Gwnaed
3 Mawrth 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Mawrth 2008
Yn dod i rym
28 Mawrth 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 76, 77, 128, 129, 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
1. Enw'r Rheoliadau yw'r Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 28 Mawrth 2008.
2. Yn y diffiniad o "NHS sight test fee" yn rheoliad 1(2) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2) –
(a) yn lle "£52.04" rhodder "£53.34", a
(b) yn lle "£18.85" rhodder "£19.32".
3. Yn rheoliad 10(1) (y datganiad) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986(3) ar ddiwedd rheoliad 10(1)(b) yn lle'r geiriau o "A determination" hyd at "relates." rhodder–
"A determination may provide that such fees and allowances may be paid in respect of a period beginning on a date earlier than the date of the determination if, taking the determination as a whole, it is not detrimental to the persons to whose remuneration it relates.".
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 er mwyn cyfeirio at gynnydd o 2.5% yn ffioedd prawf golwg y GIG. Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio rheoliad 10 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 i ddarparu pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud darpariaeth mewn penderfyniad o ran y ffioedd sydd i'w talu gan Fwrdd Iechyd Lleol am wneud profion golwg gan ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr, caiff y penderfyniad ddarparu bod y ffioedd yn cael eu talu ynglŷn â chyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad sy'n gynharach na dyddiad y penderfyniad, ac os cymerir y penderfyniad yn ei gyfanrwydd, nad yw'n andwyol i'r personau y mae a wnelo hyn â'u tâl.