Gwnaed
11 Mawrth 2008
Yn dod i rym
12 Mawrth 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 18(1) a (2) a pharagraffau 5 a 7 o Atodlen 3 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(1) ac adran 25 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2), ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodwyd o dan adran 18(3) o'r Ddeddf honno ac Atodlen 3 iddi, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg (Sefydlu) 2008 a daw i rym ar 12 Mawrth 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall–
mae i "dyddiad gweithredol" yr ystyr a roddir i "operational date" ym mharagraff 5(5) o Atodlen 3 i'r Ddeddf;
ystyr "dyddiad sefydlu" ("establishment date") yw 12 Mawrth 2008;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr "gwasanaethau iechyd cymunedol" ("community health services") yw unrhyw wasanaeth y caiff Gweinidogion Cymru ei ddarparu o dan adran 3(1) o'r Ddeddf neu Atodlen 1 iddi;
ystyr "yr ymddiriedolaeth" ("the trust") yw Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg a sefydlir gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn.
2. Sefydlir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol o'r enw Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg neu the Abertawe Bro Morgannwg University National Health Service Trust.
3.–(1) Sefydlir yr ymddiriedolaeth at y dibenion a bennir yn adran 18(1) o'r Ddeddf.
(2) Swyddogaethau'r ymddiriedolaeth fydd–
(a) darparu nwyddau a gwasanaethau (gan gynnwys lle mewn ysbyty a gwasanaethau iechyd cymunedol) o–
(i) Ysbyty Cefn Coed, Ffordd Waunarlwydd, Y Cocyd, Abertawe, SA2 0GH,
(ii) Ysbyty Glanrhyd, Heol Tondu, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4LN
(iii) Ysbyty Treforys, Treforys, Abertawe, SA6 6NL;
(iv) Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, Ffordd Baglan, Port Talbot, SA12 7BX,
(v) Ysbyty Tywysoges Cymru, Ffordd Coity, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1RQ,
(vi) Ysbyty Singleton, Sgeti, Abertawe, SA2 8QA,
ac ysbytai a mangreoedd cysylltiedig; a
(b) darparu gwasanaethau caffael i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru neu mewn cysylltiad ag ef a chaffael nwyddau a gwasanaethau at ddibenion y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
4.–(1) Bydd gan yr ymddiriedolaeth, yn ychwanegol at y cadeirydd, 7 cyfarwyddwr anweithredol a 5 cyfarwyddwr gweithredol.
(2) Gan fod rhaid ystyried fod i'r ymddiriedolaeth ymrwymiad arwyddocaol i addysgu o fewn ystyr paragraff 5(3) o Atodlen 3 i'r Ddeddf, mae un o'r cyfarwyddwyr anweithredol i'w benodi o Brifysgol Abertawe.
5.–(1) Dyddiad gweithredol yr ymddiriedolaeth fydd 1 Ebrill 2008.
(2) Dyddiad cyfrifyddu'r ymddiriedolaeth fydd 31 Mawrth.
6. Rhwng dyddiad ei sefydlu a'i dyddiad gweithredol, mae i'r ymddiriedolaeth y swyddogaethau canlynol–
(a) ymrwymo i gontractau'r GIG;
(b) ymrwymo i gontractau eraill gan gynnwys contractau cyflogaeth; ac
(c) gwneud y pethau eraill hynny sy'n rhesymol angenrheidiol i'w galluogi i ddechrau gweithredu'n foddhaol o'r dyddiad gweithredol ymlaen.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Mawrth 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Abertawe Bro Morgannwg, ymddiriedolaeth GIG y darperir ar ei chyfer yn adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae hefyd yn darparu ar gyfer swyddogaethau'r ymddiriedolaeth (erthygl 3) a nifer y cyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol (erthygl 4). Mae'n pennu dyddiad gweithredol a dyddiad cyfrifyddu yr ymddiriedolaeth (erthygl 5).
2006 p.42 Back [1]
1993 p.38, Trosglwyddwyd swyddogaethau unrhyw Weinidog y Goron i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [2]