Gwnaed
6 Mawrth 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Mawrth 2008
Yn dod i rym
31 Mawrth 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth gan adran 101B o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), a drosglwyddwyd yn ddiweddarach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sylwadau ac Apelau) Cerbydau a Symudwyd Ymaith (Cymru) 2008 deuant i rym ar 31 Mawrth 2008 ac maent yn gymwys i Gymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn–
mae i "ardal gorfodi sifil am dramgwyddau parcio", "awdurdod gorfodi" a "tâl cosb" yr ystyr sydd i ("civil enforcement area for parking contraventions", "enforcement authority" a "penalty charge") yn Rhan 6 o Ddeddf 2004;
ystyr "Deddf 1984" ("the 1984 Act") yw Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984;
ystyr "Deddf 2004" ("the 2004 Act") yw Deddf Rheoli Traffig 2004(3);
ystyr "dyfarnydd" ("adjudicator") yw dyfarnydd a benodwyd o dan Ran 3 o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu;
ystyr "y Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol" ("the General Provisions Regulations") yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2008(4);
ystyr "y Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu" ("the Enforcement and Adjudication Regulations") yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Hysbysiadau Tâl Cosb, Gorfodi a Dyfarnu) (Cymru) 2008(5); ac
ystyr "y Rheoliadau Sylwadau ac Apelau" ("the Representations and Appeals Regulations") yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sylwadau ac Apelau) (Cymru) 2008 (6).
3.–(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i berson, o ran cerbyd y daethpwyd o hyd iddo mewn ardal orfodi sifil ar gyfer tramgwyddau parcio ac a symudwyd ymaith o dan adran 99 o Ddeddf 1984–
(a) pan fo'n ofynnol iddo dalu swm i gael y cerbyd yn ôl o dan adran 101A o'r Ddeddf honno;
(b) pan fo'n derbyn swm ynglŷn â'r cerbyd o dan adran 101A(2) o'r Ddeddf honno;
(c) pan gaiff ei hysbysu nad oedd yr enillion ar werthiant y cerbyd yn fwy na chyfanswm y taliadau perthnasol a ddisgrifir yn adran 101A(2) a (3) o'r Ddeddf honno; neu
(ch) pan gaiff ei hysbysu bod y cerbyd wedi cael ei waredu ac nad oedd unrhyw enillion ar ei werthiant.
(2) Rhaid i berson y mae paragraff (1) yn gymwys iddo gael ei hysbysu ar unwaith pan ddigwyddo achlysur y cyfeirir ato ym mharagraff (1)–
(a) o'i hawl i wneud sylwadau i awdurdod gorfodi yn unol â'r rheoliad hwn; a
(b) o'i hawl i apelio at ddyfarnydd os na chaiff ei sylwadau eu derbyn,
a rhaid i'r wybodaeth honno gynnwys datganiad o effeithiau paragraff (4) a (5).
(3) Rhaid i'r awdurdod gorfodi roi'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2), neu beri ei bod yn cael ei rhoi, yn ysgrifenedig.
(4) Caiff person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo wneud sylwadau i'r perwyl–
(a) bod un neu fwy nag un o'r seiliau a bennir ym mharagraff (5) yn gymwys; neu
(b) bod rhesymau cryf, p'un a yw'r seiliau hynny'n gymwys ai peidio, paham, o dan amgylchiadau penodol yr achos, y dylai'r awdurdod gorfodi–
(i) ad-dalu rhywfaint o'r swm neu'r cyfan ohono a dalwyd i sicrhau rhyddhau'r cerbyd;
(ii) ad-dalu rhywfaint o'r swm neu'r cyfan ohono a dynnwyd o enillion y gwerthiant gogyfer y taliadau perthnasol; neu
(iii) hepgor ei hawl i adennill pob un o'r symiau neu unrhyw un o'r symiau sy'n ddyledus iddo oherwydd iddo symud ymaith neu waredu'r cerbyd,
a chaniateir i unrhyw sylwadau o'r fath fod ar y ffurf y caiff yr awdurdod gorfodi ei phennu.
(5) Dyma'r seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(a)–
(a) na chaniatawyd i'r cerbyd aros yn ei unfan mewn ardal orfodi sifil ar gyfer tramgwyddau parcio o dan amgylchiadau yr oedd tâl cosb yn daladwy yn rhinwedd rheoliad 3 o'r Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol;
(b) nad oedd swyddog gorfodi sifil, yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu wedi gosod tâl cosb ar y cerbyd neu wedi traddodi hysbysiad o'r fath i'r person yr ymddangosai iddo mai ef oedd â rheolaeth ar y cerbyd cyn symud y cerbyd ymaith;
(c) ar yr adeg y symudwyd y cerbyd ymaith, nad oedd y pŵer a roddir gan baragraff (2) o reoliad 5C o'r Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986(7) yn rhinwedd paragraff (3) o'r rheoliad hwnnw, i symud y cerbyd ymaith yn arferadwy;
(ch) y caniatawyd i'r cerbyd aros yn ei unfan yn y man lle'r oedd gan berson a oedd yn rheoli'r cerbyd heb gysyniad y perchennog;
(d) nad oedd y man lle'r oedd y cerbyd yn aros yn ei unfan yn ardal orfodi sifil ar gyfer tramgwyddau parcio;
(dd) bod y tâl cosb neu dâl arall a dalwyd i sicrhau rhyddhau'r cerbyd yn fwy na'r swm sy'n gymwys o dan amgylchiadau'r achos; neu
(e) bod digwyddiad amhriodol wedi digwydd yn y gweithdrefnau ar ran yr awdurdod gorfodi.
(6) Wrth benderfynu'r ffurf ar gyfer gwneud sylwadau o dan baragraff (4) rhaid i'r awdurdod gorfodi weithredu drwy'r cyd-bwyllgor y mae, yn unol â rheoliad 8 o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu, yn arfer ei swyddogaeth o benodi dyfarnwyr drwyddo.
4.–(1) Caiff yr awdurdod gorfodi ddiystyru unrhyw sylwadau o dan reoliad 3 sy'n dod i law ar ôl diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad pan hysbysir y person sy'n gwneud y sylwadau o dan reoliad 3(2) o'i hawl i wneud sylwadau.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (1), os gwneir sylwadau iddo yn unol â rheoliad 3(4), bydd yn ddyletswydd ar yr awdurdod gorfodi, cyn diwedd y cyfnod o 56 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r sylwadau i law–
(a) i'w hystyried ac unrhyw dystiolaeth gefnogol y mae'r person sy'n eu gwneud yn ei darparu; a
(b) i gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad o'i benderfyniad p'un a yw'n derbyn–
(i) bod sail a bennir yn rheoliad 3(5) yn gymwys; neu
(ii) bod rhesymau cryf o'r math y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(4)(b).
(3) Os bydd awdurdod yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff (2)(b)(i) ei fod yn derbyn bod sail a bennir yn rheoliad 3(5) yn gymwys, rhaid iddo (pan fydd yn cyflwyno'r hysbysiad)–
(a) ad-dalu unrhyw symiau–
(i) yr oedd yn ofynnol i'r person y rhyddhawyd y cerbyd iddo dalu o dan adran 101A(1) o Ddeddf 1984; neu
(ii) a ddidynnwyd oddi wrth enillion o werthiant y cerbyd yn unol ag adran 101A(2) o'r Ddeddf honno,
ac eithrio i'r graddau (os oes rhai) y talwyd neu y didynnwyd y symiau hynny'n briodol; a
(b) hysbysu'r person sy'n gwneud sylwadau ei fod wedi hepgor ei hawl i adennill unrhyw swm a allai fel arall fod yn ddyledus iddo drwy dâl cosb neu oherwydd symud y cerbyd ymaith, ei storio neu ei waredu.
(4) Os bydd awdurdod yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff (2)(b)(ii) ei fod yn derbyn bod rhesymau cryf o'r fath, rhaid iddo (pan fydd yn cyflwyno'r hysbysiad)–
(a) ad-dalu'r symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(a) neu'r rhai hynny y mae'n ystyried sy'n briodol yn amgylchiadau'r achos; a
(b) hysbysu'r person sy'n gwneud y sylwadau ei fod wedi hepgor yr hawl i adennill unrhyw swm a allai fel arall fod yn ddyledus drwy dâl cosb neu oherwydd symud ymaith, storio neu waredu'r cerbyd.
(5) Mae awdurdod sydd wedi hepgor ei hawl i adennill swm yn colli ei hawl i wneud hynny.
(6) Os bydd awdurdod yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff (2)(b) nad yw'n derbyn bod paragraff (2)(b)(i) neu (ii) wedi cael ei gyflawni, rhaid i'r hysbysiad hwnnw–
(a) hysbysu'r person y cyflwynir ef iddo o'i hawl i apelio at ddyfarnydd o dan reoliad 5;
(b) dangos natur pŵer y dyfarnydd i ddyfarnu costau; a
(c) disgrifio mewn termau cyffredinol y ffurf a'r dull y mae'n ofynnol i'r gyfryw apêl gael ei gwneud ynddynt.
(7) Os bydd awdurdod yn methu â chydymffurfio â pharagraff (2) cyn diwedd y cyfnod o 56 o ddiwrnodau a grybwyllir ynddo, ymdrinnir ag ef fel pe bai wedi derbyn y sylwadau ac wedi cyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw o dan baragraff (2)(b) a bydd paragraff (3) yn gymwys yn unol â hynny.
5.–(1) Os bydd awdurdod yn cyflwyno hysbysiad o dan reoliad 4(2)(b) ynglyn â sylwadau o dan reoliad 3(4), caiff y person sy'n gwneud y sylwadau hynny–
(a) cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad hwnnw; neu
(b) cyn diwedd cyfnod hirach y caiff dyfarnydd ei ganiatáu,
apelio at ddyfarnydd yn erbyn penderfyniad yr awdurdod.
(2) Ar apêl o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r dyfarnydd ystyried y sylwadau o dan sylw ac unrhyw sylwadau ychwanegol a wneir gan yr apelydd.
(3) Os bydd y dyfarnydd yn dod i'r casgliad–
(a) bod unrhyw rai o'r seiliau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) i (e) o reoliad 3(5) yn gymwys; a
(b) y byddai'r awdurdod gorfodi wedi bod o dan y ddyletswydd a osodir gan reoliad 4(3) i ad-dalu unrhyw swm os oedd wedi cyflwyno hysbysiad ei fod yn derbyn bod y sail o dan sylw yn gymwys,
rhaid iddo gyfarwyddo'r awdurdod hwnnw i ad-dalu'r swm hwnnw.
(4) Bydd yn ddyletswydd ar awdurdod gorfodi y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan baragraff (3) i gydymffurfio ag ef ar unwaith a bydd unrhyw hawl gan yr awdurdod gorfodi i adennill unrhyw swm a allai fel arall fod yn ddyledus iddo drwy dâl cosb neu oherwydd symud ymaith, storio neu waredu'r cerbyd yn peidio â bod.
(5) Os na fydd y dyfarnydd yn rhoi unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (3) ond ei fod wedi'i fodloni bod rhesymau cryf, dan amgylchiadau penodol yr achos, pam y dylid ad-dalu rhywfaint o'r symiau neu'r cyfan o'r symiau i sicrhau rhyddhau'r cerbyd, neu a ddidynnwyd o enillion y gwerthiant, caiff argymell bod yr awdurdod gorfodi yn gwneud y cyfryw ad-daliad.
(6) Bydd yn ddyletswydd ar awdurdod gorfodi y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan baragraff (5) i ystyried o'r newydd wneud ad-daliad o'r symiau hynny gan roi ystyriaeth lawn i unrhyw sylwadaeth gan y dyfarnydd ac, o fewn y cyfnod ("y cyfnod o 35 o ddiwrnodau") o dri deg pump o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad y rhoddwyd y cyfarwyddyd, hysbysu'r apelydd a'r dyfarnydd p'un a yw'n derbyn argymhelliad y dyfarnydd ai peidio.
(7) Os bydd yr awdurdod gorfodi yn hysbysu'r apelydd a'r dyfarnydd nad yw'n derbyn argymhelliad y dyfarnydd, rhaid iddo ar yr un pryd eu hysbysu o'r rhesymau dros ei benderfyniad.
(8) Ni cheir apelio at y dyfarnydd yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod gorfodi o dan baragraff (7).
(9) Os bydd yr awdurdod gorfodi'n derbyn argymhelliad y dyfarnydd rhaid iddo wneud yr ad-daliad a argymhellwyd o fewn y cyfnod o 35 o ddiwrnodau.
(10) Os bydd yr awdurdod gorfodi yn methu â chydymffurfio â gofynion paragraff (6) o fewn y cyfnod o 35 o ddiwrnodau, bernir bod yr awdurdod wedi derbyn argymhelliad y dyfarnydd a rhaid iddo wneud yr ad-daliad a argymhellwyd yn ddiymdroi ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.
6.–(1) Bydd yr Atodlen i'r Rheoliadau Sylwadau ac Apelau ("yr Atodlen") yn cael effaith o ran gweithdrefn a chyflwyno dogfennau mewn achosion gerbron dyfarnydd o dan y Rheoliadau hyn fel pe bai wedi cael ei hymgorffori yn y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir ym mharagraff (3).
(2) Yn unol â hynny, bernir y bydd cyfeiriadau yn yr Atodlen honno fel y mae'n cael effaith yn rhinwedd paragraff (1) at "y Rheoliadau hyn" yn gyfeiriadau at y Rheoliadau hyn ac nid at y Rheoliadau Sylwadau ac Apelau.
(3) Dyma'r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)–
(a) ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o "apêl" yn lle "rheoliad 7(1) neu 10(1)" rhodder "rheoliad 5";
(b) ym mharagraff 2(3), yn lle "rheoliad 7(1) neu 10(1)(a) (yn ôl y digwydd)" rhodder "rheoliad 5";
(c) ym mharagraff 4(1) yn lle "rheoliad 4(2)(b) neu 8(4), p'un bynnag sy'n briodol dan yr amgylchiadau" rhodder "rheoliad 3(5)".
(4) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen honno fel y'i haddaswyd, caiff dyfarnydd reoleiddio ei weithdrefn ei hun.
(5) O ran unrhyw swm sy'n daladwy–
(a) o dan ddyfarniad dyfarnydd;
(b) yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau Sylwadau ac Apelau sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gorfodi ad-dalu unrhyw swm,
os bydd llys sirol yn gorchymyn hynny, rhaid bod y person y mae'r swm yn daladwy iddo yn gallu ei adennill fel pe bai'n daladwy o dan orchymyn llys sirol.
(6) Nid yw paragraff (3) yn gymwys i dâl cosb sy'n parhau'n daladwy yn dilyn dyfarniad o dan reoliad 7 o'r Rheoliadau Sylwadau ac Apelau.
7.–(1) Bydd person sy'n gwneud unrhyw sylw o dan reoliad 3 neu 4 neu o dan yr Atodlen i'r graddau y mae'n ymwneud ag apêl, sy'n anwir mewn manylyn o bwys ac sy'n gwneud hynny'n ddi-hid neu gan wybod ei fod yn anwir yn y manylyn hwnnw, yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd person a gollfernir o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
6 Mawrth 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Gwneir y Rheoliadau hyn o dan bwerau a roddir i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth gan adran 101B o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a'r Arglwydd Ganghellor o ran adrannau 99 i 103 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan ddarpariaethau Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044). Yn ddiweddarach cafodd y pwerau hyn eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer gwneud sylwadau ac apelau yn erbyn taliadau ar gyfer symud ymaith, storio a gwaredu cerbyd a symudir ymaith o dan y Ddeddf honno o ardal sydd yn ardal gorfodi sifil ar gyfer tramgwyddau parcio yn unol â Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Dylid darllen y Rheoliadau hyn ar y cyd â Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/614 (Cy.66), Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sylwadau ac Apelau) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/608) a Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Hysbysiadau Tâl Cosb, Gorfodi a Dyfarnu) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/609).
Mae rheoliad 3 yn pennu'r personau y mae'r rheoliad yn gymwys iddynt, yn ei gwneud yn ofynnol i'r personau hynny gael eu hysbysu o'u hawl i wneud sylwadau ac i apelio at ddyfarnydd, mae'n rhoi i'r personau hynny hawl i wneud sylwadau ar ffurf a bennir gan yr awdurdod gorfodi ac yn pennu'r sail y ceir eu gwneud arni. Mae rheoliad 4 yn pennu dyletswyddau awdurdod gorfodi o ran sylwadau sy'n dod i law o dan reoliad 3 ac mae rheoliad 5 yn rhoi hawl i apelio at ddyfarnydd pan fo'r awdurdod gorfodi'n gwrthod sylwadau a gyflwynir iddo o dan reoliad 3. Mae rheoliad 6 yn cymhwyso'r Atodlen i Reoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sylwadau ac Apelau) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/608) o ran gweithdrefnau a chyflwyno dogfennau mewn achosion dyfarnydd o dan y Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 7 yn creu tramgwydd o wneud sylwadau anwir o dan reoliad 4 neu reoliad 5
Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol i'w gael gan yr Uned Trafnidiaeth Integredig, yr Is-adran Cynllunio Trafnidiaeth a Gweinyddu, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfeydd y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn http://www.assemblywales.org/bus-home/buslegislation/bus/bus-legislation-sub/bus-legislation-sub-annulment.htm
1984 p. 27; diwygiwyd adran 99 gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40), Atodlen 4, paragraff 32, ac Atodlen 8 a chan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16), adran 15 ac Atodlen 5, Rhan 1; mewnosodwyd adrannau 101A a 101B gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, Atodlen 11, paragraff 3(2). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a swyddogaethau'r Arglwydd Ganghellor o ran adrannau 99 i 103 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan ddarpariaethau Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044). Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
2004 p. 18. Back [3]
O.S. 2008/614 (Cy.66). Back [4]
O.S. 2008/609. Back [5]
O.S. 2008/608. Back [6]
O.S. 1986/183; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2008/612 (Cy.64). Back [7]