Gwnaed
28 Ionawr 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Ionawr 2008
Yn dod i rym
16 Mawrth 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 19(3), 23, 26 a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cydweithio rhwng Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2008, ac maent yn dod i rym ar 16 Mawrth 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr "aelod nad yw'n llywodraethwr" ("non governor member") yw person a benodir gan gyd-bwyllgor yn aelod ohono ond nad yw'n aelod o gorff llywodraethu sy'n cydweithio;
ystyr "Deddf 2002" ("the 2002 Act") yw Deddf Addysg 2002; ac
ystyr "y Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir" ("the Government of Maintained Schools Regulations") yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(2).
3.–(1) Caiff dau neu fwy o gyrff llywodraethu ("cyrff llywodraethu sy'n cydweithredu") drefnu bod unrhyw rai o'i swyddogaethau'n cael eu cyflawni ar y cyd, yn ddarostyngedig i reoliadau 50 i 52 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir.
(2) Os bydd cyrff llywodraethu sy'n cydweithredu'n gwneud trefniadau yn unol â pharagraff (1) o ran unrhyw rai o'u swyddogaethau sy'n ymwneud ag aelodau unigol o staff ysgol, bydd Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006(3) yn gymwys o ran cyflawni'r swyddogaethau hynny.
(3) Os bydd cyrff llywodraethu sy'n cydweithredu yn gwneud trefniadau yn unol â pharagraff (1), caniateir iddynt hefyd ddirprwyo cyflawni unrhyw rai o'u swyddogaethau y cânt eu dirprwyo i bwyllgor o dan reoliad 50 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir, i gyd-bwyllgor a sefydlwyd ganddynt.
(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn, yn rheoliadau 50 i 52 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir–
ystyr "corff llywodraethu" ("governing body")(4) yw corff llywodraethu sy'n cydweithio;
ystyr "llywodraethwr" ("governor") yw aelod o unrhyw un o'r cyrff llywodraethu sy'n cydweithredu;
ystyr "pennaeth" ("head teacher") yw pennaeth unrhyw un o'r ysgolion; ac
ystyr "pwyllgor" ("committee") yw cyd-bwyllgor a sefydlwyd yn unol â pharagraff (3).
4.–(1) Rhaid i'r cyrff llywodraethu sy'n cydweithredu benderfynu, ac adolygu'n flynyddol, y cyfansoddiad, y cylch gorchwyl ac (yn ddarostyngedig i reoliad 6) aelodaeth unrhyw gyd-bwyllgor y maent yn penderfynu eu sefydlu.
(2) Y cworwm ar gyfer cyfarfod o'r cyd-bwyllgor ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o'r fath yw hanner (wedi'i dalgrynnu i fyny i rif llawn) aelodaeth y cyd-bwyllgor heb gynnwys unrhyw swyddi gwag ac unrhyw aelodau a gafodd eu hatal o'r cyfarfod hwnnw yn unol â rheoliad 7.
(3) Rhaid i gyd-bwyllgor benodi cadeirydd yn flynyddol a chaniateir symud y cadeirydd o'i swydd ar unrhyw adeg.
(4) Rhaid i gyd-bwyllgor ethol aelod o'r cyd-bwyllgor hwnnw i weithredu fel cadeirydd yn absenoldeb y cadeirydd a benodwyd o dan baragraff (3).
(5) Ni chaiff neb a gyflogwyd i weithio yn yr ysgol, na disgybl cofrestredig yn yr ysgol weithredu fel cadeirydd cyd-bwyllgor.
(6) Gall aelodaeth cyd-bwyllgor gynnwys aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr ac mae penderfynu i ba raddau y mae gan y cyfryw aelodau hawl i bleidleisio yn benderfyniad y cyd-bwyllgor.
(7) Rhaid i fwyafrif yr aelodau ar unrhyw gyd-bwyllgor fod yn llywodraethwyr.
5.–(1) Rhaid i gyd-bwyllgor benodi clerc (a rhaid iddo beidio â bod yn un o'r penaethiaid) a gall symud y clerc o'i swydd ar unrhyw adeg.
(2) Caiff cyd-bwyllgor, os bydd y clerc yn methu â bod yn bresennol yn un o'i gyfarfodydd, benodi unrhyw un o'i aelodau (nad yw'n bennaeth) i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.
(3) Rhaid i'r clerc–
(a) cynnull cyfarfodydd y cyd-bwyllgor;
(b) mynychu cyfarfodydd y cyd-bwyllgor a sicrhau bod cofnodion o'r trafodion yn cael eu llunio; ac
(c) cyflawni unrhyw swyddogaethau eraill a benderfynir gan y cyd-bwyllgor.
6.–(1) Bydd aelod nad yw'n llywodraethwr yn parhau yn ei swydd hyd nes iddo gael ei symud ohoni yn unol â rheoliad 4(1) neu 6(7).
(2) Bydd unrhyw berson sydd wedi'i anghymhwyso rhag dal swydd fel llywodraethwr o dan reoliad 24 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir a pharagraffau 2 i 12 o Atodlen 5 iddynt yn yr un modd yn cael ei anghymhwyso rhag dal, neu barhau i ddal, swydd fel aelod nad yw'n llywodraethwr o'r cyd-bwyllgor.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (6), rhaid i'r cyrff llywodraethu sy'n cydweithredu benderfynu hawliau pleidleisio aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr.
(4) Rhaid i aelod nad yw'n llywodraethwr beidio â phleidleisio ar unrhyw benderfyniad ynghylch–
(a) disgybl unigol (na ddaw o fewn is-baragraffau 5(a) neu 5(b)) neu aelod o staff os cafodd yr aelod nad yw'n llywodraethwr ei wahardd o dan reoliad 7(2) o'r rhan honno o'r cyfarfod pan gafodd y mater ei ystyried;
(b) cyllideb ac ymrwymiadau ariannol corff llywodraethu sy'n cydweithredu;
(c) disgyblu staff;
(ch) diswyddo staff; neu
(d) apelau o ganlyniad i unrhyw fater ynghylch disgyblu staff neu ddiswyddo staff.
(5) Ni chaiff aelod nad yw'n llywodraethwr fod yn aelod o unrhyw gyd-bwyllgor sydd i ystyried unrhyw benderfyniad ynghylch–
(a) derbyniadau; neu
(b) disgyblu disgyblion.
(6) Rhaid i aelod nad yw'n llywodraethwr beidio â phleidleisio ar unrhyw fusnes arall a drafodir gan gyd-bwyllgor oni bai ei fod yn 18 oed neu drosodd ar ddyddiad ei benodi.
(7) Caniateir i gyd-bwyllgor symud aelod nad yw'n llywodraethwr o'i swydd ar unrhyw adeg.
7.–(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 9 ac i'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn mae gan y personau canlynol hawl i fynychu unrhyw gyfarfod cyd-bwyllgor –
(a) unrhyw lywodraethwr sy'n aelod o'r cyd-bwyllgor, ar yr amod nad yw'n aelod o gorff llywodraethu sy'n cydweithio a gafodd ei atal yn unol â rheoliad 49 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir;
(b) pennaeth, p'un a yw'n aelod o'r cyd-bwyllgor ai peidio;
(c) clerc y cyd-bwyllgor; ac
(ch) y personau eraill hynny y caiff y cyd-bwyllgor benderfynu arnynt.
(2) Caniateir i gyd-bwyllgor wahardd aelod nad yw'n llywodraethwr o unrhyw ran o'i gyfarfod pan fo'r busnes sydd o dan ystyriaeth yn ymwneud ag aelod unigol o'r staff neu ddisgybl unigol.
(3) Nid yw paragraff 1(b) yn gymwys o ran y pwyllgorau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 55 a 56 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir neu o ran unrhyw gyd-bwyllgor neu banel dethol sy'n arfer unrhyw swyddogaeth o dan reoliadau 9 i 34 o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006.
8.–(1) Rhaid i'r clerc gynnull cyfarfodydd y cyd-bwyllgor a phan fydd yn arfer y swyddogaeth hon, rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan–
(a) y cyd-bwyllgor;
(b) cadeirydd y cyd-bwyllgor, i'r graddau nad yw'r cyfarwyddyd hwnnw'n anghyson ag unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd o dan is-baragraff (a).
(2) Pan na fydd clerc wedi'i benodi rhaid i'r cadeirydd gynnull y cyfarfodydd pwyllgor a rhaid iddo, pan fydd yn arfer y swyddogaeth hon, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd gan y cyd-bwyllgor.
(3) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a roddir yn unol â pharagraff (1), o leiaf bum niwrnod clir ymlaen llaw rhaid i'r clerc roi i bob aelod o'r cyd-bwyllgor, i'r awdurdod addysg lleol ac i'r penaethiaid (p'un a ydynt yn aelodau o'r cyd-bwyllgor ai peidio)–
(a) hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod;
(b) copi o'r agenda ar gyfer y cyfarfod; ac
(c) unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod;
ond os bydd cadeirydd y cyd-bwyllgor yn penderfynu ar y sail bod materion sy'n mynnu ystyriaeth frys, bydd yn ddigonol os bydd yr hysbysiad ysgrifenedig o'r cyfarfod yn datgan y ffaith honno a bod yr hysbysiad, agenda ac adroddiadau neu bapurau eraill sydd i'w hystyried yn y cyfarfod yn cael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach yn ôl ei gyfarwyddyd (yn ôl y digwydd).
(4) Nid yw trafodion cyd-bwyllgor yn cael eu hannilysu gan–
(a) unrhyw swydd wag ymhlith aelodau'r cyd-bwyllgor; neu
(b) unrhyw ddiffyg ym mhenodiad unrhyw aelod o'r cyd-bwyllgor.
(5) Ni chaniateir pleidleisio ar unrhyw fater mewn cyfarfod cyd-bwyllgor onid yw mwyafrif aelodau'r cyd-bwyllgor sy'n bresennol yn aelodau o gorff llywodraethu sy'n cydweithredu.
(6) Rhaid i bob cwestiwn sydd i'w benderfynu mewn cyfarfod cyd-bwyllgor gael ei benderfynu gan fwyafrif pleidleisiau aelodau'r cyd-bwyllgor sy'n bresennol ac sy'n pleidleisio ar y cwestiwn.
(7) Pan fo pleidleisiau'n rhannu'n gyfartal mae gan y person sy'n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod ail bleidlais neu bleidlais fwrw, ar yr amod bod y person hwnnw yn aelod o gorff llywodraethu sy'n cydweithredu.
9.–(1) Yn y rheoliad hwn ac yn yr Atodlen ystyr "person perthnasol" ("relevant person") yw aelod o'r cyd-bwyllgor, pennaeth (p'un a yw'n aelod o'r cyd-bwyllgor ai peidio) neu unrhyw berson a benodwyd yn glerc i'r cyd-bwyllgor.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4)–
(a) os gall gwrthdaro ddigwydd ynghylch unrhyw fater rhwng buddiannau person perthnasol a buddiannau corff llywodraethu sy'n cydweithredu;
(b) os bydd gwrandawiad teg yn ofynnol a bod unrhyw amheuaeth resymol ynghylch gallu person perthnasol i weithredu'n ddiduedd ynglyn ag unrhyw fater; neu
(c) os bydd gan berson perthnasol fuddiant ariannol yn unrhyw fater;
rhaid i'r person hwnnw, os yw'n bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor pan fydd y mater yn destun ystyriaeth, ddatgelu ei fuddiant, ymneilltuo o'r cyfarfod a pheidio â phleidleisio ar y mater o dan sylw.
(3) Ni ddylid dehongli bod dim yn y rheoliad hwn neu yn yr Atodlen sy'n atal–
(a) y cyd-bwyllgor rhag–
(i) caniatáu i berson sy'n ymddangos ger ei fron i roi tystiolaeth i fynychu unrhyw wrandawiad a gynhelir ganddo i unrhyw fater a chyflwyno'i dystiolaeth; neu
(ii) gwrando ar sylwadau gan berson perthnasol sy'n gweithredu mewn swyddogaeth heblaw person perthnasol;
(b) person perthnasol rhag ymrwymo mewn contract â chorff llywodraethu sy'n cydweithredu y mae ganddo'r hawl i elwa ohono.
(4) Nid yw'n ofynnol i berson sy'n gweithredu fel clerc mewn cyfarfod cyd-bwyllgor ymneilltuo o gyfarfod o dan y rheoliad hwn neu'r Atodlen onid yw ei benodiad i'r swydd, ei dâl, neu gamau disgyblu yn ei erbyn yn destun ystyriaeth, ond os byddai'r rheoliad hwn neu'r Atodlen fel arall yn ei gwneud yn ofynnol iddo ymneilltuo, rhaid iddo beidio â gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth heblaw swyddogaeth clerc.
(5) Os oes unrhyw anghydfod ynghylch p'un a yw'n ofynnol o dan y rheoliad hwn i berson perthnasol ymneilltuo o gyfarfod cyd-bwyllgor a pheidio â phleidleisio ar y cwestiwn hwnnw rhaid i aelodau eraill y cyd-bwyllgor sy'n bresennol yn y cyfarfod benderfynu arno.
(6) Mae'r Atodlen yn gwneud darpariaeth ar gyfer buddiannau ariannol a gwrthdrawiadau penodedig eraill o ran buddiant.
10.–(1) Rhaid i'r clerc neu'r person sy'n gweithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod lunio cofnodion o drafodion cyfarfod cyd-bwyllgor; rhaid iddynt gael eu llofnodi (yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y cyd-bwyllgor) gan y cadeirydd yng nghyfarfod nesaf y cyd-bwyllgor.
(2) Rhaid i'r cyd-bwyllgor roi i'w hawdurdod addysg lleol gopi o'r cofnodion drafft neu'r cofnodion a lofnodwyd o unrhyw gyfarfod a gynhaliwyd ganddo pan ofynnir amdanynt gan yr awdurdod addysg lleol hwnnw.
(3) Rhaid gosod cofnodion o'r trafodion mewn llyfr a gedwir at y diben gan y clerc a gellir eu gosod mewn tudalennau rhydd wedi'u Rhif o'n olynol ond yn yr achos hwnnw rhaid i'r person sy'n llofnodi'r cofnodion lofnodi pob tudalen â llythrennau cyntaf ei enw.
(4) Rhaid i'r person sy'n gweithredu fel clerc y cyd-bwyllgor at ddibenion unrhyw gyfarfod gofnodi yn union o flaen y cofnod sy'n rhoi cofnodion y cyfarfod hwnnnw yn y llyfr neu ar y tudalennau a ddefnyddir at y diben hwnnw enwau aelodau'r cyd-bwyllgor ac enw unrhyw berson arall sy'n bresennol yn y cyfarfod.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) rhaid i'r cyd-bwyllgor, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol drefnu bod y canlynol ar gael i'w harchwilio ym mhob un o'r ysgolion sy'n cydweithio gan unrhyw berson sydd â diddordeb, a rhoi i'r cyrff llywodraethu sy'n cydweithredu–
(a) yr agenda ar gyfer pob cyfarfod;
(b) y cofnodion a lofnodwyd o bob cyfarfod o'r fath;
(c) unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o'r fath;
(ch) cofnodion drafft o unrhyw gyfarfod, os ydynt wedi cael eu cymeradwyo gan berson sy'n gweithredu fel cadeirydd y cyfarfod hwnnw; a
(d) copi o'r agenda a'r cofnodion a lofnodwyd ar gyfer pob cyfarfod ac unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd yn y cyfarfod.
(6) Caniateir i'r cyd-bwyllgor wahardd o unrhyw eitem y mae'n ofynnol trefnu ei bod ar gael yn unol â pharagraff (5) unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud â'r canlynol–
(a) enw person sy'n gweithio, neu y bwriedir y bydd yn gweithio, mewn ysgol;
(b) enw disgybl mewn ysgol, neu ymgeisydd ar gyfer cael ei dderbyn i ysgol;
(c) unrhyw fater arall, oherwydd ei natur, y mae'r cyd-bwyllgor yn fodlon y dylai barhau'n gyfrinachol.
(7) Rhaid i bob tudalen o unrhyw gopïau o gofnodion drafft a gyhoeddir o drafodion cyfarfodydd a gymeradwywyd gan y cadeirydd ddangos mai cofnodion drafft ydynt.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
28 Ionawr 2008
Rheoliad 9
1.–(1) At ddibenion rheoliad 9, mae buddiant ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall yn cynnwys achos–
(a) lle y cafodd person perthnasol ei enwebu neu ei benodi i swydd fel aelod o gorff llywodraethu sy'n cydweithredu gan berson y gwnaed y contract gydag ef neu berson y bwriedir gwneud y contract gydag ef;
(b) lle y mae'r person perthnasol yn bartner i berson, neu o dan gyflogaeth person y gwnaed y contract gydag ef neu berson y bwriedir gwneud y contract gydag ef; neu
(c) mae perthynas i berson perthnasol (gan gynnwys ei briod, ei bartner sifil o fewn ystyr Deddf Partneriaeth Sifil 2004(5) neu rywun sy'n byw gyda'r person hwnnw fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil i'r person), a bod y person hwnnw'n gwybod, neu y byddai'n cael ei drin fel un sy'n gwybod, bod ganddo fuddiant o'r fath.
(2) At ddibenion rheoliad 9, nid yw person perthnasol i'w drin fel un sydd â buddiant ariannol yn unrhyw fater–
(a) ar yr amod nad yw ei fuddiant yn y mater ddim mwy na buddiant y sawl sy'n gyffredinol yn cael eu talu i weithio yn yr ysgol;
(b) dim ond oherwydd y ffaith yr enwebwyd neu y penodwyd y person i swydd, a'i fod yn aelod o gorff cyhoeddus neu o dan gyflogaeth corff cyhoeddus; neu
(c) dim ond oblegid ei fod yn aelod o gorfforaeth neu gorff arall, os nad oes gan y person unrhyw fuddiant ariannol mewn unrhyw warantau yn y gorfforaeth honno neu'r corff arall hwnnw.
(3) Nid oes rwystr i aelodau o'r cyd-bwyllgor, oherwydd eu buddiant ariannol yn y mater, rhag ystyried cynigion a phleidleisio ar gynigion ar gyfer un neu fwy o'r cyrff llywodraethu sy'n cydweithredu i drefnu yswiriant sy'n diogelu eu haelodau rhag atebolrwydd y maent yn agored iddo sy'n codi o'u swyddi ac ni fydd corff llywodraethu sy'n cydweithredu, oherwydd buddiant ariannol ei aelodau, yn cael ei rwystro rhag sicrhau yswiriant o'r fath a rhag talu'r premiymau.
(4) Nid oes rwystr i aelodau o'r cyd-bwyllgor rhag ystyried neu bleidleisio ar unrhyw gynnig ynghylch lwfansau i'w talu yn unol â Rheoliadau Lwfansau Llywodraethwyr (Cymru) 2005(6) oherwydd bod ganddynt fuddiant mewn talu lwfansau o'r fath i aelodau o'r cyd-bwyllgor yn gyffredinol ond rhaid i aelod o gyd-bwyllgor ymneilltuo o gyfarfod pan ystyrir neu pan drafodir, a rhaid i'r aelod beidio â phleidleisio, p'un a ddylai dderbyn lwfans penodol, swm unrhyw daliad neu unrhyw gwestiwn ynghylch lwfans a dalwyd iddo.
2.–(1) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol yn bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor a'r pwnc o dan ystyriaeth yw–
(a) penodiad y person ei hun, ei ailbenodi, ei atal neu ei symud o'i swydd fel aelod o'r cyd-bwyllgor;
(b) penodiad y person ei hun neu ei symud o'i swydd fel clerc, neu gadeirydd neu is-gadeirydd y cyd-bwyllgor;
(c) os yw'r person yn noddwr-lywodraethwr, unrhyw benderfyniad o dan baragraff 2 o Atodlen 4 i'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir o ran y ddarpariaeth yn yr offeryn llywodraethu ar gyfer noddwyr-lywodraethwyr.
(2) Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, ymdrinnir â buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 9(2) fel rhai sy'n gwrthdaro â buddiannau'r cyrff llywodraethu sy'n cydweithredu.
3.–(1) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol sy'n cael ei dalu i weithio mewn ysgol heblaw fel pennaeth yn bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor a'r pwnc o dan ystyriaeth ynddo yw tâl neu arfarniad perfformio unrhyw berson penodol sy'n cael ei gyflogi yn yr ysgol.
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo pennaeth yn bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor a'r pwnc o dan ystyriaeth ynddo yw tâl neu arfarniad perfformio'r pennaeth.
(3) Yn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys, ymdrinnir â buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 9(2) fel rhai sy'n gwrthdaro â buddiannau'r cyrff llywodraethu sy'n cydweithredu.
4. Pan fo person perthnasol sy'n cael ei gyflogi i weithio mewn ysgol yn bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor a'r pwnc o dan ystyriaeth ynddo yw penodi olynydd i'r person hwnnw, rhaid iddo ymneilltuo o'r cyfarfod pan ystyrir neu pan drafodir y mater o dan sylw a rhaid iddo beidio â phleidleisio ar unrhyw gwestiwn sy'n ymwneud â'r mater hwnnw.
5. Nid yw'r ffaith bod person yn aelod o gyd-bwyllgor o gorff llywodraethu sy'n cydweithredu mewn mwy nag un ysgol o dan unrhyw amgylchiadau i'w ystyried fel gwrthdaro buddiannau at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn galluogi cyrff llywodraethu ysgolion i ddatblygu trefniadau gweithio ar y cyd ac, os ydynt yn dymuno, i ddirprwyo arfer eu swyddogaethau i un cyd-bwyllgor neu fwy.
Mae rheoliad yn darparu y bydd y Rheoliadau'n dod i rym ar 16 Mawrth 2008. Yn rheoliad 2 ceir y darpariaethau dehongli.
Mae rheoliad 3 yn galluogi dau neu fwy o gyrff llywodraethu ysgolion i drefnu bod eu swyddogaethau'n cael eu cyflawni ar y cyd a dirprwyo arfer y swyddogaethau hynny i gyd-bwyllgor, i'r graddau y caniateir dirprwyo o'r fath o dan Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.
Mae rheoliadau 4 i 10 yn ymdrin â sefydlu, aelodaeth a thrafodion cyd-bwyllgorau. Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer y cyrff llywodraethu sy'n cydweithio i sefydlu cyd-bwyllgor, gan gynnwys penderfynu ei gyfansoddiad, ei aelodaeth a'i gylch gorchwyl y mae'n rhaid eu hadolygu'n flynyddol. Mae'r cyd-bwyllgor yn penderfynu ei gworwm ei hun (nad yw'n llai na thri llywodraethwr), yn penodi ei gadeirydd ei hun (y gellir ei symud o'i swydd ar unrhyw adeg) a chaiff benodi aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr y penderfynir eu hawliau pleidleisio gan y cyrff llywodraethu sy'n cydweithio.
Rhaid i'r cyd-bwyllgor benodi clerc i gynnull ei gyfarfodydd a sicrhau bod cofnodion o'i drafodion yn cael eu llunio (rheoliad 5). Mae rheoliad 6 yn darparu y caiff cyd-bwyllgor benodi "aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr", nad ydynt yn llywodraethwyr ac y caniateir rhoi hawliau pleidleisio iddynt gan y cyrff llywodraethu sy'n cydweithredu (yn ddarostyngedig i gyfyngiadau penodol) os ydynt dros 18 oed. Dylai aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr fod yn bobl na fyddent wedi'u hanghymhwyso rhag bod yn llywodraethwyr o dan Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005. O dan reoliad 7, mae pwer gan gyd-bwyllgorau i benderfynu pwy gaiff fynychu eu cyfarfodydd. Mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer cynnull cyfarfodydd a phleidleisio.
Mae rheoliad 9 a'r Atodlen yn ymdrin â gwrthdaro buddiannau a'r amgylchiadau pan fo'n rhaid i aelodau o gyd-bwyllgor ac eraill sydd â hawl fel arall i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd o'r cyd-bwyllgor ymneilltuo o'r cyfarfod a pheidio â phleidleisio. Yr egwyddor gyffredinol yw pan fo gwrthdaro rhwng buddiannau person o'r fath a buddiannau'r cyrff llywodraethu sy'n cydweithredu, neu pan fo egwyddorion cyfiawnder naturiol yn ei gwneud yn ofynnol bod gwrandawiad teg yn cael ei gynnal a bod unrhyw amheuaeth resymol ynghylch gallu person i weithredu'n ddiduedd, dylai ymneilltuo o'r cyfarfod hwnnw a pheidio â phleidleisio.
Mae rheoliad 10 yn ymdrin â llunio cofnodion cyfarfodydd y cyd-bwyllgor a chyhoeddi'r cofnodion.
2002 p.32; yn rhinwedd y diffiniad o "regulations" yn adran 212 o Ddeddf 2002, mae'r Rheoliadau hyn a wneir gan Weinidogion Cymru yn gymwys o ran Cymru. Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [1]
O.S. 2005/2914 (Cy.211) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006/873 (Cy.81) a chan Reoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru 2005/3200 (Cy.236) a Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywial) (Cymru) 2007 Rheoliadau 2007/944 (Cy.80). Back [2]
O.S. 2006/ 873 (Cy.81). Back [3]
Yn unol ag adran 24(6) o Ddeddf 2002, mae unrhyw gyfeiriad at gorff llywodraethu ysgol i'w ddehongli o ran ysgol a ffederaleiddiwyd fel cyfeiriad at gorff llywodraethu'r ffederasiwn. Back [4]
2004 p.33. Back [5]
O.S. 2005/2915 (Cy.212). Back [6]