semen oddi wrth anifail buchol i'w ddefnyddio at ddiben ffrwythloni artiffisial onid yw'r anifail buchol–
(a) wedi'i gymeradwyo at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru;
(b) wedi'i nodi'n unol â rheoliadau adnabod gwartheg;
(c) heb amlygu unrhyw arwyddion clinigol o glefyd ar y diwrnod y mae'r semen i'w gasglu;
(ch) heb ei frechu yn erbyn clwy'r traed a'r genau o fewn y 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad casglu;
(d) heb ei adael i serfio'n naturiol ers dyddiad y cais am ei gymeradwyo at ddibenion casglu semen; ac
(dd) (pan fo'i semen i'w gyflenwi fel semen ffres) wedi'i gadw mewn canolfan gasglu CE neu ganolfan gasglu ddomestig am gyfnod parhaus o 30 o ddiwrnodau o leiaf cyn y dyddiad y caiff y semen ei gasglu.
20.–(1) Ni chaiff neb gasglu semen oddi wrth anifail buchol ac eithrio–
(a) mewn canolfan gasglu CE;
(b) mewn canolfan gasglu ddomestig; neu
(c) mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu,
yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i'r cyfryw ganolfannau neu fangreoedd sydd heb eu trwyddedu fod–
(a) wedi bod yn rhydd rhag clwy'r traed a'r genau am o leiaf dri mis cyn casglu'r semen;
(b) wedi'u lleoli yng nghanol ardal ac iddi radiws o 10 cilometr lle na chafwyd unrhyw frigiad clwy'r traed a'r genau am y 30 niwrnod blaenorol o leiaf; ac
(c) wedi bod, am 30 niwrnod cyn casglu'r semen, yn rhydd rhag y clefydau buchol a restrir yn Atodiad E(I) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC.
21. Ni chaiff neb ddefnyddio anifail ymlid i fod yn gyfrwng cymorth i gasglu semen onid yw wedi'i gymeradwyo at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.
22.–(1) Ni chaiff neb fynd ag anifail buchol i mewn i–
(a) canolfan gwarantîn CE;
(b) canolfan gasglu CE; neu
(c) canolfan gasglu ddomestig;
heb awdurdodiad pendant milfeddyg y ganolfan.
(2) Ni chaiff milfeddyg y ganolfan awdurdodi anifail buchol i fynd i mewn i ganolfan gwarantîn CE onid oedd yr anifail hwnnw, cyn mynd i mewn i'r ganolfan, bob amser wedi perthyn i fuches–
(a) yn swyddogol rydd rhag twbercwlosis; a
(b) yn swyddogol rydd rhag brwselosis,
yn unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC.
(3) Ni chaiff milfeddyg y ganolfan awdurdodi anifail buchol i fynd i mewn i ganolfan gasglu CE oni chaiff gofynion Rhan 1 o Atodlen 8 eu bodloni.
(4) Ni chaiff milfeddyg y ganolfan awdurdodi anifail buchol i fynd i mewn i ganolfan gasglu ddomestig oni fydd gofynion Rhan 1 neu 2 o Atodlen 8 wedi'u bodloni.
(5) Ni chaiff gweithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu gasglu semen oddi wrth anifail buchol ar fangre sydd heb ei thrwyddedu oni fydd gofynion Rhan 1 neu 2 o Atodlen 8 wedi'u bodloni.
(6) Ni chaiff milfeddyg canolfan i ganolfan gasglu CE neu ganolfan gasglu ddomestig, na gweithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu, dderbyn anifeiliaid buchol oni bai, ar y dyddiad symud, fod y fangre y daethant ohoni–
(a) wedi'i lleoli yng nghanol ardal ac iddi radiws o 10 cilometr lle na chafwyd unrhyw frigiad clwy'r traed a'r genau yn ystod y 30 niwrnod blaenorol o leiaf;
(b) wedi bod, am y 3 mis blaenorol o leiaf, yn rhydd rhag clwy'r traed a'r genau a brwselosis; ac
(c) wedi bod, am y 30 niwrnod blaenorol o leiaf, yn rhydd rhag y clefydau buchol hynny a restrir yn Atodiad E(I) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC.
(7) Ni chaiff milfeddyg y ganolfan na gweithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu awdurdodi bod unrhyw anifail buchol sy'n amlygu unrhyw arwydd clinigol o glefyd ar ddiwrnod y derbyniad arfaethedig yn cael ei dderbyn.
23.–(1) Ni chaiff neb symud anifail buchol i ganolfan gasglu CE, canolfan gasglu ddomestig na mangre sydd heb ei thrwyddedu ac eithrio–
(a) mewn cyfrwng cludo sydd wedi'i lanhau a'i ddiheintio cyn cael ei ddefnyddio'n unol â Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003(13); a
(b) o dan amodau sy'n sicrhau na fydd yn dod i gyffyrddiad ag anifeiliaid fforchog yr ewin nad ydynt wedi'u hawdurdodi i ddod i mewn i'r ganolfan na'r fangre y cyrchir ati.
(2) Ni chaiff neb symud anifail buchol o un ganolfan gasglu i un mewn Aelod-wladwriaeth arall ac eithrio'n unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC.
24. Ni chaiff neb brosesu semen ac eithrio–
(a) mewn canolfan gasglu CE; neu
(b) mewn canolfan gasglu ddomestig.
25. Ni chaiff neb–
(a) defnyddio unrhyw offeryn (ac eithrio offeryn untro) sy'n dod i gyffyrddiad â semen neu â'r anifail sy'n ei roi wrth gasglu neu brosesu'r semen onid yw'r offeryn hwnnw wedi'i ddiheintio neu ei sterileiddio cyn iddo gael ei ddefnyddio; neu
(b) ailddefnyddio offeryn untro.
26. Ni chaiff neb storio na symud semen ac eithrio mewn cynhwysydd a ddefnyddir at y diben hwnnw yn unig ac sydd–
(a) wedi'i ddiheintio neu wedi'i sterileiddio cyn cael ei ddefnyddio; neu
(b) yn gynhwysydd untro nas defnyddiwyd o'r blaen.
27. Ni chaiff neb sy'n storio neu'n symud semen ganiatáu iddo ddod i gyffyrddiad â deunydd sy'n dod o anifeiliaid (gan gynnwys plasm cenhedlu arall) y mae ei statws iechyd yn is.
28.–(1) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i'r camau sy'n angenrheidiol i symud semen i ganolfan storio CE neu ganolfan storio ddomestig.
(2) Ni chaiff neb gyflenwi semen rhewedig na'i ddefnyddio at ddibenion ffrwythloni artiffisial onid yw wedi ei storio–
(a) mewn canolfan storio CE;
(b) mewn canolfan storio ddomestig; neu
(c) mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig ar fangre a gymeradwywyd gan yr awdurdod cymwys i storio semen buchol.
29. Ni chaiff neb gyflenwi na defnyddio semen at ddibenion ffrwythloni artiffisial os yw'n gwybod neu'n amau ei fod heb ei gasglu, heb ei brosesu neu heb ei storio'n unol â gofynion–
(a) y Rheoliadau hyn,
(b) cyfreithlon mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig; neu
(c) yn achos semen sy'n deillio o Aelod-wladwriaeth arall neu o drydedd wlad, y Gyfarwyddeb,
onid yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan Weinidogion Cymru.
30.–(1) Ni chaiff neb gyflenwi semen ar gyfer masnach ryng-Gymunedol oni bai–
(a) ei fod–
(i) wedi'i gasglu, ei brosesu a'i roi mewn cwarantîn mewn canolfan gasglu CE; a
(ii) wedi'i storio mewn canolfan storio CE; neu
(b) yn achos semen a gyflenwir o Aelod-wladwriaeth arall neu a fewnforir o drydedd wlad yn unol â'r Gyfarwyddeb, wedi ei storio mewn canolfan storio CE.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n cyflenwi semen ar gyfer masnach ryng-Gymunedol sicrhau bod y dystysgrif iechyd anifeiliaid y cyfeirir ati yn Erthyglau 3(d) a 6(1) o'r Gyfarwyddeb yn mynd gyda'r semen hwnnw.
31.–(1) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i weithredwyr mangreoedd sydd heb eu trwyddedu nac i filfeddygon canolfan, sy'n ddarostyngedig i reoliad 14.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n cyflenwi semen gadw cofnod o'r wybodaeth a bennir yn Atodlen 9 paragraff 1.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy'n cael semen gadw cofnod o'r wybodaeth a bennir yn Atodlen 9 paragraff 2.
(4) Rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio semen at ddibenion ffrwythloni artiffisial gadw cofnod o'r wybodaeth a bennir yn Atodlen 9 paragraff 3 mewn perthynas â phob corsen neu gynhwysydd arall a ddefnyddir.
(5) Rhaid i unrhyw berson sy'n distrywio semen gadw cofnod o'r wybodaeth a bennir yn Atodlen 9 paragraff 4 mewn perthynas â phob corsen neu gynhwysydd arall a ddistrywir.
(6) Rhaid i unrhyw berson y mae'r rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol iddo gadw cofnodion sicrhau bod y cofnodion yn cael eu gwneud yn gydamserol.
(7) Caiff cofnodion o'r fath gael eu cadw ar ffurf ysgrifenedig neu electronig a rhaid eu cadw am o leiaf ddwy flynedd ar ôl cyflenwi, derbyn, defnyddio, neu ddistrywio'r semen, fel y bo'n briodol.
32. Os yw Gweinidogion Cymru'n gwrthod rhoi cymeradwyaeth neu drwydded, neu'n ei rhoi'n ddarostyngedig i amodau, rhaid iddynt–
(a) rhoi eu rhesymau mewn ysgrifen; a
(b) esbonio hawl y ceisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o dan reoliad 36(1) i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.
33.–(1) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i geisydd am gymeradwyaeth i anifail buchol, deiliad cymeradwyaeth o'r fath neu berchennog anifail buchol ddarparuu'r cyfryw wybodaeth, a chaniatáu i'r anifail buchol gael y cyfryw brofion ac archwiliadau, sy'n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru i'w galluogi i benderfynu a ddylai'r gymeradwyaeth gael ei rhoi neu ei pharhau.
(2) Rhaid i berchennog blaenorol anifail buchol a gymeradwywyd hysbysu Gweinidogion Cymru o enw a chyfeiriad y perchennog newydd o fewn 21 o ddiwrnodau i drosglwyddo'r berchenogaeth iddo.
(3) Rhaid i berchennog anifail buchol a gymeradwywyd, o fewn 21 o ddiwrnodau i farwolaeth yr anifail hwnnw, hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod wedi marw, o dan ba amgylchiadau y digwyddodd hynny a chanlyniadau unrhyw archwiliad post mortem.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i geisydd am drwydded canolfan semen buchol, neu i ddeiliad trwydded o'r fath, ddarparu'r cyfryw wybodaeth, a chaniatáu'r cyfryw brofion ac archwiliadau, sy'n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru i'w galluogi i benderfynu a ddylai'r drwydded gael ei rhoi neu ei pharhau.
34.–(1) Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddiwygio cymeradwyaeth neu drwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn yn gyfan gwbl neu'n rhannol–
(a) os na chaiff unrhyw un o'r amodau y cafodd ei rhoi odanynt eu bodloni; neu
(b) os cânt eu bodloni na chydymffurfir â darpariaethau'r Rheoliadau hyn.
(2) O ran ataliad dros dro neu ddiwygiad–
(a) caniateir iddo gael effaith ar unwaith os bydd Gweinidogion Cymru yn barnu ei fod yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; a
(b) ni chaniateir iddo gael effaith, fel arall, am o leiaf 21 o ddiwrnodau.
(3) Rhaid i hysbysiad o'r ataliad dros dro neu'r diwygiad–
(a) bod yn ysgrifenedig;
(b) datgan i beth y mae'n gymwys;
(c) datgan pryd y daw'n weithredol;
(ch) rhoi'r rhesymau; a
(d) esbonio hawl y person a hysbyswyd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o dan reoliad 36(1) i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.
(4) Os na fydd yr ataliad dros dro neu'r diwygiad yn cael effaith ar unwaith a bod sylwadau'n cael eu cyflwyno o dan reoliad 36, ni fydd yn cael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru wedi dyfarnu'n derfynol ar yr apêl oni fyddant o'r farn ei bod yn angenrheidiol diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid i'r diwygiad neu'r ataliad dros dro gael effaith cyn hynny.
35.–(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu cymeradwyaeth neu drwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn yn gyfan gwbl neu'n rhannol–
(a) os ydynt wedi hysbysu o'u penderfyniad i atal dros dro'r gymeradwyaeth neu'r drwydded a bod y cyfnod ar gyfer apelio o dan reoliad 36 wedi dirwyn i ben;
(b) os ydynt wedi cadarnhau eu penderfyniad i'w hatal dros dro yn sgil apêl o dan reoliad 36;
(c) os ydynt wedi atal dros dro y gymeradwyaeth neu'r drwydded o'r blaen a bod methiant pellach â chydymffurfio â'r Rheoliadau hyn; neu
(ch) os ydynt wedi'u bodloni nad yw meddiannydd y fangre yn ei defnyddio mwyach at y diben y rhoddwyd trwydded ar ei gyfer.
(2) Rhaid i hysbysiad o ddirymiad–
(a) bod yn ysgrifenedig;
(b) datgan beth y mae'n gymwys iddo;
(c) datgan pryd y daw'n weithredol;
(ch) rhoi'r rhesymau; a
(d) yn achos dirymiad o dan baragraff (1)(c) neu(1)(ch), esbonio hawl y person sydd wedi'i hysbysu i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o dan reoliad 36(1) i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.
(3) Os bydd person yn cyflwyno sylwadau ysgrifenedig o dan reoliad 36(1), mae'r dirymiad yn parhau mewn grym tra'n aros am ganlyniad yr apêl.
36.–(1) Caiff person gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir i'r perwyl hwnnw gan Weinidogion Cymru ynghylch unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru ynghylch–
(a) rhoi, atal dros dro neu ddirymu cymeradwyaeth neu drwydded o dan y Rheoliadau hyn,
(b) yr amodau y mae cymeradwyaeth neu drwydded yn ddarostyngedig iddynt, neu
(c) unrhyw ffioedd a godir o dan y Rheoliadau hyn,
o fewn 21 o ddiwrnodau o'i hysbysu o'r penderfyniad.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno sylwadau ysgrifenedig hefyd i'r person penodedig ynghylch eu penderfyniad.
(3) Rhaid i'r person penodedig gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru roi i'r apelydd hysbysiad ysgrifenedig o'u dyfarniad terfynol a'r rhesymau drosto.
37.–(1) Os yw'n meddwl ei bod yn angenrheidiol i atal clefyd rhag lledaenu, caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i berchennog anifail buchol neu unrhyw un y mae'n credu ei fod yn berchennog ar yr anifail buchol neu'n meddu ar semen o'r anifail buchol hwnnw.
(2) Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1)–
(a) gwahardd defnyddio neu fasnachu semen a gasglwyd o'r anifail buchol;
(b) ei gwneud yn ofynnol i'r semen hwnnw gael ei ddistrywio; ac
(c) ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson arall y gall yr anifail buchol neu ei semen fod yn ei feddiant yn cael ei nodi.
(3) Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan y rheoliad hwn, caiff arolygydd fynd i mewn i unrhyw fangre lle mae'n gwybod neu'n amau bod y semen sy'n destun yr hysbysiad yn cael ei gadw a chaiff gymryd y semen i'w feddiant a threfnu i ofynion yr hysbysiad gael eu bodloni.
38.–(1) Os yw arolygydd yn gwybod neu'n amau bod semen wedi'i fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall yn groes i'r Gyfarwyddeb, caiff gyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (2) i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd fod y semen o dan ei ofal.
(2) Caiff yr hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw–
(a) dal ei afael ar semen yn y lle a bennir yn yr hysbysiad;
(b) distrywio semen yn unol â gofynion yr hysbysiad; neu
(c) cymryd unrhyw gamau eraill a bennir gan yr arolygydd.
(3) Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan y rheoliad hwn, caiff arolygydd fynd i mewn i unrhyw fangre lle mae'n gwybod neu'n amau bod semen sy'n destun yr hysbysiad yn cael ei gadw a chaiff gymryd y semen i'w feddiant a threfnu i ofynion yr hysbysiad i gael eu bodloni.
39. Ni chaiff neb ddarparu unrhyw wybodaeth na gwneud unrhyw ddatganiad er mwyn cael cymeradwyaeth neu drwydded o dan y Rheoliadau hyn os nad yw'n credu neu os nad oes ganddo sail resymol dros gredu bod yr wybodaeth honno neu'r datganiad hwnnw'n wir.
40. Rhaid i Weinidogion Cymru archwilio pob canolfan semen buchol o leiaf ddwywaith y flwyddyn.
41.–(1) Mae ffi'n daladwy i Weinidogion Cymru–
(a) adeg gwneud cais am gymeradwyo anifail buchol o dan reoliad 7 neu 10;
(b) adeg gwneud cais am drwydded canolfan semen buchol o dan reoliad 4;
(c) am brofi anifail buchol o dan Ran 2 o Atodlen 3 neu Ran 2 o Atodlen 5, adeg cael yr anfoneb; neu
(ch) am archwilio canolfan semen buchol o dan reoliad 40, adeg cael yr anfoneb.
(2) Mae'r ffi yn swm y canlynol–
(a) costau teithio'r swyddog milfeddygol ac unrhyw gynorthwyydd mewn perthynas â'r cais, prawf neu archwiliad perthnasol;
(b) costau'r swyddogion sy'n ystyried y cais, prawf neu archwiliad perthnasol; ac
(c) costau profion labordy ar anifeiliaid buchol.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi ar eu gwefan y ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo'r ffi.
42. Os bydd cais o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei dynnu'n ôl cyn bod dyfarniad arno, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu i'r ceisydd unrhyw gyfran o unrhyw ffi a dalwyd o dan reoliad 41 mewn cysylltiad â'r cais hwnnw ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda, gan roi sylw i unrhyw gostau a dynnir yn rhesymol ganddo mewn cysylltiad â'r cais.
43. Bydd trwyddedau a chymeradwyaethau a roddwyd o dan Reoliadau Ffrwythloni Gwartheg yn Artiffisial (Iechyd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) 1985(14) yn parhau i gael effaith fel petaent yn gymeradwyaethau neu drwyddedau a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn yn unol â'r tabl canlynol, ar yr amod, yn achos mangre, bod y fangre'n cydymffurfio, â darpariaethau'r Rheoliadau hyn, ac yn cael ei gweithredu'n unol â hwy–
Trwyddedau a chymeradwyaethau o dan Reoliadau Ffrwythloni Gwartheg yn Artiffisial (Iechyd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) 1985 | Y gymeradwyaeth gyfatebol o dan y Rheoliadau hyn |
---|---|
Cymeradwyo tarw i gael ei ddefnyddio (rheoliad 5) | Cymeradwyo anifail buchol (rheoliad 7) |
Trwydded brosesu (rheoliad 7(1)(a)) | Prosesu semen y bwriedir ei ddefnyddio ar gyfer masnach ryng-Gymunedol: trwydded canolfan gasglu CE (rheoliad 4 (b)(i); Prosesu semen na fwriedir ei ddefnyddio ar gyfer masnach ryng-Gymunedol: trwydded canolfan gasglu ddomestig (rheoliad 4(b)(ii)). |
Trwydded storio (rheoliad 7(1)(b)) | Trwydded canolfan storio CE (rheoliad 4(c)(i) neu drwydded canolfan storio ddomestig (rheoliad 4(c)(ii)). |
44. Yn Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial (Gwartheg a Moch) (Ffioedd) 1987(15)–
(a) yn rheoliad 2(1), hepgorer y diffiniad o "the principal cattle Regulations";
(b) yn rheoliad 3(1), yn lle'r geiriau "Subject to paragraph (1A) below, there" rhodder "There" a hepgorer y geiriau "the principal cattle Regulations and";
(c) hepgorer rheoliad 3(1)(a);
(ch) hepgorer rheoliad 3(1A);
(d) yn rheoliad 4, hepgorer y geiriau "the principal cattle Regulations or"; ac
(dd) hepgorer Atodlen 1.
45.–(1) Mae'r Rheoliadau yn Rhan 1 o Atodlen 10 wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.
(2) Mae'r Rheoliadau yn Rhan 2 o Atodlen 10 wedi'u dirymu.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
7 Ebrill 2008
Rheoliad 4
O ran y ganolfan–
(a) rhaid bod ganddi letyad i anifeiliaid buchol, gan gynnwys cyfleusterau ynysu nad oes unrhyw dramwyfa uniongyrchol rhyngddynt â'r lletyad arferol i anifeiliaid buchol;
(b) rhaid iddi gael ei hadeiladu fel bod modd i'r lletyad i anifeiliaid buchol gael ei lanhau a'i ddiheintio'n rhwydd; ac
(c) rhaid iddi gael ei hadeiladu neu ei hynysu yn y fath fodd ag i atal unrhyw gyffyrddiad â da byw sydd y tu allan iddi.
O ran y ganolfan–
(a) rhaid bod ganddi o leiaf–
lletyad i anifeiliaid buchol, gan gynnwys cyfleusterau ynysu nad oes unrhyw dramwyfa uniongyrchol rhyngddynt â'r lletyad arferol i anifeiliaid buchol;
cyfleusterau casglu semen, gan gynnwys ystafell ar wahân i lanhau a diheintio neu sterileiddio cyfarpar;
cyfleusterau lle gellir prosesu semen, a'r rheini'n gyfleusterau nad oes rhaid iddynt fod ar yr un safle; a
ystafell gwarantîn ar gyfer semen, nad oes rhaid iddi fod ar yr un safle;
(b) rhaid iddi gael ei hadeiladu neu ei hynysu yn y fath fodd ag i atal unrhyw gyffyrddiad â da byw sydd y tu allan i'r ganolfan;
(c) rhaid iddi gael ei hadeiladu fel bod modd i'r lletyad i anifeiliaid buchol a'r cyfleusterau ar gyfer casglu a phrosesu semen a'r ystafell gwarantîn ar gyfer semen gael eu glanhau a'u diheintio'n rhwydd; ac
(ch) rhaid iddi gael ei dylunio yn y fath fodd ag i wahanu'r lletyad i anifeiliaid buchol oddi wrth y cyfleusterau prosesu a bod y naill a'r llall yn cael eu gwahanu oddi wrth yr ystafell gwarantîn ar gyfer semen.
O ran y ganolfan–
(a) rhaid iddi gael ei hadeiladu neu ei hynysu yn y fath fodd ag i atal unrhyw gyffyrddiad â da byw sydd y tu allan iddi; a
(b) rhaid bod ganddi ystafell storio semen y gellir ei glanhau a'i diheintio'n rhwydd.
Rheoliad 7
1.–(1) Rhaid i filfeddyg y ganolfan wneud cofnod o unrhyw anifail buchol sydd i'w derbyn ac–
(a) nad oedd yn perthyn i fuches a oedd yn swyddogol rydd o lewcosis buchol ensootig yn unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC; neu
(b) a oedd yn epil i fam na chafodd ganlyniad negyddol, ar ôl i'r anifail buchol gael ei symud oddi wrthi, i brawf a gynhaliwyd yn unol ag Atodiad D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC.
(2) Rhaid i filfeddyg y ganolfan drosglwyddo copi o unrhyw gofnod a wnaed o dan is-baragraff (1) i filfeddyg canolfan y ganolfan gasglu y bydd yr anifeiliaid buchol yn symud iddi, heb fod yn hwyrach na dyddiad y symudiad hwnnw.
2.–(1) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod yr anifeiliaid buchol, o fewn yr 28 o ddiwrnodau cyn cyfnod y cwarantîn, yn cael y profion canlynol, gyda chanlyniadau negyddol yn achos pob un (ac eithrio'r prawf gwrthgorffynnau BVD/MD y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(d)(ii))–
(a) ar gyfer twbercwlosis buchol, prawf twbercwlin mewngroenol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a osodir yn Atodiad B i Gyfarwyddeb 64/432/EEC;
(b) ar gyfer brwselosis buchol, prawf serolegol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a osodir yn Atodiad C i Gyfarwyddeb 64/432/EEC;
(c) ar gyfer lewcosis buchol ensootig, prawf serolegol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a osodir yn Atodiad D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC;
(ch) ar gyfer IBR/IPV, prawf serolegol (firws cyfan) ar sampl gwaed os nad yw'r anifeiliaid buchol yn dod o fuches sy'n rhydd rhag IBR/IPV fel y'i diffinnir yn Erthygl 2.3.5.3. o'r Cod Iechyd Anifeiliaid Rhyngwladol(16); a
(d) ar gyfer BVD/MD,
(i) prawf ynysu firws neu brawf am antigenau firws, a
(ii) prawf serolegol i ganfod a oes gwrthgorffynnau yn bresennol neu beidio.
(2) Os cynhelir unrhyw un o'r profion a restrir ym mharagraffau 2(1)(a) i (d)(i) ar samplau a gesglir yn y ganolfan gwarantîn, ni chaniateir i gyfnod y cwarantîn ddechrau cyn y dyddiad samplu.
(3) Os bydd canlyniadau unrhyw un o'r profion a restrwyd ym mharagraffau 2(1)(a) i (d)(i) yn gadarnhaol, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod yr anifail buchol perthnasol yn cael ei symud ar unwaith o'r ganolfan gwarantîn.
(4) Yn achos cwarantîn ar gyfer grŵp, ni fydd cyfnod y cwarantîn yn dechrau i weddill yr anifeiliaid buchol hyd nes y bydd yr anifail buchol yr oedd canlyniad ei brawf yn gadarnhaol wedi'i symud oddi yno.
3.–(1) Yn ystod y cwarantîn, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod yr anifeiliaid buchol yn cael eu profi fel a ganlyn–
(a) ar gyfer brwselosis buchol, prawf serolegol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a ddisgrifir yn Atodiad C i Gyfarwyddeb 64/432/EEC, o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl iddynt gael eu derbyn i'r man cwarantîn, gyda chanlyniadau negyddol;
(b) ar gyfer IBR/IPV, prawf serolegol (firws cyfan) ar sampl gwaed, o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl iddynt gael eu derbyn i'r man cwarantîn, gyda chanlyniadau negyddol;
(c) ar gyfer Campylobacter fetus ssp. venerealis–
(i) yn achos anifeiliaid buchol sy'n llai na chwe mis oed neu sydd wedi'u cadw ers yr oedran hwnnw mewn grŵp o'r un rhyw cyn cael eu rhoi mewn cwarantîn, prawf unigol ar sampl o olchiadau gweiniau artiffisal neu sbesimen blaengroenol, o leiaf saith niwrnod ar ôl iddynt gael eu derbyn i'r man cwarantîn, gyda chanlyniadau negyddol;
(ii) yn achos anifeiliaid buchol gwryw sy'n chwe mis oed neu'n hŷn ac a allasant fod wedi bod mewn cyffyrddiad ag anifeiliaid buchol benyw cyn cyfnod y cwarantîn, prawf a gynhelir teirgwaith gyda chyfnod o wythnos rhwng pob prawf (caniateir i'r profion hyn ddechrau saith niwrnod ar ôl i'r anifeiliaid buchol gwryw gael eu derbyn i'r ganolfan gwarantîn CE) ar samplau o olchiadau gweiniau artiffisial neu sbesimen blaengroenol, gyda chanlyniadau negyddol;
(ch) ar gyfer Trichomonas foetus–
(i) yn achos anifeiliaid buchol sy'n llai na chwe mis oed neu wedi'u cadw ers yr oedran hwnnw mewn grŵp o'r un rhyw cyn cael eu rhoi mewn cwarantîn, prawf unigol ar sampl o sbesimen blaengroenol, o leiaf saith niwrnod ar ôl iddynt gael eu derbyn i'r man cwarantîn, gyda chanlyniadau negyddol;
(ii) yn achos anifeiliaid buchol sy'n chwe mis oed neu'n hŷn ac a allasant fod wedi bod mewn cyffyrddiad ag anifeiliaid buchol benyw cyn cyfnod y cwarantîn, prawf a gynhelir teirgwaith gyda chyfnod o wythnos rhwng pob prawf (caniateir i'r profion hyn ddechrau saith niwrnod ar ôl i'r anifeiliaid buchol gwryw gael eu derbyn i'r ganolfan gwarantîn CE) ar samplau o sbesimen blaengroenol, gyda chanlyniadau negyddol.
(2) Os caiff unrhyw anifail buchol ganlyniad cadarnhaol ar ôl prawf o dan is-baragraff (1), rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau–
(a) bod yr anifail hwnnw'n cael ei symud ar unwaith o'r ganolfan gwarantîn; a
(b) bod unrhyw anifail buchol arall o'r un grŵp yn cael ei ailbrofi i weld a oes arno'r clefyd perthnasol yn unol ag is-baragraff (1), a bod y cyfnod y gellir ei ailbrofi ar ei ôl yn dechrau ar y dyddiad y symudir yr anifail buchol cadarnhaol oddi yno.
4.–(1) Yn ystod y cwarantîn, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod yr anifeiliaid buchol yn cael eu profi ar gyfer BVD/MD fel a ganlyn–
(a) prawf ynysu firws neu brawf am antigenau firws o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl i'r anifeiliaid buchol gael eu derbyn i'r man cwarantîn, gyda chanlyniadau negyddol; a
(b) prawf serolegol i ganfod a oes gwrthgorffynnau yn bresennol neu beidio, o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl i'r anifeiliaid gael eu derbyn i'r man cwarantîn.
(2) Dim ond os bydd y prawf serolegol yn dangos nad oes unrhyw serodrosi mewn unrhyw anifail buchol yr oedd ganddo ganlyniad negyddol i'r prawf serolegol o dan baragraff 2(1)(d)(ii) ar gyfer gwrthgorffynnau BVD/MD y caiff milfeddyg y ganolfan ganiatáu i anifeiliaid buchol gael eu symud i ganolfan gasglu CE neu ganolfan gasglu ddomestig.
(3) Os bydd serodrosi'n digwydd mewn unrhyw anifail buchol yn y ganolfan gwarantîn, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau, o ran yr anifeiliaid buchol sy'n seronegyddol–
(a) eu bod yn aros mewn cwarantîn; a
(b) na fyddant yn cael eu hanfon i ganolfan casglu semen hyd nes y bydd o leiaf dair wythnos, na chafwyd unrhyw serodrosi pellach ynddynt, wedi mynd heibio.
(4) Caiff milfeddyg y ganolfan ganiatáu i anifeiliaid buchol sy'n serolegol gadarnhaol gael eu hanfon i ganolfan casglu semen ar ôl iddynt–
(a) cwblhau 28 o ddiwrnodau mewn cwarantîn; a
(b) cael eu profi'n unol ag is-baragraff (1).
5. Rhaid i filfeddyg y ganolfan wneud cofnod o'r anifeiliaid buchol hynny y mae canlyniad eu profion serolegol ym mharagraff 2(1)(d)(ii) neu 4(1)(b) am gwrthgorffynnau ar gyfer BVD/MD yn gadarnhaol a throsglwyddo copi o'r cofnod i filfeddyg canolfan y ganolfan gasglu y bydd yr anifeiliaid buchol yn symud iddi, a hynny heb fod yn hwyrach na dyddiad y symudiad hwnnw.
Rheoliad 16
1.–(1) Rhaid i filfeddyg y ganolfan wneud cofnod o anifail buchol a dderbyniwyd ac
(a) nad oedd yn perthyn i fuches a oedd yn swyddogol rydd o lewcosis buchol ensootig yn unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC; neu
(b) a oedd yn epil i fam na chafodd ganlyniad negyddol, ar ôl i'r anifail buchol gael ei symud oddi wrthi, i brawf a gynhaliwyd yn unol ag Atodiad D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC.
(2) Rhaid i filfeddyg y ganolfan drosglwyddo copi o unrhyw gofnod a wnaed o dan is-baragraff (1) i filfeddyg canolfan unrhyw ganolfan gasglu y caiff yr anifeiliaid buchol neu eu semen symud iddi, heb fod yn hwyrach na dyddiad y symudiad hwnnw.
2. Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau y caiff pob dogn unigol o semen a gesglir yn y ganolfan ei farcio'n glir mewn modd a fyddai'n ei gwneud yn bosibl i'r wybodaeth ganlynol gael ei chadarnhau'n rhwydd–
(a) y dyddiad y casglwyd y semen;
(b) p'un oedd yr anifail buchol a roes y semen o dan y rheoliadau adnabod gwartheg;
(c) brid yr anifail buchol a roes y semen; ac
(ch) rhif trwydded y ganolfan.
1.–(1) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod pob anifail buchol yn y ganolfan yn cael y profion canlynol o leiaf unwaith y flwyddyn–
(a) ar gyfer twbercwlosis buchol, prawf twbercwlin mewngroenol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a osodir yn Atodiad B i Gyfarwyddeb 64/432/EEC;
(b) ar gyfer brwselosis buchol, prawf serolegol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a ddisgrifir yn Atodiad C i Gyfarwyddeb 64/432/EEC;
(c) ar gyfer lewcosis buchol ensootig, prawf serolegol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a ddisgrifir yn Atodiad D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC;
(ch) ar gyfer IBR/IPV, prawf serolegol (firws cyfan) ar sampl gwaed; a
(d) ar gyfer BVD/MD, prawf gwrthgorffynnau serolegol a gynhelir ar anifeiliaid buchol seronegyddol yn unig.
(2) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod anifeiliaid buchol y mae semen yn cael ei gasglu oddi wrthynt, neu anifeiliaid buchol sydd mewn cyffyrddiad ag anifeiliaid buchol o'r fath, yn cael profion o leiaf unwaith y flwyddyn ar samplau o sbesimen blaengroenol ar gyfer–
(a) Campylobacter fetus ssp. venerealis; a
(b) Trichomonas foetus.
(3) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod anifeiliaid buchol y mae semen i'w gasglu oddi wrthynt ar ôl ysbaid o fwy na chwe mis yn cael eu profi heb fod yn hwy na 30 o ddiwrnodau cyn i'r casglu ailddechrau ar samplau o sbesimen blaengroenol ar gyfer–
(a) Campylobacter fetus ssp. venerealis; a
(b) Trichomonas foetus.
(4) Os daw anifail buchol yn serolegol gadarnhaol mewn prawf ar gyfer BVD/MD, rhaid i filfeddyg y ganolfan wneud y canlynol mewn cysylltiad â phob dogn o had bwrw'r anifail hwnnw a gasglwyd rhwng dyddiad y prawf negyddol diwethaf (neu'r dyddiad y cyrhaeddodd yr anifail y ganolfan os yw'r canlyniad cadarnhaol yn deillio o'r prawf cyntaf a gynhaliwyd yno) a dyddiad y prawf cadarnhaol–
(a) sicrhau, pan fo'r had bwrw'n cael ei ddal yn y ganolfan–
(i) ei fod yn cael ei waredu; neu
(ii) ddim ond yn cael ei ddefnyddio neu ei gyflenwi os cafodd ei brofi ar gyfer BVD/MD a bod y canlyniadau'n rhai negyddol; neu
(b) pan fo'r had bwrw wedi'i gyflenwi i unrhyw berson, hysbysu'r person hwnnw bod yr had bwrw'n ddarostyngedig i ofynion is-baragraff (4)(a).
(5) Rhaid i berson y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan is-baragraff (4)(b) sicrhau, os yw'r had bwrw'n cael ei ddal ganddo neu ar ei gyfer, fod yr had bwrw hwnnw'n cael ei waredu, ei ddefnyddio neu ei gyflenwi'n unol ag is-baragraff (4)(a).
(6) Pan fo had bwrw wedi'i gyflenwi o fan ac eithrio'r ganolfan i unrhyw berson a bod y person hwnnw'n wedyn yn cyflenwi'r had bwrw hwnnw i unrhyw berson arall, bydd is-baragraff (4)(b) yr un mor gymwys i'r person arall hwnnw.
2.–(1) Os bydd unrhyw rai o'r profion sy'n ofynnol o dan baragraff 1 yn gadarnhaol, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod yr anifail buchol yn cael ei ynysu ac na fydd y semen a gasglwyd oddi wrtho ers y prawf negyddol diwethaf (yn ddarostyngedig i baragraff 3) yn cael ei gyflenwi ar gyfer masnach ryng-Gymunedol.
(2) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod y semen a gasglwyd oddi wrth bob anifail buchol arall yn y ganolfan ers y dyddiad y cynhaliwyd y prawf cadarnhaol yn cael ei gadw mewn storfa ar wahân ac ni chaiff fod yn destun masnach ryng-Gymunedol hyd nes y bydd statws iechyd y ganolfan wedi'i adfer i'r lefel sy'n ofynnol gan y Gyfarwyddeb a'r Rheoliadau hyn.
3. Er gwaethaf paragraff 2(1), yn achos anifail buchol y mae canlyniad ei brawf ar gyfer BVD/MD yn gadarnhaol mewn prawf gwrthgorffynnau serolegol, caiff milfeddyg y ganolfan ganiatáu i semen o had bwrw y mae canlyniad ei brawf ar gyfer BVD/MD yn negyddol fod yn destun masnach ryng-Gymunedol.
1. Rhaid i feddiannydd y ganolfan sicrhau–
(a) bod semen a brosesir yn y ganolfan yn un o'r canlynol–
(i) semen a gasglwyd mewn canolfan gasglu CE;
(ii) semen a gasglwyd mewn canolfan gasglu a gymeradwywyd o dan y Gyfarwyddeb mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig; neu
(iii) semen sy'n dod o anifeiliaid buchol sydd wedi cael y profion a bennwyd yn Atodlen 2, paragraff 2(1);
(b) bod unrhyw semen y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (a)(iii)–
(i) wedi'i brosesu gan defnyddio cyfarpar ar wahân (y mae'n rhaid ei lanhau a'i sterileiddio ar ôl ei ddefnyddio) neu ar adeg wahanol i'r adeg y proseswyd semen a fwriadwyd ar gyfer masnach ryng-Gymunedol; a
(ii) wedi'i ddynodi â marc gwahanol i'r hyn sy'n ofynnol o dan is-baragraff (dd);
(c) na fydd semen sydd wedi'i gasglu, ei brosesu a'i roi mewn cwarantîn mewn canolfannau casglu CE ac sydd wedi'i fwriadu ar gyfer masnach ryng-Gymunedol yn dod i gyffyrddiad, nac yn cael ei storio yn yr un ystafell, ag unrhyw semen arall sy'n cael ei brosesu yn y ganolfan;
(ch) y ceir cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a ddefnyddir i brosesu semen, gan gynnwys ychwanegion a theneuwyr, o ffynonellau nad ydynt yn peri unrhyw risg i iechyd anifeiliaid neu o ffynonellau sy'n cael eu trin cyn cael eu defnyddio fel bod y risg hwnnw'n cael ei ddileu;
(d) na fydd yr asiant cryogenig a ddefnyddir wedi'i ddefnyddio o'r blaen ar gyfer cynhyrchion eraill sy'n dod o anifeiliaid;
(dd) bod pob dogn semen unigol yn cael ei selio, ei rifo a'i farcio'n glir fel bod modd cadarnhau'r wybodaeth ganlynol yn rhwydd–
(i) y dyddiad y casglwyd y semen;
(ii) p'un oedd yr anifail buchol a roes y semen o dan y rheoliadau adnabod gwartheg;
(iii) brid yr anifail buchol a roes y semen; a
(iv) rhif trwydded y ganolfan lle cafodd y semen ei gasglu (os yw'n gymwys); ac
(e) yr hysbysir Gweinidogion Cymru o'r fformat a ddefnyddir i nodi semen .
2. Ni chaiff milfeddyg y ganolfan dderbyn semen nas casglwyd yn y ganolfan i'w brosesu oni fydd y canlynol yn dod gydag ef–
(a) y dogfennau a bennir yn rheoliad 14(4); a
(b) os yw'r semen yn dod o fangre sydd heb ei thrwyddedu, y dogfennau a bennir yn Atodlen 7, paragraff 1(c).
3.–(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod y gwrthfiotigau streptomycin, penicillin, lincomycin a spectinomycin yn cael eu hychwanegu i greu'r crynodiadau canlynol yn y semen gwanhaëdig terfynol–
(a) dim llai na 500 μg streptomycin fesul ml o'r gwanhad terfynol,
(b) dim llai na 500 o Unedau Rhyngwladol o penicillin fesul ml o'r gwanhad terfynol,
(c) dim llai na 150 μg lincomycin fesul ml o'r gwanhad terfynol, ac
(ch) dim llai na 300 μg spectinomycin fesul ml o'r gwanhad terfynol.
(2) Caniateir i gyfuniad amgen o wrthfiotigau a chanddo effaith gyfatebol yn erbyn campylobacterau, leptospira a mycoplasmâu gael ei ddefnyddio.
4. Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau, yn union ar ôl ychwanegu gwrthfiotigau, fod y semen yn cael ei gadw ar dymheredd o 5°C o leiaf am gyfnod nad yw'n llai na 45 o funudau.
1.–(1) Cyn anfon am y tro cyntaf semen oddi wrth anifeiliaid buchol y nodwyd eu bod yn serolegol gadarnhaol ar gyfer BVD/MD, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod sampl o semen oddi wrth bob anifail buchol yn cael prawf ynysu firws neu brawf ELISA am antigenau firws ar gyfer y firws BVD/MD.
(2) Os ceir canlyniad cadarnhaol, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod yr anifail buchol yn cael ei symud o'r ganolfan gasglu a bod ei semen yn cael ei ddistrywio.
2. Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod y semen rhewedig yn cael ei gadw yn y cyfleusterau cwarantîn ar gyfer semen am o leiaf 30 o ddiwrnodau cyn iddo adael y ganolfan.
3. Rhaid i filfeddyg y ganolfan beidio â chaniatáu i unrhyw semen adael y ganolfan onid yw'r fangre y cafodd ei gasglu ohoni yn dal yn rhydd rhag–
(a) clwy'r traed a'r genau; a
(b) y clefydau buchol a restrir yn Atodiad E(I) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC
am 30 o ddiwrnodau ar ôl casglu'r semen neu, yn achos semen ffres, tan ddyddiad anfon y semen.
4. O ran anifail buchol–
(a) nad oedd yn perthyn i fuches a oedd yn swyddogol rydd rhag lewcosis buchol ensootig yn unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC; neu
(a) a oedd yn epil i fam na chafodd ganlyniad negyddol, ar ôl i'r anifail buchol gael ei symud oddi wrthi, i brawf a gynhaliwyd yn unol ag Atodiad D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC,
rhaid i filfeddyg y ganolfan beidio â chaniatáu i'w semen adael y ganolfan hyd nes y bydd yr anifail buchol wedi cyrraedd dwy flwydd oed a'i fod wedi cael canlyniad negyddol i brawf ar gyfer lewcosis buchol ensootig, mewn prawf serolegol a gynhaliwyd yn unol â'r weithdrefn a ddisgrifir yn Atodiad D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC.
5. O ran anifail buchol a frechwyd yn erbyn clwy'r traed a'r genau fwy na 30 o ddiwrnodau cyn casgliad, ond o fewn 12 mis i'r casgliad hwnnw, rhaid i filfeddyg y ganolfan beidio â chaniatáu i'w semen adael y ganolfan oni cheir canlyniad negyddol i 5% (gyda lleiafswm o bum corsen) o bob casgliad mewn prawf ynysu firws ar gyfer clwy'r traed a'r genau.
Rheoliad 16
1. Yn ddarostyngedig i baragraff 2, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau–
(a) mai dim ond semen a gaiff ei storio yn y ganolfan;
(b) bod semen ond yn cael ei storio yn y ganolfan os nad yw wedi dod i gyffyrddiad ag unrhyw semen arall ac–
(i) ei fod wedi'i gasglu a'i brosesu mewn canolfannau casglu CE, neu mewn canolfannau a gymeradwywyd fel arall i gasglu semen o dan y Gyfarwyddeb; neu
(ii) ei fod, ar ôl cael ei gasglu a'i brosesu mewn canolfannau casglu CE neu mewn canolfannau a gymeradwywyd fel arall i gasglu semen o dan y Gyfarwyddeb, wedi'i storio mewn canolfannau storio CE neu mewn canolfannau a gymeradwywyd fel arall i storio semen o dan y Gyfarwyddeb;
(c) na fydd yr asiant cryogenig a ddefnyddir wedi'i ddefnyddio o'r blaen ar gyfer cynhyrchion eraill sy'n dod o anifeiliaid; ac
(ch) bod pob dogn semen unigol yn cael ei selio, ei rifo a'i farcio'n glir fel bod modd cadarnhau'r wybodaeth ganlynol yn rhwydd–
(i) y dyddiad y casglwyd y semen;
(ii) p'un oedd yr anifail buchol a roes y semen o dan y rheoliadau adnabod gwartheg;
(iii) brid yr anifail buchol a roes y semen; a
(iv) rhif trwydded y ganolfan lle cafodd y semen ei gasglu (os yw'n gymwys).
2. Er gwaethaf paragraff 1(a), caiff milfeddyg y ganolfan storio embryonau dwys-rewedig yn y ganolfan os yw–
(a) y storio hwnnw wedi'i awdurdodi gan Weinidogion Cymru;
(b) yr embryonau yn bodloni gofynion Cyfarwyddeb y Cyngor 89/556/EEC ar yr amodau iechyd anifeiliaid sy'n rheoli'r fasnach ryng-Gymunedol mewn embryonau anifeiliaid domestig o'r rhywogaeth fuchol a mewnforio embryonau o'r fath o drydydd gwledydd(17);
(c) y ganolfan yn cydymffurfio â rheoliadau 13, 14 a 15 o Reoliadau Embryonau Buchol (Eu Casglu, Eu Cynhyrchu a'u Trosglwyddo) 1995(18); ac
(ch) yr embryonau yn cael eu storio mewn cynwysyddion storio ar wahân i'r rhai sy'n cynnwys semen.
Rheoliad 16
1.–(1) Rhaid i filfeddyg y ganolfan wneud cofnod o anifail buchol a dderbyniwyd ac–
(a) nad oedd yn perthyn i fuches a oedd yn swyddogol rydd rhag lewcosis buchol ensootig yn unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC; neu
(b) a oedd yn epil i fam na chafodd ganlyniad negyddol, ar ôl i'r anifail buchol gael ei symud oddi wrthi, i brawf a gynhaliwyd yn unol ag Atodlen D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC.
(2) Rhaid i filfeddyg y ganolfan drosglwyddo copi o unrhyw gofnod a wnaed o dan is-baragraff (1) i filfeddyg canolfan unrhyw ganolfan gasglu y caiff yr anifeiliaid buchol neu eu semen symud iddi, heb fod yn hwyrach na dyddiad y symudiad hwnnw.
2. Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau y caiff pob dogn unigol o semen a gesglir yn y ganolfan ei farcio'n glir fel bod modd cadarnhau'r wybodaeth ganlynol yn rhwydd–
(a) y dyddiad y casglwyd y semen;
(b) p'un oedd yr anifail buchol a roes y semen o dan y rheoliadau adnabod gwartheg;
(c) brid yr anifail buchol a roes y semen; ac
(ch) rhif trwydded y ganolfan.
1. Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod yr holl anifeiliaid buchol a gedwir mewn canolfan gasglu ddomestig yn cael y profion canlynol o leiaf unwaith y flwyddyn–
(a) ar gyfer twbercwlosis buchol, prawf twbercwlin mewngroenol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a osodir yn Atodiad B i Gyfarwyddeb 64/432/EEC;
(b) ar gyfer brwselosis buchol, prawf serolegol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a ddisgrifir yn Atodiad C i Gyfarwyddeb 64/432/EEC; ac
(c) ar gyfer lewcosis buchol ensootig, prawf serolegol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a ddisgrifir yn Atodiad D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC.
2. –Os bydd unrhyw rai o'r profion uchod yn gadarnhaol, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod yr anifail buchol yn cael ei ynysu a bod y semen a gasglwyd oddi wrtho ers y prawf negyddol diwethaf yn cael ei ddistrywio.
(2) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau–
(a) bod y semen, a gasglwyd oddi wrth bob anifail buchol arall yn y ganolfan ers y dyddiad y cynhaliwyd y prawf cadarnhaol, yn cael ei gadw mewn storfa ar wahân; a
(b) na chaiff y semen hwnnw ei ddefnyddio na'i gyflenwi hyd nes y bydd statws iechyd y ganolfan wedi'i adfer i'r lefel sy'n ofynnol gan y Gyfarwyddeb a'r Rheoliadau hyn.
1. Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau–
(a) bod semen sy'n cael ei brosesu yn y ganolfan yn semen a gasglwyd–
(i) mewn canolfan gasglu CE;
(ii) mewn canolfan gasglu a gymeradwywyd o dan y Gyfarwyddeb mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig neu Aelod-wladwriaeth arall;
(iii) mewn canolfan gasglu ddomestig;
(iv) mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu yn unol â'r Rheoliadau hyn; neu
(v) yn gyfreithlon mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig;
(b) nad yw'r semen yn cael ei storio gyda semen o statws iechyd gwahanol a bod modd nodi'r semen â marciau gwahanol i'r rhai a ddefnyddir mewn canolfannau casglu CE neu ganolfannau storio CE i semen ar gyfer fasnach ryng-Gymunedol;
(c) y ceir cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a ddefnyddir i brosesu semen, gan gynnwys ychwanegion neu deneuwyr, o ffynonellau nad ydynt yn peri unrhyw risg i iechyd anifeiliaid neu sy'n cael eu trin cyn cael eu defnyddio fel bod y risg hwnnw'n cael ei ddileu;
(ch) na fydd yr asiant cryogenig a ddefnyddir wedi'i ddefnyddio o'r blaen ar gyfer cynhyrchion eraill sy'n dod o anifeiliaid;
(d) bod pob dogn semen unigol yn cael ei selio, ei rifo a'i farcio'n glir fel bod modd cadarnhau'r wybodaeth ganlynol yn rhwydd–
(i) y dyddiad y casglwyd y semen;
(ii) p'un oedd yr anifail buchol a roes y semen o dan y rheoliadau adnabod gwartheg;
(iii) brid yr anifail buchol a roes y semen; a
(iv) rhif trwydded y ganolfan lle cafodd y semen ei gasglu (os yw'n gymwys).
2. Ni chaiff milfeddyg y ganolfan dderbyn i'w brosesu semen nas casglwyd yn y ganolfan ar gyfer prosesu oni fydd y canlynol yn dod gydag ef–
(a) y dogfennau a bennir yn rheoliad 14(4); a
(b) os yw'r semen yn dod o fangre sydd heb ei thrwyddedu, y dogfennau a bennir yn Atodlen 7, paragraff 1(c).
3. –Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod y gwrthfiotigau streptomycin, penicillin, lincomycin a spectinomycin yn cael eu hychwanegu i greu'r crynodiadau canlynol yn y semen gwanhaëdig terfynol–
(a) dim llai na 500 μg streptomycin fesul ml o'r gwanhad terfynol,
(b) dim llai na 500 o Unedau Rhyngwladol o penicillin fesul ml o'r gwanhad terfynol,
(c) dim llai na 150 μg lincomycin fesul ml o'r gwanhad terfynol, ac
(ch) dim llai na 300 μg spectinomycin fesul ml o'r gwanhad terfynol.
(2) Caniateir i gyfuniad amgen o wrthfiotigau a chanddo effaith gyfatebol yn erbyn campylobacterau, leptospira a mycoplasmâu gael ei ddefnyddio.
4. Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau, yn union ar ôl ychwanegu gwrthfiotigau, fod y semen yn cael ei gadw ar dymheredd o 5°C o leiaf am gyfnod nad yw'n llai na 45 o funudau.
1. Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod y semen rhewedig yn cael ei gadw yn yr uned cwarantîn semen am o leiaf 30 o ddiwrnodau cyn iddo adael y ganolfan.
2. Rhaid i filfeddyg y ganolfan beidio â chaniatáu i unrhyw semen adael y ganolfan gasglu ddomestig onid yw'r fangre y cafodd ei gasglu ohoni yn dal yn rhydd rhag–
(a) clwy'r traed a'r genau; a
(b) y clefydau buchol a restrir yn Atodiad E(I) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC
am 30 o ddiwrnodau ar ôl casglu neu, yn achos semen ffres, tan ddyddiad anfon y semen.
3. O ran anifail buchol–
(a) nad oedd yn perthyn i fuches a oedd yn swyddogol rydd rhag lewcosis buchol ensootig yn unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC; neu
(b) a oedd yn epil i fam na chafodd ganlyniad negyddol, ar ôl i'r anifail buchol gael ei symud oddi wrthi, i brawf a gynhaliwyd yn unol ag Atodiad D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC,
rhaid i filfeddyg y ganolfan beidio â chaniatáu i'w semen adael y ganolfan hyd nes y bydd yr anifail buchol wedi cyrraedd dwy flwydd oed a'i fod wedi cael canlyniad negyddol i brawf ar gyfer lewcosis buchol ensootig, mewn prawf serolegol a gynhaliwyd yn unol â'r weithdrefn a ddisgrifir yn Atodiad D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC.
4. O ran anifail buchol a frechwyd yn erbyn clwy'r traed a'r genau fwy na 30 o ddiwrnodau cyn casgliad, ond o fewn 12 mis i'r casgliad hwnnw, rhaid i filfeddyg y ganolfan beidio â chaniatáu i semen yr anifail buchol hwnnw adael y ganolfan oni chaiff 5% (gyda lleiafswm o bum corsen) o bob casgliad ganlyniad negyddol i brawf ynysu firws ar gyfer clwy'r traed a'r genau.
Rheoliad 16
1. Yn ddarostyngedig i baragraff 2, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau–
(a) mai dim ond semen a gaiff ei storio yn y ganolfan;
(b) bod semen ond yn cael ei storio yn y ganolfan os cafodd ei gasglu a'i brosesu–
(i) yn unol â'r Rheoliadau hyn
(ii) yn gyfreithlon mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig; neu
(iii) yn unol â'r Gyfarwyddeb;
(c) na fydd yr asiant cryogenig a ddefnyddir wedi'i ddefnyddio o'r blaen ar gyfer cynhyrchion eraill sy'n dod o anifeiliaid;
(ch) bod pob dogn semen unigol yn cael ei selio, ei rifo a'i farcio'n glir fel bod modd cadarnhau'r wybodaeth ganlynol yn rhwydd–
(i) y dyddiad y casglwyd y semen;
(ii) p'un oedd yr anifail buchol a roes y semen o dan y rheoliadau adnabod gwartheg;
(iii) brid yr anifail buchol a roes y semen; a
(iv) rhif trwydded y ganolfan lle cafodd y semen ei gasglu (os yw'n gymwys).
2. Er gwaethaf paragraff 1(a), caiff milfeddyg y ganolfan storio embryonau dwys-rewedig yn y ganolfan ar yr amod–
(a) bod y storio hwnnw wedi'i awdurdodi gan Weinidogion Cymru;
(b) bod y ganolfan yn bodloni gofynion rheoliadau 16, 17 a 18 o Reoliadau Embryonau Buchol (Eu Casglu, Eu Cynhyrchu a'u Trosglwyddo) 1995; ac
(c) bod yr embryonau yn cael eu storio mewn cynwysyddion storio ar wahân i'r rhai sy'n cynnwys semen.
Rheoliad 16
1. Rhaid i weithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu sicrhau–
(a) bod y lletyad lle mae'r anifeiliaid buchol, y mae semen i'w gasglu oddi wrthynt, yn cael eu cadw, a'r cyfleusterau casglu (os ydynt yn wahanol), wedi'u hadeiladu fel bod modd eu glanhau a'u diheintio'n rhwydd;
(b) bod Gweinidogion Cymru yn cael eu hysbysu ar unwaith os bydd canlyniad unrhyw brawf, a gynhelir ar anifail buchol sydd yn y fangre, ar gyfer unrhyw glefyd y mae'n rhaid cynnal prawf amdano o dan y Rheoliadau hyn, yn dangos newid yn statws iechyd yr anifail buchol;
(c) bod y semen a gasglwyd yn cael ei symud i ganolfan gasglu CE neu ganolfan gasglu ddomestig i'w brosesu, ynghyd â dogfennau sy'n ardystio–
(i) bod yr anifail buchol yn bodloni gofynion rheoliadau 19(c), 19(ch) a 19(d) ar ddiwrnod casglu'r semen.
(ii) bod yr anifail buchol yn bodloni gofynion Rhannau 1 neu 2 o Atodlen 8;
(iii) bod y fangre sydd heb ei thrwyddedu yn bodloni'r gofynion yn rheoliad 20(2); a
(iv) bod y fangre y daeth yr anifail buchol ohoni yn bodloni'r gofynion yn rheoliad 22(6).
2.–(1) Rhaid i weithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu wneud cofnod o anifail buchol sydd i'w dderbyn ac–
(a) nad oedd yn perthyn i fuches a oedd yn swyddogol rydd rhag lewcosis buchol ensootig yn unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC; neu
(b) a oedd yn epil i fam na chafodd ganlyniad negyddol, ar ôl i'r anifail buchol gael ei symud oddi wrthi, i brawf a gynhaliwyd yn unol ag Atodlen D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC.
(2) Rhaid i weithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu drosglwyddo copi o unrhyw gofnod a wneir o dan is-baragraff (1) i filfeddyg canolfan y ganolfan gasglu y mae semen yr anifail buchol yn cael ei symud iddi i'w brosesu, a hynny heb fod yn hwyrach na dyddiad y symudiad hwnnw.
Rheoliad 7
Mae'r anifeiliaid buchol–
(a) wedi cwblhau 28 o ddiwrnodau cwarantîn mewn–
canolfan gwarantîn CE; neu
canolfan gwarantîn a gymeradwywyd yn unol â pharagraff 1(a) o Bennod 1 Atodiad B i'r Gyfarwyddeb gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall neu ran arall o'r Deyrnas Unedig,
lle nad oedd ond anifeiliaid fforchog yr ewin eraill, yr oedd eu statws iechyd o leiaf yr un fath, yn bresennol; neu
(b) wedi cael y profion y cyfeiriwyd atynt yn Rhan 2 o Atodlen 3 yn ystod y 12 mis blaenorol ac wedi'u cadw mewn–
canolfan gasglu CE arall, neu
canolfan casglu semen a awdurdodwyd o dan y Gyfarwyddeb yn unol â pharagraff 5 o Bennod 1 Atodiad B i'r Gyfarwyddeb, yn achos symud anifail buchol sy'n cael ei gadw mewn canolfan casglu semen a awdurdodwyd o dan y Gyfarwyddeb mewn Aelod-wladwriaeth arall neu ran arall o'r Deyrnas Unedig.
1. Yr oedd yr anifeiliaid buchol yn perthyn i fuches–
(a) a oedd yn swyddogol rydd rhag twbercwlosis yn unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC a rhaid i'r fuches beidio â chynnwys unrhyw anifeiliaid buchol sydd wedi dioddef gan adwaith cadarnhaol i brawf croen twbercwlin a gynhaliwyd yn unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC neu yr oedd canlyniad y prawf hwnnw arnynt yn amhendant; a
(b) yn swyddogol rydd rhag brwselosis yn unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC.
2. Mae'r anifeiliaid buchol wedi cael y profion canlynol yn ystod yr 28 o ddiwrnodau cyn dyddiad eu derbyn i ganolfan gasglu ddomestig neu i fangre sydd heb ei thrwyddedu, gyda chanlyniadau negyddol–
(a) ar gyfer twbercwlosis buchol, prawf twbercwlin mewngroenol a gynhaliwyd yn unol â'r weithdrefn a osodir yn Atodiad B i Gyfarwyddeb 64/432/EEC;
(b) ar gyfer brwselosis buchol, prawf serolegol a gynhaliwyd yn unol â'r weithdrefn a ddisgrifir yn Atodiad C i Gyfarwyddeb 64/432/EEC; ac
(c) ar gyfer lewcosis buchol ensootig, prawf serolegol a gynhaliwyd yn unol â'r weithdrefn a osodir yn Atodiad D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC;
3. Fel dewis arall yn lle'r drefn ym mharagraffau 1 a 2, mae'r anifeiliaid buchol wedi'u cadw mewn canolfan gasglu ddomestig ac wedi cael y profion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2 yn ystod y 12 mis blaenorol gyda chanlyniadau negyddol.
Rheoliad 31
1. Yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn rheoliad 31(2) yw–
(a) enw a chyfeiriad y person y cyflenwir y semen iddo;
(b) y dyddiad y cafodd y semen ei anfon, a dull ei anfon;
(c) enw'r anifail buchol a roes y semen a ph'un ydoedd o dan y rheoliadau adnabod gwartheg;
(ch) nifer y corsennau neu'r cynwysyddion eraill a gyflenwyd a'u cod adnabod.
2. Yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn rheoliad 31(3) yw–
(a) enw a chyfeiriad y person a gyflenwodd y semen;
(b) y dyddiad y cafwyd y semen;
(c) enw'r anifail buchol a roes y semen a ph'un ydoedd o dan y rheoliadau adnabod gwartheg;
(ch) nifer y corsennau neu'r cynwysyddion eraill a gyflenwyd a'r cod adnabod a ddyrannwyd i bob swp corsennau;
(d) nifer unrhyw gorsennau neu gynwysyddion eraill a niweidiwyd neu a ddistrywiwyd a'u cod adnabod.
3. Yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn rheoliad 31(4) yw–
(a) enw'r anifail buchol a roes y semen a ph'un ydoedd o dan y rheoliadau adnabod gwartheg;
(b) rhif y gorsen neu'r cynhwysydd arall a ddefnyddiwyd;
(c) cod adnabod y gorsen neu'r cynhwysydd arall;
(ch) rhif tag clust yr anifail buchol a ffrwythlonwyd;
(d) dyddiad y ffrwythloni.
4. Yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn rheoliad 31(5) yw–
(a) enw'r anifail buchol a roes y semen a ph'un ydoedd o dan y rheoliadau adnabod gwartheg;
(b) rhif y gorsen neu'r cynhwysydd arall a ddistrywiwyd;
(c) cod adnabod y gorsen neu'r cynhwysydd arall;
(ch) dyddiad y distrywio.
Rheoliad 45
Yr Offeryn | Y Cyfeirnod |
---|---|
Rheoliadau Mewnforio Semen Buchol 1984 | O.S. 1984/1325 |
Rheoliadau Ffrwythloni Gwartheg yn Artiffisial (Iechyd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) 1985 | O.S. 1985/1861 |
Rheoliadau Ffrwythloni Gwartheg yn Artiffisial (Dulliau Rheoli Hysbysebu etc) (Prydain Fawr) 1987 | O.S. 1987/904 |
Rheoliadau Ffrwythloni Gwartheg yn Artiffisial (Iechyd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1992 | O.S. 1992/671 |
Rheoliadau Mewnforio Semen Buchol (Diwygio) 1993 | O.S. 1993/1966 |
Rheoliadau Ffrwythloni Gwartheg yn Artiffisial (Iechyd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1995 | O.S. 1995/2549 |
Yr Offeryn | Y Cyfeirnod |
---|---|
Rheoliadau Ffrwythloni Gwartheg yn Artiffisial (Trwyddedau Brys) (Cymru) 2001 | O.S. 2001/1539 (Cy.107) |
Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial Gwartheg (Iechyd Anifeiliaid) (Diwygio) (Cymru) 2002 | O.S. 2002/1131 (Cy.118) |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Ffrwythloni Gwartheg yn Artiffisial (Iechyd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) 1985 (O.S. 1985/1861) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Maent yn gweithredu hefyd Gyfarwyddeb y Cyngor 2003/43/EC (OJ Rhif L. 143, 11.6.2003, t. 23) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 88/407/EEC sy'n gosod y gofynion ynglŷn ag anifeiliaid sy'n gymwys i'r fasnach ryng-Gymunedol mewn semen anifeiliaid domestig o'r rhywogaeth fuchol ac i fewnforion o'r semen hwnnw (OJ Rhif L. 194, 22.7.1988, t.10).
Mae'r Rheoliadau hyn yn rheoli gwaith casglu, prosesu a storio semen buchol. Maent yn sefydlu dwy drefn: drwy'r naill caniateir i semen gael ei gasglu a'i brosesu i'w fasnachu ag Aelod-wladwriaethau eraill o'r UE, a thrwy'r llall caniateir i semen gael ei gasglu i'w ddefnyddio yn y DU.
Mae Rhan 1 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol, gan gynnwys diffiniadau ac eithriadau. Mae Rhan 2 ac Atodlenni 1, 2 ac 8 yn darparu ar gyfer trwyddedu mangreoedd i fod yn ganolfannau semen buchol (a ddiffinnir yn rheoliad 2) ar gyfer cadw anifeiliaid buchol mewn cwarantîn, a chasglu a storio semen, gwneud ceisiadau am drwyddedau canolfan semen buchol a rhoi'r trwyddedau hynny, a chymeradwyo'r anifeiliaid buchol y caniateir i semen gael ei gasglu oddi wrthynt yng nghanolfannau semen y Gymuned Ewropeaidd (CE) a chanolfannau semen domestig, ac mewn mangreoedd sydd heb eu trwyddedu (a ddiffinnir yn rheoliad 2), ac ar gyfer cymeradwyo anifeiliaid ymlid (a ddiffinnir hefyd yn rheoliad 2).
Mae Rhan 3 ac Atodlenni 3 i 7 yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â chasglu semen. Mae Rhan 4 ac Atodlenni 8 a 9 yn nodi amodau ar gyfer casglu, prosesu a storio semen. Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau yn ymdrin â'u gweinyddu a'u gorfodi.
Mae Rheoliad 41 yn nodi'r ffioedd sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn, a'r rheini'n ffioedd am gostau yr oedd yn rhesymol eu tynnu. Mae'r costau cyfredol wedi'u nodi yn http://www.svs.gov.uk
Mae darpariaethau sy'n ymwneud â masnach y Gymuned Ewropeaidd (CE) mewn semen buchol wedi'u cynnwys hefyd yn Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007(19) a Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006(20).
Mae methiant â chydymffurfio â'r Rheoliadau hyn yn dramgwydd o dan adran 10(6) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984 (p. 40). Mae adran 10(4) o'r Ddeddf honno'n darparu pwerau i arolygwyr a benodwyd gan Weinidogion Cymru i orfodi'r Rheoliadau.
Nid oes asesiad effaith rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer yr offeryn hwn.
1984 p. 40; diwygiwyd adran 10 gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymu) 1993 (p.50) a Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44). Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r "appropriate Minister" i'r graddau y maent yn rhinwedd o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672. Mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac Atodlen 11 iddi. Back [2]
1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51). Back [3]
OJ Rhif P 121, 29.7.1964, t. 1977. Ar ddyddiad y Rheoliadau hyn, cafodd y Gyfarwyddeb hon ei diwygio ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 599/2004 (OJ Rhif L 94, 31.3.2004, t. 44.) Back [4]
OJ Rhif L 194, 22.7.1988, t. 10. Ar ddyddiad y Rheoliadau hyn, cafodd y Gyfarwyddeb hon ei diwygio ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2006/16/Ec (OJ Rhif L 11, 17.1.2006, t. 21). Back [5]
1966 p.36. Back [6]
O.S. 2007/842 (Cy.74), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/3004 (Cy.260). Back [7]
OJ Rhif 204, 11.8.2000, t. 1. Back [8]
OJ Rhif L 117, 7.51997, t. 1. Back [9]
1981 p.22. Diddymwyd adran 17(4) gan Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984, adran 16(2) ac Atodlen 2. Back [10]
1986 p. 14. Back [11]
O.S. 1983/6, a ddiwygiwyd gan O.S. 1988/1090 a 1990/2217. Back [12]
O.S. 2003/1968, (Cy.213). Back [13]
S.I. 1985/1861, a ddiwygiwyd gan O.S. 1987/904, 1992/671, 1995/2549, 1996/3124, 2001/380, 2002/824 a 2004/3231. Back [14]
O.S. 1987/390, a ddiwygiwyd gan O.S. 1992/2592. Back [15]
Ar gael yn //www.oie.int/eng/normes/mcode/en_chapitre_2.3.5.htm. Back [16]
O.J. Rhif L 302, 19.10.1989, t.1. Back [17]
O.S. 1995/2478, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3124. Back [18]
O.S. 2007/376 (Cy.36), a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/1710 (Cy.148). Back [19]
O.S. 2006/1536 (Cy.153), a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/2128 (Cy.198) ac O.S. 2007/1080 (Cy.127). Back [20]