Gwnaed
19 Chwefror 2008
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddynt hwy(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn o dan y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006(2)–
adrannau 87 i 90 a 97(1) a (2);
Paragraffau 5 i 11 o Atodlen 8; ac
Atodlenni 9 a 10.
Ac o dan adran 146A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chyrff sy'n ymddangos iddynt hwy eu bod yn cynrychioli buddiannau yr effeithir arnynt yn sylweddol gan y Gorchymyn hwn fel sy'n ofynnol gan adran 97(5) o'r Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006.
Yn unol ag adran 97 o'r Ddeddf honno, mae drafft o'r Gorchymyn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo trwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdd Ardollau Cymru 2008.
(2) Mae erthyglau 2, 3(1) a (2), 4, 5, 8, 9 a 10 ac Atodlen 2 yn dod i rym y diwrnod ar ôl i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud.
(3) Mae gweddill y Gorchymyn yn dod i rym ar 1 Ebrill 2008.
2.–(1) Mae'r Gorchymyn hwn yn ymwneud â –
(a) y diwydiant cig eidion a chig defaid yng Nghymru; a
(b) y diwydiant moch yng Nghymru.
(2) At y dibenion hyn:
ystyr "diwydiant cig eidion a chig defaid" ("beef and sheep industry") yw pob gweithgaredd sy'n rhan o gynhyrchu, prosesu, marchnata a dosbarthu–
gwartheg a defaid, gan gynnwys cynnal lladd-dai ac arwerthiannau a marchnadoedd gwartheg a defaid;
cig a chynhyrchion cig (heblaw llaeth a chynhyrchion llaeth) sy'n deillio o wartheg a defaid;
ystyr "diwydiant moch" ("pig industry") yw pob un o'r gweithgareddau sy'n rhan o gynhyrchu, prosesu, marchnata a dosbarthu moch neu gynhyrchion moch, gan gynnwys cynnal lladd-dai ac arwerthiannau a marchnadoedd moch;
(3) Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at "diwydiant" ("industry") yn gyfeiriad at un neu fwy o'r diwydiannau hyn.
3.–(1) Drwy hyn sefydlir corff o'r enw Bwrdd Ardollau Cymru.
(2) Ei ddibenion yw–
(a) cynyddu effeithlonrwydd neu gynhyrchiant yn y diwydiant;
(b) gwella marchnata yn y diwydiant;
(c) gwella neu ddatblygu gwasanaethau y mae'r diwydiant yn eu darparu i'r gymuned neu y gallai eu darparu iddi; ac
(ch) gwella'r ffyrdd y mae diwydiant o'r fath yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy.
(3) Ei swyddogaethau yw darparu unrhyw rai o'r gwasanaethau a bennir yn Atodlen 1 (swyddogaethau Bwrdd Ardollau Cymru).
4. Mae Atodlen 2 (cyfansoddiad a thrafodion Bwrdd Ardollau Cymru) yn cael ei heffaith.
5.–(1) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru sefydlu neu gaffael is-gwmni ar gyfer pob un o'r diwydiannau o fewn cwmpas y Gorchymyn hwn a chaiff sefydlu neu gaffael y fath is-gwmnïau eraill a ddichon fod yn gydnaws neu'n gysylltiedig â'i swyddogaethau, ac mae cyfeiriad at is-gwmni yn y Gorchymyn hwn yn gyfeiriad at gwmni o'r fath.
(2) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru ddirprwyo unrhyw rai o'i swyddogaethau yn Atodlen 1 i is-gwmni neu gwmni arall ond ni fydd unrhyw drefniant o'r fath yn effeithio ar gyfrifoldebau Bwrdd Ardollau Cymru o dan y Gorchymyn hwn.
6.–(1) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru osod ardoll i'w alluogi i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pob un o'r diwydiannau a gwmpesir gan y Gorchymyn hwn, ac mae Atodlen 3 yn cael ei heffaith.
(2) Rhoddir yr holl ffigurau yn yr Atodlen honno heb gynnwys TAW.
(3) Diben yr ardollau yw galluogi Bwrdd Ardollau Cymru i
(a) diwallu ei gostau wrth ddarparu unrhyw wasanaeth a bennir yn Atodlen 1;
(b) diwallu ei dreuliau gweinyddol;
(c) hybu diben yn erthygl 3(2);
(ch) sefydlu cronfa wrth gefn.
(4) Os yw cyfradd yr ardoll (ac unrhyw gyfradd uwch am dalu'r ardoll yn hwyr) yn uwch na'r gyfradd briodol a osodir ym mharagraff 1(8) o Atodlen 3 Rhan 2 i'r Gorchymyn hwn, rhaid i'r cyfryw gyfradd o ardoll (ac unrhyw gyfradd uwch am dalu'r ardoll yn hwyr) gael ei chymeradwyo ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru.
(5) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru ddirprwyo casglu'r ardoll i is-gwmni neu gwmni enwebedig.
(6) Ni cheir defnyddio ardoll a godir mewn perthynas â diwydiant ond mewn perthynas â'r diwydiant hwnnw.
7.–(1) Os bydd unrhyw berson sydd dan rwymedigaeth i dalu ardoll yn methu â hysbysu Bwrdd Ardollau Cymru neu is-gwmni neu gwmni enwebedig o'r wybodaeth a bennir yn Atodlen 3 erbyn y dyddiad gosodedig a bennir yn yr Atodlen honno, caiff Bwrdd Ardollau Cymru neu'r is-gwmni neu'r cwmni enwebedig amcangyfri'r swm y dylid bod wedi ei hysbysu, a hysbysu'r person hwnnw o'r amcangyfrif.
(2) Os yw'r person yn methu â gwneud datganiad niferoedd o fewn 28 niwrnod o gael hysbysiad o amcangyfrif fe ddaw dan rwymedigaeth i dalu ardoll ar yr amcangyfrif hwnnw.
(3) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru ddarparu fod cyfradd uwch o ardoll yn daladwy ar y swm a amcangyfrifwyd, ond ni chaiff y swm hwnnw fod yn uwch na'r cyfraddau uchaf y darperir ar eu cyfer yn Atodlen 3.
8. Caiff Bwrdd Ardollau Cymru, neu unrhyw is-gwmni neu gwmni arall, godi ffioedd sy'n ymddangos yn rhesymol i Fwrdd Ardollau Cymru neu i'r is-gwmni atodol neu'r cwmni enwebedig am unrhyw wasanaethau yn ychwanegol at y gwasanaethau y cyfeirir atynt yn erthygl 6.
9. Caiff Bwrdd Ardollau Cymru–
(a) sefydlu a chynnal cronfa wrth gefn at ddibenion ei swyddogaethau; a
(b) cymryd benthyg arian ac arwystlo tir.
10.–(1) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru wneud unrhyw beth a ymddengys iddo ef yn gydnaws â neu'n gysylltiedig â chyflawni ei swyddogaethau.
(2) Yn benodol caiff–
(a) gwneud cytundebau;
(b) caffael neu waredu eiddo;
(c) codi arian drwy gyfraniadau gwirfoddol; ac
(ch) derbyn rhoddion.
11.–(1) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru gynnal pleidlais ar unrhyw adeg ar a ddylai ardoll barhau ai peidio.
(2) Rhaid iddo wneud hynny os yw, o fewn cyfnod o dri mis, yn cael un neu fwy o geisiadau i gynnal pleidlais wedi'i lofnodi gan o leiaf 5% o bersonau sydd â hawl i bleidleisio mewn pleidlais.
(3) Cyfrifir y cyfnod o dri mis o ddiwrnod cyntaf unrhyw fis.
(4) Ni chaniateir cynnal pleidlais ar yr un ardoll ar gais personau sydd â hawl i bleidleisio yn amlach na phob 5 mlynedd.
(5) Nid yw cais i gynnal pleidlais yn ddilys os caiff ei wneud cyn 1 Ebrill 2012.
(6) Rhaid i Fwrdd Ardollau Cymru hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith o ganlyniad pleidlais, ond nid yw Gweinidogion Cymru yn rhwym wrth y canlyniad.
12.–(1) Mae gan y canlynol yr hawl i bleidleisio mewn perthynas â'r ardoll.
Pleidleiswyr | |
---|---|
Ardoll | Pleidleiswyr a chategorïau |
Moch | Unrhyw berson sy'n cadw moch yng Nghymru |
Unrhyw berson sy'n cigydda neu'n allforio moch yng Nghymru | |
Gwartheg | Unrhyw berson sy'n cadw gwartheg yng Nghymru |
Unrhyw berson sy'n cigydda neu'n allforio gwartheg yng Nghymru | |
Defaid | Unrhyw berson sy'n cadw defaid yng Nghymru |
Unrhyw berson sy'n cigydda neu'n allforio defaid yng Nghymru |
(2) Rhaid bodloni'r cymhwyster ar gyfer pleidleisio ar unrhyw adeg yn y deuddeng mis cyn y bleidlais.
(3) Un bleidlais sydd gan bob person sydd â hawl i bleidleisio (os oes partneriaeth un bleidlais sydd gan bob partneriaeth).
(4) Gellir cynnal pleidleisiau ar wahân ar gyfer gwahanol gategorïau o bleidleiswyr.
13.–(1) Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i Fwrdd Ardollau Cymru–
(a) paratoi adroddiad blynyddol ar sut y mae wedi cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn; a
(b) anfon copi o'r adroddiad at Weinidogion Cymru o fewn y fath gyfnod ag y cyfarwydda Gweinidogion Cymru.
(2) Yn yr erthygl hon, ystyr "blwyddyn ariannol" ("financial year") yw
(a) y cyfnod sy'n dechrau gyda dyddiad sefydlu Bwrdd Ardollau Cymru ac sy'n gorffen gyda 31 Mawrth 2009; a
(b) pob cyfnod olynol o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth.
(3) Rhaid i Fwrdd Ardollau Cymru–
(a) cadw cofnodion cyfrifo priodol; a
(b) paratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol.
(4) Rhaid i Fwrdd Ardollau Cymru gyflwyno'r cyfrifon y mae'n eu paratoi ar gyfer blwyddyn ariannol i Archwilydd Cyffredinol Cymru dim hwyrach na 30 Tachwedd yn y flwyddyn ariannol olynol.
(5) Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru –
(a) archwilio, ardystio ac adrodd ar bob set o gyfrifon a gyflwynir iddo o dan y paragraff hwn, a
(b) dim hwyrach na phedwar mis ar ôl i'r cyfrifon gael eu cyflwyno iddo, gosod copi ohonynt fel y'u hardystiwyd ganddo gerbron y Cynulliad, ynghyd â'i adroddiad arnynt.
14.–(1) Rhaid i Fwrdd Ardollau Cymru roi i Weinidogion Cymru wybodaeth o'r fath sy'n ofynnol ganddynt yn ymwneud ag eiddo Bwrdd Ardollau Cymru neu â chyflawni ei swyddogaethau neu â'r ffordd y mae'n bwriadu cyflawni ei swyddogaethau.
(2) Rhaid i Fwrdd Ardollau Cymru hefyd–
(a) caniatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru i arolygu a gwneud copïau o unrhyw gyfrifon neu ddogfennau eraill; a
(b) rhoi esboniad arnynt yn ôl gofyn y person hwnnw neu Weinidogion Cymru.
15.–(1) Mae'n dramgwydd rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol mewn perthynas â gofynion y Gorchymyn hwn i Fwrdd Ardollau Cymru neu is-gwmni neu gwmni enwebedig.
(2) Rhaid i unrhyw berson sydd dan rwymedigaeth i dalu ardoll o dan y Gorchymyn hwn gadw cofnodion digonol i alluogi Bwrdd Ardollau Cymru neu is-gwmni neu gwmni enwebedig i ganfod faint o ardoll sy'n ddyledus a rhaid iddo'u dangos i swyddog o Fwrdd Ardollau Cymru neu is-gwmni neu gwmni enwebedig os gofynnir iddo wneud hynny; ac mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
16.–(1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Gellir dwyn achos am dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn o fewn cyfnod o 6 mis yn dechrau gyda'r dyddiad pan ddaeth tystiolaeth sy'n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos yn hysbys iddo, cyn belled ag nad yw dyddiad cychwyn achos o'r fath fwy na 2 flynedd ar ôl dyddiad cyflawni'r tramgwydd.
(3) Pan fydd corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol–
(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall cyffelyb o'r corff corfforaethol; neu
(b) unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,
bydd y person hwnnw yn euog o'r tramgwydd yn ogystal â'r corff corfforaethol.
(4) At ddibenion yr erthygl hon, ystyr "cyfarwyddwr" ("director"), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
(5) Os profir bod tramgwydd o dan y Gorchymyn hwn sydd wedi'i gyflawni gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bydd y partner hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
19 Chwefror 2008
Erthygl 3(3)
1. Hybu neu wneud gwaith ymchwil gwyddonol.
2.–(1) Hybu neu wneud ymholiadau–
(a) i ddeunyddiau a chyfarpar, a
(b) i ddulliau cynhyrchu, rheoli a defnyddio llafur.
(2) Mae hybu neu wneud ymholiadau o dan is-baragraff (1) yn cynnwys hybu neu wneud gwaith–
(a) darganfod a datblygu–
(i) deunyddiau, cyfarpar a dulliau newydd, a
(ii) gwelliannau i'r rheini a ddefnyddir eisoes,
(b) asesu manteision gwahanol ddewisiadau, ac
(c) cynnal sefydliadau arbrofol a phrofion ar raddfa fasnachol.
3. Hybu cynhyrchu a marchnata cynhyrchion safonol.
4. Hybu diffinio disgrifiadau masnachol yn well a defnyddio disgrifiadau masnachol yn fwy cyson.
5. Datblygu, hybu, marchnata neu weithredu–
(a) safonau sy'n ymwneud ag ansawdd cynhyrchion, neu
(b) systemau i roi dosbarth ar gynhyrchion.
6. Datblygu, adolygu neu weithredu cynlluniau ar gyfer ardystio cynhyrchion neu weithgareddau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu neu gyflenwi cynhyrchion.
7. Gwneud gwaith ardystio cynhyrchion, cofrestru nodau masnach ardystio, a swyddogaethau perchenogion nodau o'r fath.
8. Darparu neu hybu darparu–
(a) hyfforddiant ar gyfer personau sy'n cymryd rhan yn y diwydiant neu'n bwriadu cymryd rhan ynddo, a
(b) eu haddysg mewn pynciau sy'n berthnasol i'r diwydiant.
9.–(1) Hybu–
(a) mabwysiadu mesurau i sicrhau amodau gwaith mwy diogel a gwell, a
(b) darparu a gwella cyfleusterau i bersonau a gyflogir.
(2) Hybu neu wneud gwaith ymchwil i fesurau i sicrhau amodau gwaith mwy diogel a gwell.
10. Hybu neu wneud gwaith ymchwil i amlder, atal a gwella clefydau diwydiannol.
11. Hybu neu wneud trefniadau i annog pobl i ddod i mewn i'r diwydiant.
12. Hybu neu wneud gwaith ymchwil i wella trefniadau ar gyfer marchnata a dosbarthu cynhyrchion.
13. Hybu neu wneud gwaith ymchwil i faterion yn ymwneud â mynd trwy neu ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau a gyflenwir gan y diwydiant.
14. Hybu trefniadau–
(a) ar gyfer cymdeithasau cydweithredol,
(b) i gyflenwi deunyddiau a chyfarpar, ac
(c) i farchnata a dosbarthu cynhyrchion.
15. Hybu datblygiad y fasnach allforio, gan gynnwys hybu neu wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddusrwydd tramor.
16. Hybu neu wneud trefniadau fel bod y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig yn dod yn fwy cyfarwydd â'r nwyddau a'r gwasanaethau a gyflenwir gan y diwydiant ac â'r dulliau o'u defnyddio.
17. Hybu neu wneud y gwaith o gasglu a fformiwleiddio ystadegau.
18. Rhoi cyngor ar unrhyw faterion sy'n ymwneud â'r diwydiant (ac eithrio cyflogau neu amodau cyflogaeth) y dichon Gweinidogion Cymru ofyn i Fwrdd Ardollau Cymru roi cyngor arnynt, a gwneud ymchwil at y diben o alluogi Bwrdd Ardollau Cymru i roi cyngor ar faterion o'r fath.
19. Gwneud trefniadau ar gyfer peri bod gwybodaeth ar gael ar faterion y mae Bwrdd Ardollau Cymru yn ymwneud â hwy wrth arfer unrhyw un o'i swyddogaethau a rhoi cyngor ar y materion hynny.
20. Ymgymryd ag unrhyw ffurf o gydweithio neu gydweithredu â phersonau eraill wrth iddynt wneud unrhyw un o'i swyddogaethau.
Erthygl 4
1.–(1) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru benderfynu ar ei weithdrefnau ei hun, ac yn benodol caiff–
(a) penderfynu ar gworwm;
(b) penodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau i'w gynghori wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau; a
(c) penderfynu ar gworwm a gweithdrefnau unrhyw un o'r is-bwyllgorau hynny.
(2) Caiff unrhyw bwyllgor gynnwys aelodau nad ydynt yn aelodau o Fwrdd Ardollau Cymru.
2.–(1) Ni chaiff tymor swydd y cadeirydd nac aelod o'r bwrdd fod yn hwy na phedair blynedd.
(2) Caiff aelod ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo aelod–
(a) a fu'n absennol o gyfarfodydd Bwrdd Ardollau Cymru am gyfnod o fwy na 6 mis heb ganiatâd Bwrdd Ardollau Cymru,
(b) sy'n mynd yn fethdalwr neu'n gwneud trefniant gyda'i gredydwyr neu (yn yr Alban) y secwestrir ei ystâd, neu
(c) sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi mynd yn anabl, neu heb fod yn ffit neu'n anaddas i wneud ei ddyletswyddau.
(4) Mae person sy'n peidio â bod yn aelod neu'n peidio â bod yn gadeirydd neu'n ddirprwy gadeirydd yn gymwys i'w ail benodi i'r swydd honno.
(5) Rhaid i aelod o'r bwrdd ddatgelu ar unwaith unrhyw fuddiant uniongyrchol neu anuniongyrchol mewn unrhyw gontract neu fater y mae'r bwrdd yn ei gynnig neu'n ei drafod.
(6) Rhaid cofnodi'r datgeliad hwnnw yng nghofnodion Bwrdd Ardollau Cymru, ac ar ôl y datgeliad rhaid i'r aelod hwnnw beidio â chymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth neu benderfyniad gan y bwrdd ar y contract hwnnw, ond gellir, fodd bynnag, ei gyfrif at ddibenion ffurfio cworwm o'r bwrdd.
3. Mae gan bob aelod (gan gynnwys y cadeirydd) un bleidlais, ac os yw pleidlais yn gyfartal mae gan y person sy'n cadeirio'r cyfarfod hwnnw bleidlais fwrw.
4.–(1) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru dalu i'w aelodau unrhyw dreuliau a dducpwyd yn briodol ganddynt hwy wrth wneud gwaith y bwrdd, a chaiff dalu'r fath gydnabyddiaeth ariannol a lwfansau ag y penderfyna Gweinidogion Cymru arnynt.
(2) Os–
(a) yw person yn peidio â bod yn aelod, a
(b) os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod yna amgylchiadau arbennig sy'n ei gwneud yn briodol i'r person hwnnw gael ei ddigolledu,
caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r bwrdd i dalu i'r person hwnnw swm a benderfynir gan Weinidogion Cymru.
(3) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru dalu i aelodau pwyllgor unrhyw dreuliau a dducpwyd yn briodol ganddynt hwy wrth wneud gwaith y bwrdd, a chaiff dalu'r fath gydnabyddiaeth ariannol a lwfansau ag y penderfyna Gweinidogion Cymru arnynt.
5. Caiff Bwrdd Ardollau Cymru benodi'r cyflogeion y penderfyna arnynt, a chaiff dalu iddynt y fath gydnabyddiaeth ariannol a lwfansau eraill, a gwneud y fath ddarpariaeth ar gyfer pensiynau ag y penderfyna arnynt.
Erthygl 6
1. Os yw Bwrdd Ardollau Cymru wedi sefydlu is-gwmni neu gwmni enwebedig ar gyfer unrhyw un o'r gweithgareddau a bennir yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at Fwrdd Ardollau Cymru yn gyfeiriadau at yr is-gwmni neu'r cwmni arall hwnnw.
2. Yn yr Atodlen hon mae "person" ("person") yn cynnwys partneriaeth.
1.–(1) Rhaid i berson sy'n feddiannydd ar ladd-dŷ ("y cigyddwr") dalu ardoll ar yr holl wartheg, defaid a moch a gigyddir ganddo.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n allforio gwartheg, defaid neu foch byw ("allforiwr") dalu ardoll.
(3) Mae'r ardoll yn seiliedig ar nifer yr anifeiliaid a gigyddir neu a allforir.
(4) Mae dwy ran i'r ardoll, ardoll y cynhyrchydd a'r ardoll gigydda neu allforio.
(5) Caiff Bwrdd Ardollau Cymru wneud darpariaeth ar gyfer gostyngiad yn yr ardoll gigydda a'r ardoll allforio i gwmpasu costau gweinyddol y cigyddwr neu'r allforiwr wrth weinyddu'r ardoll.
(6) Os bydd cigyddwr neu allforiwr yn prynu anifail i'w gigydda neu i'w allforio, rhaid iddo didynnu ardoll y cynhyrchydd o'r pris a delir ganddo ef, a'i ddal ar ymddiried dros Fwrdd Ardollau Cymru.
(7) Os bydd cigyddwr yn cigydda anifail heb ei brynu, rhaid iddo godi ardoll y cynhyrchydd a'r ardoll gigydda ar y perchennog a'u dal ar ymddiried dros Fwrdd Ardollau Cymru.
(8) Mae cyfradd uchaf yr ardoll yn unol â'r tabl canlynol.
Categori'r ardoll | Cyfradd uchaf yr ardoll y pen |
---|---|
a
At y dibenion hyn llo yw anifail sy'n llai na chwe mis oed (yn achos anifail a allforir) neu anifail sydd a'i bwysau wedi iddo gael ei baratoi ar ôl ei gigydda yn llai na 68kg (yn achos anifail a gigyddiwyd). |
|
Gwartheg – cigyddwr neu allforiwr (ac eithrio lloi) | 1.75 |
Gwartheg (ac eithrio lloi) – cynhyrchydd | 5.25 |
Lloia – cigyddwr neu allforiwr | 0.50 |
Lloia – cynhyrchydd | 0.50 |
Defaid – cigyddwr neu allforiwr | 0.20 |
Defaid – cynhyrchydd | 0.60 |
Moch – cigyddwr neu allforiwr | 0.275 |
Moch – cynhyrchydd | 1.075 |
2.–(1) Nid oes ardoll i'w thalu ar anifeiliaid a fewnforir o Aelod-wladwriaeth arall ac a gaiff eu cigydda o fewn 3 mis yn achos gwartheg a 2 fis yn achos moch neu ddefaid.
(2) Nid oes ardoll i'w thalu os yw anifail yn ddarostyngedig i gigydda gorfodol neu os yw'r milfeddyg swyddogol yn datgan fod y carcas cyfan yn anaddas i'w fwyta gan bobl.
3.–(1) Rhaid i gigyddwr hysbysu Bwrdd Ardollau Cymru, erbyn diwedd pob dydd Mercher, o nifer yr anifeiliaid sy'n ddarostyngedig i ardoll a gafodd eu cigydda yn ystod yr wythnos flaenorol hyd at ddiwedd y Sul, gan roi'r ffigyrau ar gyfer y math o anifail.
(2) Os bydd cigyddwr yn amcangyfrif y bydd cyfanswm yr anifeiliaid a gaiff eu cigydda yn gyfanswm o lai na 25 bob wythnos, caiff wneud cais i Fwrdd Ardollau Cymru am gael ei gofrestru fel gweithredydd bach; ac os bydd Bwrdd Ardollau Cymru yn cytuno i'w gofrestru felly, rhaid i'r gweithredydd hysbysu'r Bwrdd ar y pymthegfed diwrnod o bob mis neu cyn hynny o nifer yr anifeiliaid sy'n ddarostyngedig i ardoll a gafodd eu cigydda yn ystod y mis blaenorol, gan roi'r ffigyrau ar gyfer y math o anifail.
(3) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
4. Rhaid i feddiannydd lladd-dŷ dalu'r ardoll sy'n ddyledus ar anifeiliaid a gafodd eu cigydda mewn unrhyw fis o fewn 15 niwrnod i ddiwedd y mis.
5.–(1) Rhaid i allforiwr hysbysu Bwrdd Ardollau Cymru, o fewn 30 o ddiwrnodau o ddiwedd y mis, o nifer yr anifeiliaid a allforiwyd yn ystod y mis blaenorol, ac mae methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
(2) Rhaid iddo dalu'r ardoll pan gaiff anfoneb.
6.–(1) Caiff person a benodwyd gan Fwrdd Ardollau Cymru, wedi dangos dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos ei awdurdodiad os gofynnir iddo wneud hynny, fynd i mewn i unrhyw ladd-dŷ ar unrhyw awr resymol i wirio unrhyw gofnodion i sicrhau fod yr ardoll gywir wedi'i thalu.
(2) Mae rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu o dan y paragraff hwn neu fethu â dangos cofnodion pan ofynnir amdanynt yn dramgwydd .
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn creu corff newydd, Bwrdd Ardollau Cymru ("y Bwrdd") sydd â swyddogaethau a dyletswyddau yn ymwneud â'r diwydiannau cig eidion, cig defaid a chig moch yng Nghymru. Mae'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau ar gyfer cyfansoddiad a thrafodion y Bwrdd.
Caiff y Bwrdd godi tollau mewn perthynas â phob un o'r diwydiannau (erthygl 6). Gosodir y manylion am dalu'r ardollau, a mwyafswm yr ardoll a ganiateir, yn Atodlen 3. O dan yr Atodlen honno, mae methu â gwneud datganiad niferoedd mewn perthynas ag ardoll yn dramgwydd.
Os bydd nifer gosodedig o rai sy'n talu'r ardollau yn galw am hynny, rhaid i'r Bwrdd gynnal pleidlais ar a ddylai'r system ardollau barhau (erthyglau 11 a 12).
Mae yna dramgwyddau yn ymwneud â darparu gwybodaeth i Fwrdd Ardollau Cymru a chadw cofnodion (erthygl 14).
Y gosb am dorri'r Gorchymyn yw dirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd).
Mae asesiad rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NW.