Gwnaed
3 Chwefror 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
5 Chwefror 2008
Yn dod i rym
29 Chwefror 2008
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraeth Leol (Swyddi dan Gyfyngiadau Gwleidyddol) (Cymru) 2008, a deuant i rym ar 29 Chwefror 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;
ystyr "y Cyd-gyngor Cenedlaethol" ("the National Joint Council") yw'r Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol; a
ystyr "Cynllun y Cyd-gyngor Cenedlaethol" ("the National Joint Council´s Scheme") yw Cynllun Amodau Gwasanaeth y Cyd-gyngor Cenedlaethol.
3. Y swm at ddibenion adran 2(2) o'r Ddeddf (cyhyd â bod y swm yn fwy na £19,500) yw'r swm hwnnw a gyhoeddir gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol o dro i dro o ran swyddi llawnamser o dan awdurdod lleol yng Nghymru neu Loegr fel y swm a ddynodir ar gyfer pwynt 49 ar y golofn gyflog ar y graddfeydd cyflog ar gyfer swyddogion awdurdod lleol a ymgorfforir yng Nghynllun y Cyd-gyngor Cenedlaethol.
4. Dirymir Rheoliadau Llywodraeth Leol (Swyddi dan Gyfyngiadau Gwleidyddol) (Rhif 2) 1990(3).
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
3 Chwefror 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru gan adran 2(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 baratoi a chynnal rhestr o swyddi y mae cyfradd y cydnabyddiaethau ariannol blynyddol mewn perthynas â hwy yn £19,500 neu'n fwy na hynny neu'n swm uwch a bennir neu a benderfynir o dan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn darparu mai'r swm uwch hwnnw yw'r swm a bennir o dro i dro gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol fel yr un sy'n gymwys i bwynt 49 ar y golofn gyflog ar eu graddfeydd cyflog ar gyfer swyddogion llywodraeth leol.
Mae'r Rheoliadau'n dirymu Rheoliadau Llywodraeth Leol (Swyddi dan Gyfyngiadau Gwleidyddol) (Rhif 2) 1990.
1989 (p.42). Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 2(2)(a) a 190(1), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Gymru o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hynny i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]
O.S. 1990/1447. Back [3]